Datblygu eich sgiliau seicolegol i gyflawni rhagoriaeth yn eich chwaraeon

URN: SKAES4
Sectorau Busnes (Suites): Cyflawni Rhagoriaeth mewn Perfformiad Chwaraeon (Gan gynnwys Newid Mehefin 2007)
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 31 Gorff 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio sgiliau seicolegol a'u pwysigrwydd er mwyn ymdopi â heriau hyfforddi a chystadlu. Mae ymroddiad, cymhelliant, hyder, ffocws a rheoli emosiynau i gyd yn elfennau hanfodol er mwyn cyflawni rhagoriaeth mewn chwaraeon. I fod yn llwyddiannus, mae angen i athletwyr o'r radd flaenaf feithrin lefelau uchel o gadernid meddyliol a'u cynnal. Byddwch yn gweithio gyda staff hyfforddi profiadol a hyfedr a/neu staff eraill fel seicolegwyr chwaraeon. Fodd bynnag, bydd gennych rôl bwysig yn gwella eich sgiliau seicolegol hefyd.

Dyma brif ddeilliannau'r safon hon:

  1. Dewis rhaglen ddatblygu a chytuno arni er mwyn gwella eich sgiliau seicolegol.
  2. Rhoi rhaglen ddatblygu ar waith er mwyn gwella eich sgiliau seicolegol.
  3. Cymhwyso a gwerthuso eich defnydd o sgiliau seicolegol.

Mae'r safon hon ar gyfer athletwyr sydd â'r potensial gwirioneddol i gyflawni rhagoriaeth yn eu chwaraeon ac sydd am berfformio ar y lefel uchaf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Dewis rhaglen ddatblygu a chytuno arni er mwyn gwella eich sgiliau seicolegol.

  1. gweithio gyda'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill er mwyn:

1.1 cytuno ar y gofynion seicolegol er mwyn rhagori yn eich rôl/rolau

1.2 datblygu proffil o sgiliau seicolegol sy'n ymwneud â pherfformiad yn eich chwaraeon

1.3 dewis nodau sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau eich perfformiad seicolegol

1.4 cynllunio rhaglen ddatblygu a chytuno arni er mwyn cyflawni blaenoriaethau eich perfformiad seicolegol

  1. cytuno ar eich prif flaenoriaethu gyda'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill er mwyn cyflawni rhagoriaeth seicolegol yn eich rôl/rolau

Rhoi rhaglen ddatblygu ar waith er mwyn gwella eich sgiliau seicolegol.

  1. cymryd rhan yn y rhaglen datblygu sgiliau seicolegol a gynllunnir

  2. dadansoddi sut ydych yn cymryd rhan yn y rhaglen datblygu sgiliau seicolegol

  3. cyfrannu at asesiadau parhaus o'ch cynnydd

  4. rhoi adborth i'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill ynghylch pa mor dda mae eich rhaglen datblygu sgiliau seicolegol yn bodloni eich anghenion

  5. gwneud addasiadau i'ch rhaglen ddatblygu er mwyn eich helpu i gyflawni eich nodau seicolegol

Cymhwyso a gwerthuso eich defnydd o sgiliau seicolegol

  1. trafod gyda'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill sut gallwch ymarfer y sgiliau seicolegol angenrheidiol a chytuno ar sut i wneud hyn cyn, yn ystod ac ar ôl cystadlu

  2. defnyddio eich sgiliau seicolegol i gymryd rhan mewn ymarferion cyn-cystadlu

  3. rhoi adborth i'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill ar effeithiolrwydd ymarferion sgiliau seicolegol cyn-cystadlu a gwneud awgrymiadau er mwyn gwella

  4. integreiddio eich sgiliau seicolegol â'ch sgiliau technegol, tactegol a chorfforol bob amser, yn enwedig mewn sefyllfa gystadleuol

  5. gweithio gyda'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill er mwyn gwerthuso eich perfformiad seicolegol a'i wella


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Dewis rhaglen ddatblygu a chytuno arni er mwyn gwella eich sgiliau seicolegol.

  1. ffynonellau gwybodaeth am ofynion seicolegol eich rôl yn eich chwaraeon a sut i'w defnyddio

  2. gofynion seicolegol rhagoriaeth yn eich rôl yn eich chwaraeon

  3. ffyrdd effeithiol o weithio gyda'ch hyfforddwyr a/staff eraill ar wella eich sgiliau seicolegol

  4. y mathau o asesiadau a allai gael eu defnyddio i greu proffil o'ch sgiliau seicolegol o ran perfformiad yn eich chwaraeon

  5. pwysigrwydd rhoi eich barn a'ch safbwyntiau eich hun wrth ddatblygu proffil eich sgiliau seicolegol

  6. y mathau o flaenoriaethau seicolegol y mae'n rhaid i athletwyr yn eich rôl ganolbwyntio arnynt i ragori

Rhoi rhaglen ddatblygu ar waith er mwyn gwella eich sgiliau seicolegol.

  1. pam mae'n rhaid i chi bennu nodau seicolegol, eu deall, a chytuno arnynt er mwyn rhagori yn eich chwaraeon

  2. y mathau o nodau seicolegol y gallai fod angen i athletwyr ar eich lefel eu pennu ar gyfer eu hunain

  3. prif gydrannau eich rhaglen datblygu sgiliau seicolegol ar eich lefel yn eich chwaraeon a sut maent yn gallu helpu i gyrraedd eich nodau

  4. y mathau o wybodaeth y gallwch eu rhoi i hyfforddwyr a/neu staff eraill i'w helpu i ddatblygu eich rhaglen datblygu sgiliau seicolegol yn unol â'ch anghenion

  5. pwysigrwydd cadw at eich rhaglen datblygu sgiliau seicolegol a sut i wneud hynny

  6. sut i gyfrannu'n gadarnhaol at bob elfen o'ch rhaglen datblygu sgiliau seicolegol

  7. pwysigrwydd rhoi adborth gonest i'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill ynghylch pa mor dda mae eich rhaglen datblygu sgiliau seicolegol yn bodloni eich anghenion

  8. beth i'w gynnwys yn eich adborth yn ystod eich rhaglen datblygu sgiliau seicolegol

  9. ffyrdd o addasu eich rhaglen datblygu sgiliau seicolegol i fodloni eich anghenion

Cymhwyso a gwerthuso eich defnydd o sgiliau seicolegol

  1. sut i wneud y defnydd mwyaf o'ch sgiliau seicolegol bob amser, yn enwedig mewn sefyllfa gystadleuol

  2. y mathau o ymarferion seicolegol cyn-cystadlu sy'n gallu eich helpu i baratoi ar gyfer cystadleuaeth a sut i'w defnyddio

  3. ffyrdd eraill o helpu eich hyfforddwyr a/neu staff eraill i wella technegau seicolegol cyn-cystadlu

  4. pwysigrwydd cynnal gwerthusiadau trylwyr a gwrthrychol o'ch perfformiad cystadleuol a'r effaith ar sgiliau seicolegol

  5. dulliau gwerthuso y gellir eu defnyddio ar gyfer perfformiad cystadleuol a'r sgiliau seicolegol rydych yn eu defnyddio

  6. ffyrdd o gyfrannu at werthusiadau o'ch perfformiad seicolegol

  7. sut i ddefnyddio gwerthusiadau i wella eich sgiliau seicolegol ymhellach


Cwmpas/ystod

Gofynion seicolegol

  1. cymhelliant

  2. hyder

  3. ffocws

  4. rheolaeth emosiynol

  5. ymdopi â llwyddiant neu fethiant

  6. gofynion priodol eraill


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Mai 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKASE14

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Hamdden; teithio a thwristiaeth, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC

3442

Geiriau Allweddol

Datblygu; seicolegol; sgiliau; cyflawni; rhagoriaeth; chwaraeon