Siampwio, cyflyru a thrin y gwallt a chroen y pen

URN: SKAHDBR1
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol a SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma yn rhan o'r cyfresi safonau galwedigaethol cenedlaethol Trin Gwallt a Barbro. Mae'r safon yma'n ymwneud â siampwio'r gwallt er mwyn cael gwared o gynnyrch a pharatoi ar gyfer triniaethau pellach a chyflawni triniaethau cyflyru i drin y gwallt a chroen y pen. Er mwyn cyflawni'r triniaethau hyn, bydd rhaid i chi ddewis a defnyddio cynnyrch a defbyddio technegau tylino sy'n cwrdd ag anghenion yr unigolyn. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.

Y prif ddeilliannau yw:

  1. Siampwio'r gwallt er mwyn cael gwared o gynnyrch a pharatoi ar gyfer triniaeth pellach
  2. Cyflyru a thrin a gwallt a chroen y pen

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
2. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddebau a chanllawiau 
3. gwneud dadansoddiad o’r gwallt a chroen y pen, i gynnwys: 
3.1 dosbarthiad cyrls y gwallt
3.2 nodweddion y gwallt *
3.3 *stad y gwallt *
3.4 patrymau tŵf y gwallt
3.5 gwallt wedi ei drin yn rhannol â chemegion
3.6 cyflwr croen y pen
3.7 dewisiadau triniaeth amgen
4. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y driniaeth siampŵ a chyflyru arfaethedig, i gynnwys:
4.1 gwrth weithredoedd
4.2 adweithiau niweidiol
5. sicrhau cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y driniaeth siampŵ a chyflyru
6. datglymu’r gwallt gan ddefnyddio cribau a brwsis o’r pwynt i’r gwraidd 
7. dewis cynnyrch ac offer yn unol â’r *protocol triniaeth siampwio a chyflyru  *
8. addasu gwasgedd y dŵr a’r tymheredd yn unol â’r cynllun triniaeth a gwylchu gwallt yr unigolyn er mwyn paratoi’r gwallt ar gyfer triniaeth pellach 
9. dodi siampŵ gan ddefnyddio *technegau tylino siampŵ yn unol â’r protocol triniaeth siampwio a chyflyru, i gynnwys:
9.1 golchi â’r siampŵ o’r gwraidd i’r blaen 
9.2 cael gwared o’r dŵr gormodol yn ysgafn gan osgoi pwysau ar groen y pen 
9.3 ailadrodd y broses os oes angen
9.4 cribo drwy wallt yr unigolyn
9.5 paratoi’r unigolyn ar gyfer gwasanaethau pellach i’r gwallt
10. dodi cynnyrch cyflyru a thriniaeth addas gan ddefnyddio technegau cyflyru tylino  yn unol â’r protocol triniaeth siampwio a chyflyru i gynnwys:
10.1 cribo drwy’r gwallt
10.2 dodi triniaeth wres yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a’r protocol triniaeth siampwio a chyflyru 
10.3 golchi â’r cyflyrwr o’r gwraidd i’r blaen
10.4 cael gwared o ddŵr gormodol gan ddefnyddio tywel
10.5 cribo drwy wallt yr unigolyn
10.6 paratoi’r unigolyn ar gyfer gwasanaethau pellach i’r gwallt
11. cwblhau’r driniaeth yn unol â’r protocol triniaeth siampwio a chyflyru
12. cadarnhau gyda’r unigolyn ei fod yn fodlon gyda’r driniaeth
13. monitro iechyd a lles yr unigolyn drwy gydol y driniaeth
14. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
15. cwblhau cofnodion yr unigolyn a’u cadw yn unol â deddfwriaeth data
16. defnyddio ymarfer adfyfyriol i werthuso’r driniaeth a gweithredu’n briodol
17. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i’r unigolyn, cyn ac ar ôl y drinaieth
18. cofnodi canlyniad y driniaeth a’r gwerthusiad ohoni 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


1. eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau o ran darparu triniaethau siampwio a chyflyru a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu 
2. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio gydag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau drosoch chi eich hun a’ch adeiladau o dan reoliadau trwyddedu yr awdurdod lleol
3. pwysigrwydd ymwneud â, a dogfennu datblygiad proffesiynol parhaus, i gynnwys, polisïau gwybodaeth wedi eu diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer arfer gorau 
4. yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma
5. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy’n berthnasol i’r gwasanaeth gwallt, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis meddygol a chyfeirio
6. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ar y croen a niwed i groen y pen, a’u cyfeirio at weithiwr proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd 
6. pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o’r gwallt a chroen y pen, i gynnwys:
6.1 dosbarthiad cyrls y gwallt
6.2 nodweddion y gwallt
6.3 stad y gwallt 
6.4 cyflwr croen y pen
6.5 hanes triniaethau/cemegion sydd wedi cronni
7. sut mae’r dadansoddiad o’r gwallt a chroen y pen yn effeithio ar y dewis o gynnyrch a ddefnyddir 
8. sut i adnabod gwallt wedi’i orbrosesu, y risgiau cysylltiedig a’r camau i’w cymryd
9. yr offer a’r cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer triniaethau siampwio a chyflyru
10. y risgiau i iechyd a gysylltir â safleoedd eithafol o’r pen tra’n golchi’r gwallt, i gynnwys:
10.1 defnyddio cyfarpar golchi gwallt amgen
11. y mathau o gynnyrch siampwio a chyflyru a’u heffeithiau 
12. sut i addasu technegau siampwio a chyflyru ar gyfer pob dosbarthiad o gyrls y gwallt, math, cyflwr a hyd o wallt 
13. sut i wneud triniaeth siampwio a chyflyru i gynnwys:
13.1 amser triniaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
14. pwysigrwydd ymgynghori gyda’r unigolyn drwy gydol y broses siampwio a chyflyru
15. yr adweithiau niweidiol a gysylltir â thriniaethau siampwio a chyflyru a sut i ymateb iddynt 
16. pwysigrwydd golchi cynnyrch yn drylwyr o’r gwallt i groen y pen, i gynnwys:
16.1 y risgiau cysylltiedig
17. pwysigrwydd dodi pwysau ysgafn pan yn cael gwared o ddŵr gormodol o’r gwallt yn dilyn triniaeth gemegol 
18. y broses o ceratin alpha i beta keratin, i gynnwys: 
18.1 cyfeiriad y glasgroen pan mae’r gwallt yn wlyb ac yn sych
19. effeithiau tymheredd y dŵr ar groen y pen a strwythur y gwallt 
20. cyflyrau o groen y pen y gellir eu trin a’u hachosion 
21. cemeg a chyfansoddiad siampŵau a glanedyddion a sut y maent yn rhyngweithio â dŵr 
22. sut gall gwres gyflymu datblygiad cynnyrch cyflyru ar y gwallt 
23. sut gall cynnyrch newid pH y croen i gynnwys: 
23.1 sicrhau bod y pH yn cael ei niwtraleiddio ac y gydnaws ar gyfer triniaethau pellach 
24. pwysigrwydd defnyddio siampŵ gwrth-ocsidiol ar y gwallt er mwyn niwtraleiddio’r cyfrwng gweithgar o driniaethau cemegol i’r gwallt, i gynnwys:
24.1 pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr ar gyfer cynnyrch siampŵ a chyflyru 
25. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth
26. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau i’r gwallt i blant dan oed ac oedolion bregus
27. pam ei bod hi’n bwysig trafod gyda a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon, ei ddisgwyliadau a’r canlyniadau y mae’n eu dymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth i lacio’r gwallt yn barhaol
28. y strwythurau taliadau a’r dewisiadau ar gyfer triniaeth
29. y gofynion deddfwriaethol a digollediad ynglŷn â sicrhau cydsyniad gwybodus ar gyfer y gwasanaeth
30. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a'u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol,
 31. pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth siampwio a chyflyru
32. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y driniaeth
33. canlyniadau disgwyliedig triniaethau siampwio a chyflyru 
34. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a’r modd y mae’n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol
35. y cyfarwyddiadau a’r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth siampwio a chyflyru


Cwmpas/ystod

Dosbarthiad cyrls y gwallt

1. syth
2. tonnog
3. cyrliog
4. cyrls tynn
5. cyfuniad

Nodweddion y gwallt

1. dwysedd y gwallt
2. gwëad y gwallt
3. hydwythedd y gwallt
4. mandylledd y gwallt
5. patrymau tŵf y gwallt

Stad y gwallt

1. gwallt sydd heb ei drin yn gemegol
2. gwallt sydd wedi ei drin yn rhannol â chemegion
3. gwallt sydd wedi ei drin yn gemegol

Protocol triniaeth siampwio a chyflyru

1. amgylchedd waith
2. iechyd a diogelwch
3. atal a rheoli haint
4. cynllun triniaeth
5. cydsyniad gwybodus
6. cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
7. canlyniadau profion
8. rheoli data
9. archwilio ac atebolrwydd
10. cyfarwyddiadau a chyngor
11. cynaliadwyedd
12. rheoli gwastraff
13. ymarfer wedi’i seilio ar dystiolaeth
14. ymarfer adfyfyriol

Technegau tylino siampŵ

1. effleurage
2. petrissage
3. cylchol
4. ffrithiant

Cynnyrch cyflyru a thriniaeth

1. arwynebol
2. treiddiol
3. ailadeiladol
4. lleithiol
5. triniaethau i groen y pen

*

Technegau tylino cyflyru

1. effleurage
2. petrissage

Cyfarwyddiadau

1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau yr unigolyn a’r ymarferydd
2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y gwasanaeth
3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
4. triniaethau yn y dyfodol

Anatomeg a ffisioleg*

1. strwythur a swyddogaeth y gwallt
2. strwythur sylfaenol y croen
3. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwrtharwydd llwyr

Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio

Adwaith niweidiol

Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn

gwasanaeth e.e. llewygu

Gwrth weithred

Gwrth weithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth,                   

e.e. erythema

Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth

orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael

Cymorth Cyntaf

Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol

Dosbarthiad cyrls y gwallt

Gellir cyfeirio at ddosbarthiad cyrls y gwallt fel Math 1 – 4.

Protocol

Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer gorau a

chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

Gwrtharwydd cymharol

Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau


Dolenni I NOS Eraill

SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAHD1, SKAHD2
SKAHDBR2, SKAHDBR3, SKAHDBR4, SKAHDBR5,
SKAHDBR6, SKAHDBR7, SKAHDBR8, SKAHDBR9, SKAHDBR10,
SKAHDBR11, SKAHDBR12, SKAHDBR13, SKAHDBR14,
SKAHDBR15,
SKAHDB16, SKAHDB19, SKAHDB20, SKAHDB21, SKABR5




Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKACHB10

Galwedigaethau Perthnasol

Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC

6221

Geiriau Allweddol

Siampŵ, cyflyru, trin gwallt