Cyflwyno sgriptiau ar gyfer cynyrchiadau heb eu sgriptio

URN: SKSP4
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud ag ysgrifennu sgriptiau, ciwiau neu ddolenni ar gyfer cynhyrchiad heb ei sgriptio neu gyfarwyddo ysgrifennwyr eraill er mwyn iddyn nhw fedru cyflwyno'r hyn sydd ei angen. Gall hyn fod yn berthnasol i ddarllediadau, cyhoeddiad ar-lein neu ddefnydd aml-lwyfan.

Mae'n ymwneud ag ysgrifennu drafftiau, gwirio'r deunydd ysgrifenedig terfynol ar gyfer cywirdeb ac addasrwydd i'w bwrpas, ac awgrymu diwygiadau ac addasiadau mewn ffordd gynorthwyol ac adeiladol.

Mae hefyd yn ymwneud â gofalu bod y tôn a'r arddull ysgrifennu yn briodol ar gyfer y cynhyrchiad.

Bydd angen ichi fod yn ystyriol nad ydy'r broses greadigol, o ran ei natur, yn ddiriaethol. Felly, bydd angen ichi reoli ystod o berthnasau creadigol mewn ffordd hyblyg a chydweithredol er mwyn llunio sgript effeithiol.

Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sydd ynghlwm â datblygu cynhyrchiad heb ei sgriptio gan gynnwys gweithredwyr cynhyrchu, cynhyrchwyr cyfresi a rheolwyr cynhyrchu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​llunio cyfarwyddiadau sy'n cynnig gwybodaeth gywir ac eglur am ganfyddiadau'r gwaith ymchwil
  2. cynhyrchu cyfarwyddiadau sy'n cydymffurfio gydag ymdriniaethau y cytunwyd arnyn nhw ynglŷn â darllediadau neu gyhoeddiadau ar-lein
  3. gwirio fod cyfarwyddiadau ond yn trafod manylion hanfodol ac yn cynnig ffynonellau perthnasol ar gyfer cyngor a gwybodaeth bellach
  4. caniatau digon o amser i ysgrifennu eitemau o fewn y terfynau amser y cytunwyd arnyn nhw

  5. sicrhau y caiff y cynnwys ei addasu pan fo'i angen er mwyn adlewyrchu newidiadau i gynyrchiadau

  6. cadarnhau unrhyw newidiadau gyda gwneuthurwyr penderfyniadau
  7. defnyddio gwybodaeth gan ffynonellau priodol er mwyn gwirio bod cyfraniadau ysgrifenedig yn ffeithiol gywir
  8. ysgrifennu cyfraniadau mewn arddull a hyd sy'n briodol i'r ymdriniaethau y cytunwyd arnyn nhw ar gyfer rhaglenni, trosleisio, dolenni, ciwiau neu ddefnydd aml-lwyfan
  9. cynnig awgrymiadau eglur ar gyfer cywiro, diwygio neu wella ar adegau priodol
  10. gofalu caiff gwaith ei gwblhau'n brydlon ac oddi fewn cyfyngiadau'r gyllideb
  11. gofalu bod y cynnwys yn cydymffurfio gyda chanfyddiadau'r gwaith ymchwil, yr ymdriniaeth y cytunwyd arni, y defnydd bwriadedig ac arddull a ffurf y cynhyrchiad
  12. ​gwirio bod y cynnwys ysgrifenedig a'r elfennau sain-gweledol yn ategu ei gilydd
  13. gwirio bod y cynnwys ysgrifenedig yn cydymffurfio gydag ystyriaethau cyfreithiol a moesegol sy'n berthnasol i'r cynyrchiadau
  14. cyfeirio deunydd a all fod yn sensitif i'r bobl briodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i lunio cyfarwyddyd, sgript neu ymdriniaeth y cytunwyd arnyn nhw
  2. sut i gynorthwyo ysgrifennwyr mewn ffordd ddefnyddiol
  3. materion cyfreithiol a moesegol dichonol cyffredin a all godi yn y ffurf ysgrifenedig a sut i ddatblygu cynnwys neu sgriptiau i osgoi'r problemau hynny
  4. y graddfeydd amser, cyllidebau a gofynion golygyddol ar gyfer drafftio cynnwys
  5. at bwy ddylech chi gyfeirio deunydd a allai fod yn sensitif
  6. yr arddulliau ysgrifennu priodol ar gyfer gwahanol fathau o lwyfannau cyflwyno
  7. sut i lunio cyfarwyddiadau priodol ar gyfer gwahanol hydoedd o amser
  8. sut i wirio sgriptiau a chynnwys ar gyfer cywirdeb
  9. sut i gydweithio gydag eraill gan gynnwys sut i awgrymu gwelliannau neu ddewisiadau eraill mewn ffordd adeiladol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSP4

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu, Cynorthwyydd Cynhyrchu

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Cynhyrchiad, Sgript, Heb ei sgriptio, Cyfarwyddiadau, Creadigol, Cynnwys