Darparu adnewyddiad o’r croen gan ddefnyddio triniaethau plicio croen gradd ganolig

URN: SKANSC9
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Ewinedd,Therapi Harddwch,Triniaethau Cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma'n cydfodoli â, SKANSC1: Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol yn ystod gweithdrefnau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol a SKANSC2: Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol o fewn yr amgylchedd waith. Mae'r safon yma ar gyfer ymarferwyr esthetig uwch sy'n cyflawni triniaethau plicio croen gradd ganolig diogel ac effeithiol i wella ac adnewyddu cyflwr y croen. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Rhaid i'r ymarferydd esthetig gael cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gweithle neu ei gyffelyb a gallu cyflawni'r swyddogaethau o fewn: Cefnogaeth bywyd sylfaenol a gallu cael gafael ar gyfarpar cefnogi bywyd fel sydd wedi ei nodi yn y cynllunrheoli cymhlethdodau. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr wyneb yn wyneb gyda’r unigolyn a cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth plicio croen gradd ganolig 2. trafod er mwyn sefydlu amcanion yr unigolyn, ynghŷd â’i bryderon, disgwyliadau a chanlyniadau disgwyliedig yr unigolyn er mwyn hysbysu’r cynllun triniaeth plicio croen gradd ganolig i gynnwys:

2.1 dewisiadau triniaeth amgen
2.2 dosbarthiad a nodweddion y croen a’i gyflwr
2.3 rhaglen breimio baratoadol y croen
3. ailadrodd, cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y driniaeth plicio croen gradd ganolig arfaethedig i gynnwys:
3.1 gwrth weithredoedd *
3.2 adweithiau niweidiol
4. sicrhau cydsyniad gwybodus ysgrifenedig yr unigolyn ar gyfer y driniaeth plicio croen gradd ganolig, gan ganiatau amserlen ddigonol i’r unigolyn wneud dewis gwybodus 
5. dewis cynnyrch paratoi glendid effeithiol er mwyn cwrdd ag anghenion yr unigolyn yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr 
6. paratoi man triniaeth yr unigolyn a sicrhau amddiffyniad priodol ar gyfer y *safleoedd gwaharddedig yn unol â’r protocol triniaeth plicio croen gradd ganolig 
7. dewis, paratoi a defnyddio’r fformiwleiddiad o gyfryngau plicio’r croen ar gyfer dosbarthiad a chyflwr croen yr unigolyn yn ôl y canlynol:
7.1 effeithiau ffisiolegol
7.2 cryfder mewn canran 
7.3 gludiogrwydd
7.4 pH 
7.5 pKa
8. dilyn y protocol triniaeth plicio croen gradd ganolig er mwyn sicrhau ymdriniaeth wastad o’r man triniaieth i gynnwys:
8.1 parthau gwahanol 
8.2 dyfnderoedd y plisg
8.3 parhad
9. monitro iechyd, lles ac adwaith y croen drwy gydol y driniaeth plicio croen gradd ganolig 
10. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
11. dilyn y protocol triniaeth plicio croen gradd ganolig ar gyfer niwtraleiddio a chael gwared o’r cyfrwng plicio yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr 
12. cwblhau’r driniaeth yn unol â’r protocol triniaeth plicio croen gradd ganolig, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol 
13. cymryd a chadw delweddau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn yn unol â gofynion yswiriant, polisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol 
14. cwblhau cofnodion triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol yr unigolyn a’u cadw’n unol â deddfwriaeth data 
15. defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso’r driniaeth plicio croen gradd ganolig a gweithredu’n briodol 
16. rhoi a chael cadarnhad o dderbyn y cyfarwyddiadau geiriol ac ysgrifenedig a’r cyngor a roddir i’r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth 
17. cofnodi canlyniad y driniaeth plicio croen gradd ganolig a’r gwerthusiad ohoni er mwyn cytuno ar a darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau’r dyfodol 
18. trafod a chytuno gyda’r unigolyn ar driniaethau ar gyfer y dyfodol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. pwysigrwydd cydweithredu gyda phobl broffesiynol gymwys er mwyn cefnogi arferion gwaith effiethiol a diogel

2. eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu 

3. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol
4. pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, y polisïau, y wybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am arfer orau ddiweddaraf 
5. yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma 
6. y broses heneiddio gronolegol o’r croen a’r berthynas gyda ffactorau cynhenid ac anghynenid
7. y raddfa pH a’i berthnasedd i sensitifrwydd y croen
8. gweithred crynoadau asid ac alcalin ar y croen 
9. sut a pham mae swyddogaeth rwystro’r croen yn cael ei llesteirio yn dilyn triniaeth plicio croen gradd ganolig i gynnwys:
9.1 y risg cynyddol o oleusensitifrwydd a ffyrdd o warchod y croen 
10. y mathau o, fformiwleiddiadau, y defnydd o a chyfyngiadau cyfryngau plicio croen gradd ganolig gan gymryd y canlynol i ystyriaeth:
10.1 dosbarthiad y croen
10.2 cyflwr y croen
10.3 amcanion yr unigolyn
11. effeithiau, manteision a chyfyngiadau unigol a chyfunol cyfryngau plicio croen gradd ganolig yn ôl y canlynol:
11.1 effeithiau ffisiolegol
11.2 cryfder mewn canran
11.3 pH
11.4 pKa
11.5 gludiogrwydd
12. gwahaniaethiad a dosbarthiad plisg croen gradd ganolig a’u gallu i achosi niwed 
13. y cyfryngau plicio cemegol sydd ond yn addas ar gyfer defnydd meddygol a pham 
14. canfod, cadw, trin, defnyddio a chael gwared o gyfryngau plicio croen o ddyfnder canolig yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol i gynnwys:
 14.1 enw’r cynnyrch
14.2 rhif y llwyth
14.3. cadw
14.4 dalennau data’r deunyddiau
14.4 dyddiad daw i ben
14.5 rheolaeth gwastraff
15. y rhesymau dros ddodi’r holl fformiwleiddiadau plicio croen gradd ganolig ar fyrder, ei amseriad a chael gwared ohonynt
16. yr adweithiau niweidiol sy’n gysylltiedig â’r driniaeth plicio croen gradd ganolig a sut i ymateb iddynt 
17. y cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth plicio croen gradd ganolig 
18. pam ei bod yn bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon, disgwyliadau’r unigolyn a’r canlyniadau a ddymunir a chytuno ar y cynllun triniaeth cosmetig nad yw’n llawfeddygol 
19. pwysigrwydd defnyddio cymhorthion gweledol i hysbysu’r unigolyn o’r effeithiau corfforol 
20. y strwythurau taliadau a’r dewisiadau ar gyfer triniaeth 
21. y triniaethau y gellir eu cyflawni ar y cyd â’r driniaeth plicio croen gradd ganolig neu ar ei hôl a’r risgiau cysylltiedig  
22. y mathau o raglenni preimio’r croen a’u perthnasedd i lwyddiant y driniaeth plicio croen gradd ganolig 
23. y mathau o feddyginiaethau argroenol sydd ond ar gael ar bresgripsiwn a ragnodir gan rywun proffesiynol ym maes iechyd a sut mae’n effeithio a/neu’n cefnogi rhaglen preimio’r croen a sut y gall wella iachad y croen 
24. y gofynion deddfwriaethol a digollediad ar gyfer sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer y driniaeth plicio croen gradd ganolig 
25. pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth plicio croen gradd ganolig *
26. y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr 
27. y rhesymau dros weithio’n systematig er mwyn mynd dros y cyfan o fan triniaeth yr unigolyn, yn unol â’r protocol triniaeth plicio croen gradd ganolig i gynnwys:
27.1 yr addasiadau o fformiwleiddiadau a’u dodi yn ôl y gwahanol barthau 
28. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y driniaeth plicio croen gradd ganolig 
29. y mathau o gynnyrch wedi triniaeth, ynghŷd â’u manteision a’u defnydd ar gyfer cynyddu prosesau iachau ac adnewyddu’r croen
30. manteision a’r defnydd o atalyddion tyrosinas er mwyn osgoi gorliwiad llidiol pan yn trin dosbarthiad Fitzpatrick classification, graddfa 4-6
31. y mathau o gyfryngau cemegol nad ydynt angen eu niwtraleiddio 
32. y rhesymau dros adfer lefelau pH y croen yn dilyn dodi cyfryngau plicio croen gradd ganolig 
33. y gofynion deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol ynglŷn â chymryd a chadw delweddau gweledol o fan triniaeth yr unigolyn 
34. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnod o driniaeth plicio croen gradd ganolig yr unigolyn 
35. canlyniadau disgwyliedig triniaeth plicio croen gradd ganolig 
36. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae’n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol 
37. sut i goladu, dadansoddi, crynhoi a chofnodi adborth gwerthusol mewn modd clir a chryno 
38. pwysigrwydd cofnodi canlyniad y driniaeth plicio croen gradd ganolig a’r gwerthusiad ohoni
39. y *cyfarwyddiadau a’r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth plicio croen gradd ganolig 


Cwmpas/ystod

Gwybodaeth ychwanegol

Disgwylir bod yr ymarferydd estheteg sy’n ymgeisio am y safon yma eisoes â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ymddygiadau a nodir o fewn canllawiau triniaeth yr ymarferydd estheteg a’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol cosmetig nad yw’n llawfeddygol.
Disgwylir i’r ymarferydd fod eisoes yn gallu dangos gallu mewn penderfynu’r gwrtharwyddion cymharol (cyfyngol) a llwyr (ataliol) ar gyfer y triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol. Yn ogystal â hyn, dylai’r ymarferydd esthetig allu adnabod adweithiau neu ddigwyddiadau niweidiol a gweithredu ar fyrder i’w cywiro fel ag y cytunwyd o fewn y cynllun rheoli cymhlethdodau
Disgwylir i’r safon yma gael ei defnyddio ar y cyd â SKANSC1: Rhoi arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol ar waith a’u cynnal yn ystod triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol a SKANSC2: Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol.
Dylai tystiolaeth ar gyfer eitemau a restrir o fewn yr amrediad/rhychwant gael ei ddangos yn unol â’r math penodol o driniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol sy’n cael ei chyflawni.

Amcanion yr unigolyn
*
1. adnewyddiad cynyddol o’r croen
2. gwelliant cynyddol o frychau arwynebol
3. gwelliant cynyddol mewn amrywiadau lliwiad
4. gwelliant cynyddol yng ngwëad a thyndra’r croen
5. gwelliant cynyddol yn hydradiad y croen 
6. gwelliant cynyddol o acne
7. gwelliant cynyddol o greithio

Dosbarthiad y croen

1. Graddfa Fitzpatrick 
2. Difrod-ffoto Glogau 

Nodweddion y croen

1. olewog
2. sych
3. cyfuniad
4. sensitif
5. aeddfed
6. wedi sychu
7. gorlawn
8. acne
9. afreoleidd-drau mewn lliwiad
10. dwysedd y croen

Gwrth weithredoedd

1. blansio a rhewi 
2. hyperaemia
3. naddu
4. plicio epidermaidd
5. tyndra dros dro o’r croen
6. anghysur
7. chwydd gwyn ysgafn
8. swyddogaeth rwystro ar gyfer croen sydd mewn perygl 

Safleoedd gwaharddedig*

1. llygaid
2. ffroenau
3. gwefusau
4. toriadau yn y croen

Cyfryngau plicio croen

1. Asidau Hydrocsi Alpha
2. Asidau Hydrocsi Beta 
3. Asidau Hydrocsi Poly 
4. Asidau Dicarbocsylig 
5. Asidau Cyclic / Alpha-Keto Acids
6. Asidau Asetig
7. Deilliadau Ffenol
8. fformiwleiddiadau cyfunol

Man triniaeth

1. wyneb a llinell gên
2. torso uwch
3. aelodau’r corff

Anatomeg a ffisioleg

1. strwythur a swyddogaeth systemau’r corff a’u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd
2. strwythur a swyddogaeth y croen ac atodiadau’r croen
3. afiechydon, anhwylderau a chyflyrau’r croen 
4. proses heneiddio’r croen yn cynnwys effeithiau geneteg, ffordd o fyw ac amgylchedd
5. swyddogaeth rhwystro ar gyfer croen sydd mewn perygl a phrosesau atgynhyrchu’r croen
6. y broses o ddigeniad, diblisgiad ac arwynebu’r croen 
7. effeithiau argroenol cyfryngau plicio croen gradd ganolig ar y croen a chyflyrau croen
 
Adweithiau niweidiol

1. chwydd gwyn gormodol
2. newidiadau lliwiol
3. anghysur gormodol
4. proses iachau sydd mewn perygl
5. staen gwaed
6. adwaith histamin gormodol 
7. necrosis
8. colli meinwe
9. creithio
10. heintio

Cymhorthion gweledol

1. Delweddau esboniadol
2. Diagramau esboniadol

Protocol triniaeth plicio croen gradd ganolig

1. amgylchedd waith
2. iechyd a diogelwch
3. cynllun rheoli risg
4. atal a rheoli haint
5. rheoli cymhlethdodau
6. cynllun triniaeth
7. cydsyniad gwybodus
8. rheoli data
9. archwiliad ac atebolrwydd
10. cyfarwyddiadau a chyngor
11. rheoli gwastraff
12. ymarfer sy’n seiliedig a’r dystiolaeth ac sy’n adfyfyriol

Cyfarwyddiadau

1. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a’r ymarferydd esthetig
2. cynllun rheoli cymhlethdodau
3. disgwyliadau wedi’r driniaeth ac amserlenni cysylltiedig 
4. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
5. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
6. triniaethau yn y dyfodol
7. gweithdrefn cwynion neu brotocol pryderon


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Plisg croen gradd ganolig *
Adwaenir plisg croen gradd ganolig fel plisg mewnepidermaidd all ddigennu haenau epidermaidd o’r croen â llaw drwy fformiwleiddiadau cemegol.
Rhagofalon cyffredinol a rhagofalon safonol

Mae rhagofalon cyffredinol yn berthnasol os yw’r ymarferydd yn dod i gysylltiad â gwaed a/neu rywfaint o hylif corfforol. Cyfrifoldeb yr ymarferydd yw rhoi mesurau atal a rheoli haint ar waith er mwyn atal dod i gysylltiad â phathogenau a drosglwyddir drwy’r gwaed neu Ddeunyddiau Eraill all fod yn Heintus (OPIM).

Rhagofalon safonol yw’r lefel sylfaenol o reoli haint ddylai gael ei ddefnyddio bob amser o fewn yr amgylchedd waith, megis glendid dwylo, cyfarpar amddiffyn personol, atal anafiadau gan nodwyddau neu declynnau miniog, asesiad risg, glendid anadlol ac ymddygiad safonol ynghylch pesychu, glanhau amgylcheddol a chael gwared o wastraff.

Delweddau gweledol 
Delweddau gweledol yw tystiolaeth sydd wedi’i chynhyrchu drwy ffotograffau neu fideo. 

Amgylchedd waith*
Dylai gofynion am yr amgylchedd waith gydymffurfio â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a bod yn unol â’r canllawiau sydd wedi cael eu gosod allan naill ai gan eich awdurdod lleol neu gorff llywodraethu.
Dylid gwneud asesiadau risg, a dylai dulliau rheoli gael eu rhoi ar waith a’u cofnodi, a’u diweddaru yn rheolaidd a/os oes newidiadau yn digwydd. Dylai’r amgylchedd waith fod yn lanwaith ac yn addas i’w diben er mwyn i driniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol gael eu cwblhau mewn modd diogel ac effeithiol gan ddefnyddio technegau aseptig. Mae angen i weithdrefnau i atal a rheoli haint gadw’r risg o heintio a throsglwyddo meicrobau mor isel â phosibl. Rhaid i gyfarpar amddiffyn personol fod yn addas i’w ddiben ac ar gael. Rhaid i gyfarpar a chynnyrch gael eu cynnal a’u cadw yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol.
Mae’n ddoeth creu cynllun ar gyfer rheoli cymhlethdodau a/neu argyfwng ar gyfer pob triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol os bydd adwaith neu ddigwyddiad niweidiol.


Dolenni I NOS Eraill

​SKANSC1, SKANSC2, SKANSC3, SKANSC4, SKANSC5, SKANSC6, SKANSC7, SKANSC8


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKANSC9

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch, Estheteg Harddwch, Ymarferydd Estheteg

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

plisg croen gradd ganolig, triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol, rheoleiddiad, Asidau Hydrocsi Alpha, Asidau Hydrocsi Beta, Asidau Hydrocsi Poly, Asidau Dicarbocsylig, Asidau Cylchol / Alpha-Keto, Asidau Asetig, Deilliadau ffenol, ffo