Cynhyrchu ffilmio ar leoliad ar gyfer cynyrchiadau

URN: SKSP26
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynhyrchu ffilmio ar leoliad. Gall hyn fod yn rhaglen gyflawn neu fewnosodiadau i'w cynnwys mewn rhaglen.

Mae'n ymwneud â chynllunio'r gwaith ffilmio, strwythuro'r stori a chydweithio gyda'r criw camera a sain ar leoliad. Mae hefyd yn ymwneud â deall ffurfiau'r camera a goruchwylio trosglwyddo neu gludo data i'r cyfleusterau ôl gynhyrchu.

Bydd angen ichi fod yn drefnus er mwyn gofalu na chaiff y cyfarpar ei gamgadw, ei golli neu ei ddifrodi. Bydd angen ichi ddangos eich bod yn ymwybodol o amseriadau gofynnol ar gyfer cynyrchiadau a gofalu eich bod chi'n eu bodloni. Os ydych chi'n ffilmio mewnosodiad ar gyfer rhaglen, bydd angen ichi wybod arddull a ffurf y cynhyrchiad ynghyd â hyd gofynnol y darn.   

Mae'n bosib y byddwch yn gweithio ar eich liwt eich hun, neu mae'n bosib y bydd angen ichi gynllunio ar gyfer criw ac adnoddau cywir i ddiwallu anghenion y cynhyrchiad. Mae'n bwysig gofalu eich bod yn gweithio'n effeithiol gan gydymffurfio â'r amserlen a'r amseriadau y cytunwyd arnyn nhw er mwyn ffilmio'r saethiadau gofynnol.

Mae hefyd yn bwysig eich bod yn dwyn i ystyriaeth y ffactorau amgylcheddol fel gwres, oerni, glaw neu dywod wrth gadw data oherwydd fe all y rhain niweidio'r saethiadau rydych wedi'u ffilmio.

Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy'n gweithio ar leoliad ac fe all fod yn berthnasol i swyddi Sain, Ffotograffiaeth, Cynhyrchu neu Gyfarwyddo.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​penderfynu sut i adrodd y stori er mwyn cydymffurfio gyda gofynion cynnwys ac arddull y cynyrchiadau
  2. dewis cyfweledigion a chyfranwyr sy'n addas ar gyfer y cynyrchiadau
  3. cymeradwyo'r dewis o leoliadau gan ddwyn i ystyriaeth gofynion y cynhyrchiad a gwirio eich bod yn derbyn y caniatâd perthnasol
  4. cynllunio'r cynnwys, strwythur, cefndiroedd a meintiau saethiadau'r cyfweliadau er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad
  5. cynllunio saethiadau lleoliadau er mwyn creu'r lluniau mwyaf syfrdanol a dangos yr hynny sy'n bosib ei gyflawni
  6. pennu hyd, cymhareb agwedd a ffurf ffilmio'r  mewnosodiad er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad  
  7. cyfarwyddo'r criw neu gyflwynwyr yn drylwyr cyn ffilmio gan fod yn barod i dderbyn eu hawgrymiadau
  8. penderfynu ar y cyfarpar a deunyddiau sydd eu hangen arnoch chi, eu harchebu a'u gwirio cyn y diwrnod ffilmio os ydych chi'n ffilmio ar eich pen eich hun
  9. cofnodi a labelu'r holl ddata yn unol â gofynion y cynhyrchiad
  10. casglu a chadw data mewn ffordd ddiogel a phriodol
  11. creu sawl copi o'r data rydych yn ei gasglu er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad
  12. cynnig cyfarwyddiadau eglur i gyfranwyr, criw neu gyflwynwyr ar adegau priodol
  13. gwneud penderfyniadau sy'n gofalu bod modd ichi gadw at yr amserlenni heb gyfaddawdu eitemau wedi'u cwblhau pan fo oedi
  14. trefnu sgriptiau'r cyflwynwyr i'r camera er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad, penderfynu pa gwestiynau ychwanegol sydd eu hangen a pha gwestiynau sydd angen eu hailadrodd fel ffilmiau cadarnhaol 
  15. trafod yr union ofynion technegol yn ymwneud â'r ffilmio gyda'r cast a chriw cyn mynd ati i ffilmio
  16. pennu ymlaen llaw oes angen i'r criw fod yn anymwthgar a chynllunio er mwyn gofalu eich bod yn cyflawni hyn
  17. gofalu eich bod yn gweithredu'r gweithdrefnau priodol er mwyn cynhyrchu cynnyrch ffilm sydd  o safon darlledu
  18. gofalu bod cyfranwyr a pherchnogion lleoliadau yn llofnodi ffurflenni caniatâd a rhyddhau ar adegau priodol
  19. gadael lleoliadau ar ddiwedd diwrnod ffilmio gan ofalu bod cyflwr y lleoliadau'n union fel oedden nhw pan gyrhaeddoch chi
  20. pacio a dychwelyd cyfarpar a deunyddiau i bobl briodol yn syth wedi ichi eu defnyddio
  21. cadarnhau bod gweithwyr ôl gynhyrchu wedi derbyn y data rydych wedi'i gasglu ar y ffurf briodol
  22. cadarnhau bod asesiad risg cywir a chyfredol wedi'i gyflawni
  23. cynhyrchu lluniau llonydd a deunydd Cysylltiadau Cyhoeddus effeithiol er mwyn marchnata'r rhaglen

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​ffactorau technegol y ffilmio gan gynnwys ffurf y ffilm, amser ffilmio, cymhareb agwedd a'r safle sydd angen eu rhannu gyda'r criw cyn mynd ati i ffilmio
  2. sut, pryd a pham dylid gofalu bod y camera yn un sy'n cydbwyso lliwiau
  3. os ydych chi'n ffilmio cynnyrch sgrîn eang, pam a sut ddylech chi fframio pob saethiad er mwyn ei warchod ar gyfer ei ddarlledu ar ffurf teledu
  4. sut i gofnodi a labelu data'n gywir
  5. sut i fanteisio i'r eithaf ar yr amser ac adnoddau er mwyn ichi gynnal gwerthoedd cynhyrchu uchel, gan ofalu eich bod yn cwblhau'r rhaglen mewn pryd a'ch bod yn cadw at y gyllideb
  6. sut i ofalu eich bod yn cydymffurfio gyda chyfreithiau preifatrwydd a thresmasu wrth ffilmio ar leoliad
  7. yr angen i fod yn hyblyg ac ymateb i ddigwyddiadau sy'n datblygu ar leoliad
  8. pa saethiadau sydd angen ichi eu ffilmio er mwyn llunio golygfa a fydd yn cyd-fynd a lle na fydd unrhyw broblemau o ran dilyniant
  9. fframio, cyfansoddiad, dyfnder y maes a galluoedd gwahanol lensys a chamerâu
  10. sut i ofalu caiff data ei gasglu a'i gadw'n briodol ar leoliad
  11. sut i greu sawl copi o'r data rydych wedi'i gasglu a gofalu na all y tywydd neu amgylchedd eu niweidio  
  12. pryd mae'n briodol ichi ddefnyddio microffonau radio a'r rhai priodol i'w defnyddio ar gyfer y dasg
  13. arbenigedd cyfranwyr, criw a chyflwynwyr a sut i ddangos eich bod chi'n cydnabod eu harbenigedd
  14. pryd fydd angen goleuadau a lle dylid eu gosod yn ddiogel ac yn effeithiol
  15. lledred amser datguddio, amodau golau trafferthus ac effaith cymysgu golau mewnol ac allanol  
  16. sut i ofalu bod cyflwynwyr a chyfweledigion y perfformio hyd eithaf eu gallu
  17. sut i gyfweld â chyfranwyr ar y camera
  18. sut i guddio hunaniaeth cyfweledigion pan yn briodol
  19. peryglon lluniau sy'n fflachio a sut i olygu dilyniannau o'r fath er mwyn gofalu eich bod yn cydymffurfio gyda safonau'r diwydiant
  20. sut i gynnal asesiad risg o'r lleoliad a phwysigrwydd ail-adrodd hyn os oes angen
  21. sut i ofalu caiff data ei gyflwyno'n effeithlon i weithwyr ôl gynhyrchu
  22. y gofynion marchnata ar gyfer y cynhyrchiad a sut i dynnu lluniau cyhoeddusrwydd effeithiol er dibenion Cysylltiadau Cyhoeddus yn y dyfodol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSP26

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Teledu, Ffilm, Cynhyrchiad, Lleoliad