Datblygu strategaeth i gynnig gweithgareddau chwaraeon a chorfforol yn y gymuned

URN: SKALM3
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Hamdden
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymdrin â hyrwyddo a chynnig gweithgareddau chwaraeon a chorfforol yn y gymuned.

Mae'r safon hefyd yn ymdrin â chynnig mwy o weithgareddau chwaraeon a chorfforol a gwella iechyd yn y gymuned gan ddenu mwy o drigolion y gymuned i gymryd rhan a pharhau i gymryd rhan.

Mae'r safon yn pwysleisio'r angen i roi agendâu cenedlaethol a lleol perthnasol ar waith ac o ganlyniad ymchwilio i'r gymuned y byddwch yn cydweithio gyda hi.


Byddwch yn datblygu perthnasau gwaith gyda chysylltiadau allweddol yn y gymuned, cynnig rhaglenni a chynnig cyfle i gymunedau, gyda'ch cyngor proffesiynol ac arbenigedd, i gynnig cyfleoedd ar gyfer cymryd rhan a datblygu.


**


**

Prif ddeilliannau'r safon hon ydy:**

  1. adnabod sefydliad/mudiad, asiantaethau ac unigolion i ymgysylltu â nhw er mwyn cynnig gweithgareddau chwaraeon a chorfforol yn y gymuned

datblygu a chynnal cysylltiadau yn y gymuned

  1. Ymgysylltu a chydweithio gydag eraill i gynllunio a chynnig rhaglenni gweithgareddau chwaraeon a chorfforol yn y gymuned


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Adnabod sefydliad/mudiad, asiantaethau ac unigolion i ymgysylltu â nhw er mwyn cynnig gweithgareddau chwaraeon a chorfforol yn y gymuned**

  1. casglu a dadansoddi gwybodaeth yn ymwneud ag asiantaethau cenedlaethol a lleol

  2. casglu a dadansoddi gwybodaeth a nodweddion am y gymuned

  3. llunio syniadau ac awgrymiadau yn sgîl eich canfyddiadau o'r gwaith ymchwil

  4. cofnodi gwybodaeth y mae modd ei defnyddio er mwyn datblygu cysylltiadau

  5. gwerthuso'ch canfyddiadau i amlygu anghenion y gymuned a grwpiau targed posib

  6. ymchwilio i gyfleoedd ariannu posib

Datblygu a chynnal cysylltiadau yn y gymuned

  1. mynd ati i ddatblygu cysylltiadau gwaith gyda mudiadau, asiantaethau ac unigolion

  2. cynnig gwybodaeth i fudiadau, asiantaethau ac unigolion am y nifer o drigolion y gymuned sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a chorfforol ar hyn o bryd

  3. cytuno ar ddyletswyddau a chyfrifoldebau

  4. mynd i'r afael â phroblemau, unrhyw anghytuno neu gwynion gan fudiadau, asiantaethau ac unigolion yn unol â'ch polisïau a gweithdrefnau trefniadaethol

  5. cynnig gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd i fudiadau, asiantaethau, unigolion a'r gymuned

  6. hyrwyddo diben eich maes gwaith, ynghyd â'r gwerthoedd a dulliau ynghlwm, gyda'r gymuned a mudiadau, asiantaethau ac unigolion eraill

* *

Ymgysylltu* a chydweithio gydag eraill i gynllunio a chynnig rhaglenni gweithgareddau chwaraeon a chorfforol yn y gymuned*

  1. dod â mudiadau, asiantaethau ac unigolion eraill, y byddech yn medru cydweithio gyda nhw, ynghyd

  2. cyflwyno canfyddiadau eich ymchwil er mwyn eu trafod a chytuno arnyn nhw gyda'r nod o fodloni anghenion agendâu lleol a chenedlaethol

  3. cytuno ar baramedrau ar gyfer cydweithio gyda'r gymuned a  mudiadau, asiantaethau ac unigolion eraill.

  4. cytuno ar egwyddor ac amserlen er mwyn cydweithio gyda'r gymuned a mudiadau, asiantaethau ac unigolion eraill

  5. monitro ac adolygu'r amserlen cydweithio gyda'r gymuned a mudiadau, asiantaethau ac unigolion eraill

  6. cynnig gwybodaeth am y fenter gweithgareddau chwaraeon a chorfforol gyda'r gymuned, yn unol â'ch polisïau a gweithdrefnau trefniadaethol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Adnabod sefydliad/mudiad, asiantaethau ac unigolion i ymgysylltu â nhw er mwyn cynnig gweithgareddau chwaraeon a chorfforol yn y gymuned**

  1. dulliau ymchwilio a thechnegau dadansoddi

  2. cyfleoedd ariannu

  3. sut i wneud y defnydd gorau o bobl ac adnoddau gan ystyried demograffeg er mwyn cyflawni'r nodau a'r amcanion arfaethedig yn ymwneud â gweithgareddau chwaraeon a chorfforol yn y gymuned 

  4. polisïau'r llywodraeth yn gysylltiedig â gweithgareddau corfforol yn ymwneud â chwaraeon ac iechyd yn y gymuned, fel lleihau gordewdra a chynyddu'r nifer sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau

  5. y berthynas rhwng lefel y gweithgaredd corfforol ac iechyd yn y gymuned  

  6. y gwahaniaeth rhwng ymagweddau chwaraeon cymunedol ac ymagweddau chwaraeon  confensiynol

  7. eich polisïau chi a pholisïau rhanddeiliaid eraill yn ymwneud â gweithgareddau chwaraeon a chorfforol yn y gymuned  

  8. modelau ac astudiaethau achos ynghylch ymarfer effeithiol yn ymwneud â gweithgareddau chwaraeon a chorfforol yn y gymuned  

  9. yr ystod o fudiadau, asiantaethau ac unigolion y gallech chi ddatblygu polisi neu strategaeth ar y cyd â nhw er mwyn mynd i'r afael â phrosiect

Datblygu a chynnal perthnasau yn y gymuned

  1. y 'rhwystrau' posib yn ymwneud â'r gymuned a sut i ofalu fod modd i bobl fanteisio ar y rhaglenni  

  2. protocolau ar gyfer cysylltu gyda mudiadau, asiantaethau ac unigolion

  3. y math o wybodaeth i'w rhannu a'i hyrwyddo

  4. pam ei bod hi’n bwysig I chi egluro’ch swydd a’ch nodau a’ch amcancion eich hun ynghyd ag egluro’u swydd a’u nodau a’u hamcanion nhw

  5. yr iaith a'r dull cyfathrebu

  6. pwysigrwydd ymateb i gwestiynau, syniadau ac awgrymiadau

  7. polisïau trefniadaethol wrth ymdrin â dulliau mudiadau, asiantaethau ac unigolion eraill

  8. sut i adnabod anghenion hirdymor y gymuned ynghyd a threfnu a chynnal y canlynol:

16.1 cyfleoedd ar gyfer cymryd rhan a datblygu

16.2 prosiectau a mentrau sy'n bodoli eisoes

16.3 cyfleoedd newydd

16.4 strwythurau parhaol ar gyfer gweithgareddau chwaraeon a chorfforol yn eu cymuned 

16.5 strategaeth hirdymor ar gyfer buddion gweithgareddau chwaraeon a chorfforol wrth gydweithio gyda mudiadau, asiantaethau ac unigolion eraill

Ymgysylltu* a chydweithio gydag eraill i gynllunio a chynnig rhaglenni gweithgareddau chwaraeon a chorfforol yn y gymuned*

  1. pam fod rhwydweithio'n bwysig er mwyn hyrwyddo'ch mudiad

  2. y buddion cyffredin posib yn sgil cydweithio gyda mudiadau asiantaethau ac unigolion eraill

  3. pwysigrwydd cytuno'n gadarn ar baramedrau ar gyfer cydweithio 

  4. y mathau o broblemau, anghytuno neu gwynion gan fudiadau, asiantaethau ac unigolion, ynghyd â ffyrdd i fynd i'r afael â nhw

  5. sgiliau trafod a sgiliau datrys problemau ar gyfer cydweithio

  6. sut i hyrwyddo'r buddion tymor hirach yn sgîl cynnig cyfle i drigolion yr ardal gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a chorfforol a datblygu'r un pryd

  7. pwysigrwydd cadw mewn cysylltiad ac adolygu cynnydd gyda mudiadau, asiantaethau ac unigolion eraill


Cwmpas/ystod

Gwybodaeth Ychwanegol

Diben yr wybodaeth ganlynol ydy cynnig cyfarwyddyd i'r rheiny sy'n defnyddio'r safon hon.  



Nodau ac amcanion

Yn y safon hon caiff y term nodau ac amcanion ei ddefnyddio ac yn y cyd-destun hwn mae'n cyfeirio at gynnwys pawb, datblygiad personol, datblygiad cymdeithasol, datblygiad corfforol a datblygu sgiliau.

Mae'n debyg y bydd rhai o'r enghreifftiau blaenllaw, yn dibynnu ar anghenion trigolion y gymuned ac agendâu lleol a chenedlaethol.

Er enghraifft mae'n bosib y bydd gofyn i'ch mudiad ddatblygu strategaeth yn ymwneud â gweithgareddau chwaraeon a chorfforol, sy'n addas i bawb, yn ymwneud â meysydd lle mae yna flaenoriaeth i ymwneud â phobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol neu bobl anabl.

Mae datblygiad cymdeithasol yn cyfeirio at gynnig cyfle i bobl ddatblygu a gweithgareddau i ofalu newid cymdeithasol mewn cymunedau drwy gyfrwng gweithgareddau chwaraeon a chorfforol.

Mae datblygu sgiliau a datblygu'n gorfforol hefyd yn hanfodol wrth ddenu pobl i fanteisio ar weithgareddau chwaraeon a chorfforol ac yn y fath modd, maen nhw'n annog datblygu sgiliau bywyd.

 

Paramedrau

Wrth ymwneud a chydweithio gydag eraill, dyma'r paramedrau y dylai bawb ynghlwm eu hystyried:

    • nodau ac amcanion 

    • dyletswyddau, cyfrifoldebau a rhannu gwaith 

    • dull
    • proses 

    • ethos 

    • canolbwynt 

    • mesurau wrthgefn  




Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

Data Ystadegol (lleiafswm o 5)

  1. cymysgedd ethnig

  2. nifer o blant ysgol yn y gymuned

  3. ffigyrau troseddau yn y gymuned

  4. perthnasau o fewn a rhwng grwpiau

  5. materion cymdeithasol ac economaidd

  6. diwylliant a gwleidyddiaeth  

  7. crefydd

  8. poblogaeth

  9. ffiniau a therfynau

  10. economi

  11. cysylltiadau allweddol

  12. cyfleusterau

  13. asiantaethau eraill

  14. mentrau perthnasol eraill a'u nodau ac amcanion nhw

  15. rhwystrau rhag medru cymryd rhan a datblygu

* *

Pobl ac adnoddau (lleiafswm o 4)

  1. arweinwyr / gweithredwyr cymunedol unigol

  2. grwpiau

  3. unigolion dichonol i gymryd rhan

  4. gwirfoddolwyr dichonol

  5. asiantaethau / gweithwyr proffesiynol eraill

  6. perchnogion y cyfleusterau

  7. adnoddau

  8. cyfleusterau confensiynol

  9. cyfleusterau anghonfensiynol

  10. staff o'r gymuned

  11. staff o du allan i'r gymuned

  12. prosiectau a mentrau sy'n bodoli eisoes

* *

Mudiadau, asiantaethau ac unigolion (lleiafswm o 3)

  1. o'r maes chwaraeon a/neu hamdden

  2. o feysydd arbenigol eraill

  3. mudiad cymunedol

  4. gweithwyr proffesiynol y byd iechyd

  5. grwpiau cefnogi neu gymunedol

  6. mudiad masnachol

  7. y rheiny sy'n wynebu rhwystrau rhag medru manteisio

  8. asiantaethau ariannu


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKA61

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddi Chwaraeon a Ffitrwydd , Gweithwyr proffesiynol cysylltiol a galwedigaethau technegol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Strategaeth, Ymchwil, Cymuned, Datblygu, Cynnig, Ymwneud, Cynnal, Perthnasau