Trefnu profiadau preswyl

URN: SKAOP17
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â goruchwylio darparu cyfleusterau a gwasanaethau preswyl i gyfranogwyr, fel rhan o addysg awyr agored, hyfforddiant neu brofiad hamdden fel arfer.

Mae'r safon hon yn cynnwys pedwar deilliant, sef

  1. goruchwylio amser cyrraedd cyfranogwyr

  2. goruchwylio trefniadau dyddiol cyfranogwyr

  3. trefnu trefniadau cysgu cyfranogwyr

  4. goruchwylio amser ymadael cyfranogwyr

Mae'r safon hon ar gyfer staff profiadol sy'n gweithio yn yr awyr agored ac sy'n gallu gweithio heb unrhyw oruchwyliaeth uniongyrchol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​**Goruchwylio amser cyrraedd cyfranogwyr

1. casglu'r wybodaeth angenrheidiol am y **cyfranogwyr ac eraill, eu hanghenion a'u rhaglen

  1. cadarnhau bod y trefniadau llety ac arlwyo yn cyfarfod ag anghenion gwybyddus y cyfranogwyr ac eraill

  2. sicrhau bod y staff, y cyfleusterau a'r cyfarpar angenrheidiol yn barod erbyn y bydd y cyfranogwyr ac eraill yn cyrraedd

  3. sicrhau bod y broses gyrraedd yn dilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  4. datrys ymholiadau a phroblemau a godwyd gan eraill a'r cyfranogwyr gan ddilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  5. crisialu gydag eraill unrhyw faterion dadleuol a gwrthdrawiadol

  6. ceisio adborth gan y cyfranogwyr ac eraill am eu bodlonrwydd â'r cyfleusterau a'r trefniadau

  7. holi unigolion ymhellach am ddigwyddiadau a phroblemau, gan ddilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

**Goruchwylio trefniadau dyddiol cyfranogwyr

9. sicrhau bod trefniadau ac adnoddau sy'n ymwneud ag **anghenion preswyl dyddiol y cyfranogwyr ac eraill ar gael a'u bod yn cwrdd â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  1. sicrhau bod y staff a'r cyfranogwyr ac eraill yn deall y trefniadau a'u bod yn cael cyfle i ofyn cwestiynau a chynnig adborth

  2. sicrhau bod anghenion bob dydd y cyfranogwyr ac eraill yn cael eu bodloni

  3. ymdrin ag ymholiadau a newidiadau i'r trefniadau y gofynnwyd amdanynt gan ddilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  4. cynnal a chadw gofal cwsmeriaid drwy gydol y broses yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau eich sefydliad

**Trefnu trefniadau cysgu cyfranogwyr

14. sicrhau bod y **cyfranogwyr ac eraill yn deall y trefniadau cysgu

  1. goruchwylio trefnu'r trefniadau cysgu gyda'r cyfranogwyr, eraill a chydweithwyr gan ddilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  2. sicrhau bod trefniadau diogeledd ar gael ar gyfer y cyfranogwyr ac eraill dan sylw

  3. rheoli unrhyw faterion sy'n codi yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  4. ceisio adborth gan eraill a'r cyfranogwyr ynglŷn â'r trefniadau cysgu

  5. ymateb i'r adborth yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad ac amcanion y rhaglen

**Goruchwylio amser ymadael cyfranogwyr

19. sicrhau bod gan **eraill y wybodaeth berthnasol am amser ymadael arfaethedig y cyfranogwyr

  1. sicrhau bod y cyfranogwyr yn deall y trefniadau a'r gweithdrefnau ar gyfer ymadael, gan gynnwys pwysigrwydd peidio gadael eiddo ar eu hôl

  2. sicrhau bod y cyfranogwyr, eraill a'r cyfleusterau a'r cyfarpar yn barod ar gyfer ymadael

  3. sicrhau bod yr ymadael yn mynd yn unol â'r trefniadau

  4. datrys unrhyw ymholiadau a phroblemau a godwyd gan y cyfranogwyr ac eraill gan ddilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  5. ceisio adborth gan y cyfranogwyr ynglŷn â'u bodlonrwydd â'r trefniadau ymadael

  6. holi unigolion ymhellach am ddigwyddiadau a phroblemau, gan ddilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​**Goruchwylio amser cyrraedd cyfranogwyr

**1. pam ei bod yn bwysig sicrhau bod amser cyrraedd y cyfranogwyr yn mynd yn hwylus

  1. pa wybodaeth sydd ei hangen cyn ac yn ystod amser cyrraedd y cyfranogwyr

  2. y trefniadau llety ac arlwyo sy'n addas ar gyfer ystod o wahanol fathau o gyfranogwyr a rhaglenni

  3. anghenion penodol all fod gan gyfranogwyr mewn perthynas â llety ac arlwyo

  4. y cyfleusterau a'r cyfarpar all fod eu hangen ar gyfer amser cyrraedd y cyfranogwyr

  5. pam ei bod yn bwysig cynnal a chadw gweithdrefnau'r sefydliad wrth oruchwylio amser cyrraedd

  6. y mathau o broblemau dadleuol a gwrthdrawiadol all ddigwydd a phryd i geisio eglurhad

  7. pam ei bod yn bwysig ceisio adborth gan y cyfranogwyr ynglŷn â'r trefniadau a'r cyfleusterau

  8. y mathau o ddigwyddiadau a phroblemau all godi yn ystod yr amser cyrraedd a sut i ddelio â'r rhain gan ddilyn gweithdrefnau perthnasol y sefydliad

**Goruchwylio trefniadau dyddiol cyfranogwyr

**10. pwysigrwydd dilyn polisïau a gweithdrefnau'r sefydliad mewn perthynas â goruchwylio cyfranogwyr ac eraill

  1. sut i sicrhau bod trefniadau ac adnoddau sy'n gysylltiedig ag anghenion preswyl dyddiol y cyfranogwyr ar gael

  2. y mathau o anghenion preswyl all fod gan gyfranogwyr

  3. sut i sicrhau bod y cyfranogwyr ac eraill yn deall y trefniadau a'u bod yn cael cyfle i ofyn cwestiynau a chynnig adborth

  4. pwysigrwydd parhau i oruchwylio trefniadaeth ddyddiol y cyfranogwyr

  5. sut i sicrhau bod anghenion preswyl dyddiol y cyfranogwyr yn cael eu bodloni

  6. y mathau o newidiadau y gofynnwyd amdanynt a all ddigwydd a sut i ddelio â'r rhain

  7. pwysigrwydd amserau noswylio a threfniadau cysgu a'r elfennau sensitif sy'n gysylltiedig â'r rhain fel prif agwedd y profiad preswyl

  8. sut i gynnal a chadw gofal cwsmeriaid drwy gydol y broses

  9. egwyddorion gofal cwsmeriaid mewnol ac allanol o safon

**Trefnu trefniadau cysgu cyfranogwyr

**20. pwysigrwydd dilyn gweithdrefnau'r sefydliad a gofynion cyfreithiol mewn perthynas â threfniadau cysgu

  1. pwysigrwydd darparu trefniadau cysgu sy'n cyfarfod ag anghenion y cyfranogwyr a'r rhaglen

  2. sut i drefnu trefniadau cysgu ar gyfer cyfranogwyr

  3. pwysigrwydd cadw at drefniadau diogeledd ar gyfer cyfranogwyr, yn arbennig plant a phobl ifanc

  4. pam ei bod yn bwysig sicrhau bod y cyfranogwyr yn ymwybodol o'r trefniadau cysgu

  5. y mathau o geisiadau am newidiadau i drefniadau cysgu y gellir eu gweithredu, y rhesymau dros y rhain a sut i ddelio â nhw yn unol ag amcanion y rhaglen

  6. pwysigrwydd goruchwylio trefniadau cysgu a sut i wneud hyn gyda sensitifrwydd, yn unol â'r gwahanol fathau o gyfranogwyr

  7. problemau a all godi a sut i ddelio â'r rhain

  8. pwysigrwydd ceisio adborth ar y profiad preswyl

**Goruchwylio amser ymadael cyfranogwyr

**29. pam ei bod yn bwysig sicrhau bod yr amser ymadael yn mynd yn hwylus a phwysigrwydd cadw at reoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  1. pam ei bod yn bwysig cadw trosolwg o'r amser ymadael a sut i wneud hynny

  2. pa wybodaeth sy'n berthnasol i gyfranogwyr ac eraill ar fater yr amser ymadael arfaethedig

  3. sut i sicrhau bod gan y cyfranogwyr ac eraill y wybodaeth sydd ei hangen arnynt ar fater yr amser ymadael arfaethedig

  4. pam ei bod yn bwysig sicrhau bod y cyfranogwyr ac eraill yn deall y trefniadau a'r gweithdrefnau ar gyfer ymadael, gan gynnwys pwysigrwydd peidio gadael eiddo ar eu hôl

  5. cyfleusterau a chyfarpar y gall fod angen eu trefnu ar gyfer yr amser ymadael

  6. sut i sicrhau bod yr amser ymadael yn mynd yn unol â'r trefniadau

  7. sut i ddatrys ymholiadau a phroblemau a godwyd gan gyfranogwyr ac eraill

  8. sut i geisio adborth gan y cyfranogwyr ac eraill ynglŷn â'u bodlonrwydd â'r trefniadau ymadael

  9. sut i ddadansoddi ac ymateb i adborth gan y cyfranogwyr ac eraill ar eu bodlonrwydd â'r profiad preswyl

  10. sut i holi unigolion ymhellach am ddigwyddiadau a phroblemau, gan ddilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Cyfranogwyr

1.1 oedolion

1.2 plant a phobl ifanc

1.3 grwpiau nad yw eu haelodau'n adnabod ei gilydd

1.4 cyfranogwyr sydd ag anghenion penodol mewn perthynas â'r gweithgaredd

1.5 unigolion

1.6 grwpiau

2. Cydweithwyr

2.1 staff ar lefel uwch

2.2 gweithio ar yr un lefel

2.3 y rhai hynny sy'n gweithio mewn swyddogaethau atodol

3. Eraill

3.1 cleientiaid

3.2 rhieni

3.3 oedolion eraill fel arweinwyr partïon

4. Anghenion

4.1 llety

4.2 bwyd a diod

4.3 anghenion deietegol arbennig

4.4 cefnogaeth bersonol

4.5 diwylliannol a chrefyddol

5. Trefniadau cysgu

5.1 tu mewn

5.2 awyr agored

5.3 sengl

5.4 rhannu

5.5 oddi ar y safle

5.6 amseru

6. Digwyddiadau a materion

6.1 eiddo coll

6.2 personau ar goll

6.3 cwynion

6.4 awgrymiadau

7. Adborth

7.1 ffurfiol

7.2 anffurfiol

7.3 cadarnhaol

7.4 negyddol

7.5 awgrymiadau ar gyfer gwella


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​**Cwsmeriaid mewnol ac allanol

**Cwsmeriaid mewnol yw pobl sy'n gweithio'n uniongyrchol yn eich sefydliad neu'n anuniongyrchol o bosib mewn sefydliadau partner neu is-gontractwr.  Cwsmeriaid allanol fel arfer yw'r rhai hynny sydd wedi talu, neu yr hoffech eu trin fel pe baent wedi talu.

**Rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

**Yn nodweddiadol, bydd y dogfennau hyn yn gosod y safonau, y gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer cyflwyno gweithgaredd.  Gallant gynnwys rhestri cyfarpar, amlinelliad o gynlluniau sesiwn, pwyntiau a gweithdrefnau diogelwch.  Gallant hefyd gyfeirio at gyrff llywodraethol Cenedlaethol (CLlC) penodol neu gyrff gweithgarwch cenedlaethol eraill perthnasol yn nhermau gwybodaeth a chanllawiau sy'n ymwneud â gweithgareddau.  Gall y dogfennau hefyd gyfeirio at lefelau staffio a safonau yn nhermau cymarebau, cymwysterau a'r hyfforddiant/asesiad yr ymgymerwyd ag e, a gall gyplysu â CLlC, ymgynghorwyr technegol a nodweddion allanol neu fewnol eraill.  Mae i ddogfennau o safon dda sawl defnydd ac efallai y bydd ar amrywiaeth o bartïon mewnol ac allanol a budd-ddeiliad eu hangen.  Mae'r dogfennau o gymorth i gyflwyno gwybodaeth glir a chyson i aelodau staff ac eraill


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAC39

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Hamdden; teithio a thwristiaeth, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

arolygaeth; preswyl; profiadau; cyfleusterau; goruchwylio; cyfranogwyr; gwasanaethau; awyr agored