Rheoli Gwariant y cynhyrchiad

URN: SKSP32
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â rheolaeth gyffredinol o wariant y cynhyrchiad yn erbyn y gyllideb y cytunwyd arni. 

Mae'n ymwneud â monitro a rheoli gwariant yn unol â'r gyllideb a goruchwylio'r gwaith paratoi adroddiadau ariannol rheolaidd ar gyfer y comisiynydd, cyllidwr neu warantwr cwblhau.

Mae hefyd yn ymwneud â medru adnabod meysydd sy'n achosi pryder yn ymwneud â'r gwariant dyddiol ynghyd â dod o hyd i adnoddau i dalu am y costau hyn.

Mae'n ymwneud â gweithredu'n briodol pan fo amrywiaethau sylweddol i'r gyllideb a chyflwyno'r wybodaeth hyn i'r bobl berthnasol yn brydlon.

Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer Cynhyrchwyr Llinell, Cyfrifwyr Cynyrchiadau a Rheolwyr Cynyrchiadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cyfarwyddo aelodau'r tîm cynhyrchu ynghlych systemau rheoli a monitro gwariant ar adegau priodol
  2. cadarnhau bod y bobl berthnasol yn ymwybodol o sut i lunio adroddiadau gwariant a gwybodaeth gysylltiedig
  3. cadarnhau bod penaethiaid adrannau yn meddu ar yr wybodaeth gyfredol am y gyllideb sydd ar gael ynghyd â gwariant a gweithdrefnau i'w gweithredu pan fo nhw'n rhagweld amrywiadau neu orwario
  4. neilltuo cyfrifoldeb dros fonitro a rheoli gwariant i'r bobl briodol
  5. awdurdodi gwariant yn unol â'r gweithdrefnau cynhyrchu
  6. gofalu y caiff manylion gwariant eu cofnodi ar becyn cyfrifiadurol priodol a chyfaddas
  7. gwirio bod y gwariant sydd grybwyll yn yr adroddiadau yn cyd-fynd â'r gyllideb
  8. trafod amrywiaethau yn y gyllideb gyda chyfrifwyr y cynhyrchiad pan fo'n briodol
  9. cynnig adroddiadau ariannol cywir a diweddar pan fo'u hangen
  10. cofnodi cynnydd yn unol â'r gyllideb i gydweithwyr perthnasol sy'n gweithio ar y cynhyrchiad
  11. defnyddio dulliau dibynadwy a chyson o fonitro gwariant o gymharu â'r cyllidebau y cytunwyd arnyn nhw
  12. rhagweld meysydd o orwario dichonol o'r wybodaeth yn yr adroddiadau gwariant dyddiol
  13. trin a thrafod a chytuno ar unrhyw amrywiaethau gofynnol rhwng neu o fewn penawdau'r gyllideb er mwyn bodloni cyfyngiadau'r gyllideb
  14. cofnodi crynodeb eglur o'r gweithrediadau y cytunwyd arnyn nhw
  15. rhannu penderfyniadau ynghylch cyllidebau gyda'r bobl briodol heb oedi

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddehongli adroddiadau gwariant, gan gynnwys datganiadau costau wythnosol, llif arian, adroddiadau costau, adroddiadau costau dyddiol o gymharu â'r costau sydd wedi'u rhagamcan yn y gyllideb (Hot costs) a chynlluniau cyllid 
  2. pwysigrwydd rheoli gwariant yn effeithiol i sicrhau bod y cynhyrchiad yn effeithlon a'ch dyletswydd a chyfrifoldebau ynghlwm â hyn
  3. yr egwyddorion a systemau sy'n tanategu rheolaeth gwariant effeithiol
  4. sut i gadarnhau ymrwymiad pobl eraill tuag at ofalu bod y gwariant o fewn paramedrau'r gyllideb y cytunwyd arnyn nhw
  5. gweithdrefnau yn ymwneud ag amrywiaethau wedi'u rhagweld neu orwario
  6. pwysigrwydd cadw cofnodion cywir a chynhwysfawr a sut i sefydlu systemau i gyflawni hyn
  7. manteision ac anfanteision gwahanol becynnau rheoli cyllidebu a gwariant
  8. egwyddorion cyfrinachedd yn ymwneud â chyllidebau a pha wybodaeth gellir ei rhannu gyda phwy
  9. gofynion cofnodi ariannol  
  10. pwysigrwydd monitro gwariant yn erbyn cyllidebau a beth sy'n gyfwerth ag amrywiaeth sylweddol o'r gyllideb
  11. gweithdrefnau cynhyrchu ar gyfer awdurdodi taliadau  
  12. pwysigrwydd rheoli cyllidebau'n effeithiol er mwyn gofalu bod y cynhyrchiad yn effeithiol ynghyd â'ch dyletswyddau a'ch cyfrifoldebau yn ymwneud â hyn  
  13. sut i lunio a chyflwyno adroddiadau ariannol cywir
  14. cydweithwyr perthnasol y dylech roi gwybodaeth am gynnydd iddyn nhw, gan gynnwys arianwyr, gwarantwyr cwblhau a darlledwyr
  15. sut i ofalu caiff amodau a gofynion y bond cwblhau eu bodloni

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSP32

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Teledu, Ffilm, Cynhyrchiad, Gwariant, Cyllideb