Darparu gwasanaethau estyn gwallt yn greadigol

URN: SKACH12
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt,Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'r sgiliau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaeth estyn gwallt llawn a rhannol i gleientiaid er mwyn adlewyrchu tueddiadau cyfredol.  Mae'n cynnwys paratoi, dewis yn greadigol, cydweddu a gosod estyniadau gwallt, er mwyn rhoi hyd, lliw a neu cyfaint i wallt y cleient.  Mae torri'r estyniadau newydd ar gyfer steilio a gorffennu'n greadigol yn ofynnol, yn ogystal â chynnal a chadw a thynnu estyniadau.

Er mwyn gweithredu'r safon hon, bydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid ar raddfa uchel drwy gydol eich gwaith.  Bydd rhaid ichi hefyd gynnal a chadw ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.

Prif ddeilliannau'r safon hon yw:

  1. cynnal a chadw dulliau diogel o weithio wrth ychwanegu estyniadau gwallt

  2. cynllunio i ychwanegu estyniadau gwallt

  3. paratoi a gosod estyniadau gwallt

  4. torri a gorffennu estyniadau gwallt

  5. cynnal a chadw a thynnu estyniadau gwallt


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth ychwanegu estyniadau gwallt


*

  1. diogelu dillad eich cleient drwy gydol y gwasanaeth

  2. gosod eich cleient mewn safle sy'n bodloni anghenion y gwasanaeth heb iddyn nhw fod yn anghysurus

  3. sicrhau bod eich osgo a'ch safle chi eich hun wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf

  4. cadw eich ardal waith yn lân a thaclus drwy gydol y gwasanaeth

  5. defnyddio dulliau gweithio sy'n:

5.1 lleihau'r risg o ddifrod i offer torri

5.2 lleihau'r risg o groes-heintiad

5.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio

5.4 sicrhau'r defnydd o adnoddau glân

5.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hun ac eraill

5.6 hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

  1. sicrhau bod eich hylendid, eich diogelwch a'ch ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

  2. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion

  3. gwared defnyddiau gwastraff

  4. cwblhau'r gwasanaeth o fewn amser masnachol ymarferol


*

Cynllunio i ychwanegu estyniadau gwallt


*

  1. archwilio'r gwallt a'r croen pen er mwyn adnabod unrhyw ffactorau a all effeithio ar y gwasanaeth

  2. gofyn cwestiynau priodol i'ch cleient er mwyn adnabod unrhyw wrthrybuddion sy'n wybyddus i'r gwasanaeth estyniadau gwallt 

  3. cofnodi ymatebion eich cleient i'r cwestiynu

  4. cynnal unrhyw brofion perthnasol ar wallt a chroen eich cleient gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr a gweithdrefnau cydnabyddedig y diwydiant

  5. cymryd camau gweithredu priodol pan fydd gwrthrybuddion yn codi amheuon ynglŷn ag addasrwydd y gwasanaeth i'r cleient

  6. dewis systemau gosod ac estyniadau gwallt sydd:

15.1 o ansawdd priodol

15.2 o liw priodol

15.3 o hyd priodol

15.4 o led priodol

  1. cadarnhau gofynion y gwasanaeth cyn archebu systemau gosod ac estyniadau gwallt

Paratoi a gosod estyniadau gwallt

*  
                           *

  1. paratoi'r systemau gosod a'r estyniadau gwallt i osgoi gwastraff, clymiadau ac er mwyn cyfarfod â chyfarwyddiadau'r cynhyrchwyr

  2. paratoi gwallt eich cleient mewn ffordd sy'n addas ar gyfer defnyddio'r system osod

  3. sicrhau bod cymorth ar gael, lle bydd ei angen

  4. cadarnhau gyda'ch cleient yr olwg y cytunwyd arni gyda'ch cleient cyn dechrau'r gwasanaeth

  5. ymrannu'r adrannau'n lân a gwastad er mwyn bodloni gofynion y systemau gosod sydd i'w defnyddio

  6. ymrannu'r gwallt mewn ffordd fydd yn galluogi'r estyniadau gwallt i orwedd yn y cyfeiriad angenrheidiol

  7. gosod yn sownd unrhyw wallt nad yw'n cael ei ymestyn er mwyn cadw pob adran yn amlwg weladwy

  8. defnyddio systemau gosod sy'n gosod yr estyniadau gwallt yn sownd yng ngwallt eich cleient er mwyn bodloni gofynion y steil

25. ychwanegu a gosod y gwallt mewn ffordd *sy'n rhoi ystyriaeth i'r *ffactorau sy'n dylanwadu ar y gwasanaeth

  1. ynnal a chadw tyndra cyfartal drwy gydol y broses osod

  2. gwirio cyfforddusrwydd eich cleient yn rheolaidd a chynnig sicrwydd priodol, os bydd angen

  3. adnabod a datrys unrhyw broblemau sy'n digwydd yn ystod y gwasanaeth

  4. sichrau, ar ôl gorffen, bod yr estyniadau gwallt yn rhoi golwg orffenedig gytbwys a chymesur

Torrri a gorffennu gwallt gydag estyniadau


*

  1. pennu a dilyn canllawiau torri addas er mwyn cael yr olwg orffenedig

  2. addasu eich technegau torri er mwyn rhoi ystyriaeth i'r ffactorau sy'n dylanwadu ar weithio ar estyniadau gwallt

  3. addasu eich dulliau croeswirio i gydweddu â chwymp yr estyniadau gwallt

  4. addasu eich osgo a'ch safle i sicrhau manwlgywirdeb y toriad

  5. cyfuno ac addasu eich technegau torri er mwyn cael yr olwg orffenedig

  6. cynnal gwiriadau terfynol er mwyn sicrhau bod y toriad yn fanwl gywir

  7. defnyddio technegau gorffennu creadigol sy'n ategu'r olwg orffenedig *

  8. defnyddio cynhyrchion steilio a gorffennu addas, pan fydd angen er mwyn cael yr olwg orffenedig

  9. cadarnhau bod eich cleient yn fodlon â'r olwg orffenedig

  10. rhoi cyngor a chyfarwyddyd i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarperir

Cynnal a chadw a thynnu estyniadau gwallt


*

  1. cynnal a chadw a thynnu estyniadau gwallt gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr

  2. defnyddio'r offer cywir i leihau niwed i wallt eich cleient

  3. defnyddio'r cynhyrchion a'r offer cywir i dynnu estyniadau gwallt, pan fydd angen, gan osgoi niwed i wallt eich cleient

  4. gadael gwallt eich cleient yn rhydd o waddodion ac olion cynnyrch

  5. gadael gwallt eich cleient yn lân ac wedi ei baratoi'n barod ar gyfer y gwasanaeth nesaf

  6. rhoi cyngor a chyfarwyddyd i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarperir


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth ychwanegu estyniadau gwallt


*

  1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd

  2. gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient

  3. y mathau o ddillad gwarchod a ddylai fod ar gael i gleientiaid

  4. beth yw dermatitis cyffwrdd, a sut i osgoi ei ddal wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau systemau estyn gwallt

  5. sut y gall safle eich cleient a chi eich hun gael effaith ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf

  6. y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

  7. pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus

  8. pam ei bod yn bwysig gosod eich offer, cynhyrchion a'ch cyfarpar wrth law er mwyn hwyluso eu defnydd

  9. y defnydd a'r dull cynnal a chadw cywir mewn perthynas ag offer, cynhyrchion a chyfarpar

  10. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio a ddefnyddir mewn salonau

  11. dulliau o weithio'n ddiogel ac yn lanwaith ac sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a thraws-bla

  12. pwysigrwydd hylendid, diogelwch a hunan-gyflwyniad personol er mwyn cynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle

  13. cyfarwyddiadau'r cyflenwyr a'r gwneuthurwyr ar gyfer gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion y mae'n rhaid i chi eu dilyn

  14. y dulliau cywir o wared gwastraff

  15. amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer gosod systemau estyn gwallt


*

Cynllunio, paratoi a gosod estyniadau gwallt

  1. sut i gynnal archwiliad o'r gwallt a'r croen pen er mwyn adnabod ffactorau fydd yn effeitho ar y system gosod gwallt

  2. y ffactorau y mae'n rhaid eu hystyried cyn ychwanegu a gosod estyniadau gwallt

  3. y gylchred tyfiant gwallt

  4. pwysigrwydd holi cleientiaid er mwyn canfod unrhyw wrthrybuddion i wasanaethau estyn gwallt

  5. sut y gall gwrthrybuddion effeithio neu gyfyngu ar gyflenwi gwasanaethau estyn gwallt

  6. arwyddocad cyfreithiol holi'r cleient ac o gofnodi ymatebion y cleient 

  7. polisi eich salon ar gyfer cyfeirio cleientiaid at weithwyr proffesiynol eraill fel tricolegydd, meddyg teulu a'r gwasanaethau arbenigol sy'n cael eu cynnig ganddynt

  8. y mathau o brofion a'u pwrpas

  9. sut y gall canlyniadau profion ddylanwadu ar bob agwedd ar y gwasanaeth

  10. canlyniadau posib peidio â chynnal profion a phwysigrwydd cofnodi canlyniadau profion

  11. y mathau o systemau estyn gwallt sydd ar gael a'u manteision ac anfanteision

  12. yr egwyddorion gogyfer â dewis y systemau gwallt atodol cywir

  13. yr egwyddorion gogyfer â chydweddu gwallt atodol

  14. y gwahaniaethau cyffredinol rhwng y gofynion paratoi yn achos estyniadau gwallt artiffisial a gwallt dynol

  15. sut y dylid paratoi gwallt y cleient ar gyfer pob un o'r systemau gwallt atodol

  16. sut i gymysgu nifer o liwiau gwallt atodol er mwyn creu effeithiau lliw bloc a blaenoleuo

  17. pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ar gyfer gwahanol systemau gwallt atodol

  18. y systemau gwallt atodol y bydd angen cymorth arnoch o bosib wrth eu defnyddio

  19. sut i amcangyfrif faint o amser y gall y systemau gwallt atodol eu cymryd

  20. dulliau gosod systemau gwallt atodol tymor byr a thymor hir

  21. sut i amcangyfrif faint o wallt sydd i'w ychwanegu er mwyn cael golwg orffenedig gytbwys a chymesur

  22. sut y gall y steil a fwriedir effeithio ar y dewis a lleoliad gwahanol systemau gwallt atodol

  23. pam ei bod yn bwysig cynnal a chadw tyndra cyfartal wrth ychwanegu estyniadau gwallt

  24. yr offer a'r cyfarpar angenrheidiol ar gyfer pob dull gosod a sut y mae'r rhain yn cael eu defnyddio

  25. y mathau o broblemau all ddigwydd wrth ychwanegu estyniadau gwallt a sut i'w cywiro

  26. y mathau o bryderon cyffredinol y bydd cleientiaid sy'n ymgymryd â gwahanol systemau gwallt atodol yn eu profi e.e. colli gwallt naturiol

  27. sut i helpu tawelu ofnau'r cleient mewn ffordd galonogol

  28. y mathau o gynhyrchion a thechnegau gorffennu sy'n addas i'w defnyddio gydag estyniadau gwallt 

Torri a gorffennu estyniadau gwallt


*

  1. sut i arfer technegau torri creadigol er mwyn cydweddu gwallt naturiol y cleient gyda gwahanol systemau gosod gwallt i siwtio'r olwg orffenedig

  2. sut i addasu technegau torri er mwyn siwtio gwahanol fathau o estyniadau gwallt e.e. gwallt artiffisial a gwallt dynol 

  3. pwysigrwydd croeswirio'r toriad am ei fanwlgywirdeb


*

Cynnal a chadw a thynnu estyniadau gwallt

  1. pwysigrwydd rhoi cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir yn y salon

  2. sut i gynnal a chadw a thynnu'r system gwallt atodol

  3. y cyfnod amser a argymhellir rhwng gwasanaethau

  4. sut y bydd ffordd o fyw yn effeithio ar gynnal a chadw a hirhoedledd pob system gwallt atodol

  5. y mathau o gynhyrchion ac offer a ddefnyddir i dynnu gwahanol systemau gwallt atodol

  6. pam ei bod yn bwysig tynnu gwaddodion gosod gwallt atodol ac olion cynnyrch fel rhan o'r broses o dynnu estyniadau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Offer torri

1.1 siswrn

1.2 siswrn teneuo

1.3 raseli

2. Ffactorau

2.1 nodweddion gwallt

2.2 dosbarthiad gwallt

2.3 canlyniadau profion

2.4 dull gosod

2.5 cyfeiriad a chwymp y gwallt atodol

2.6 hyd gwallt naturiol y cleient

2.7 difrod amlwg i'r gwallt

2.8 swm y gwallt atodol

2.9 siâp pen ac wyneb

2.10 yr olwg orffenedig

3. Systemau gosod

3.1 tymor byr

3.2 tymor hir

4. Estyniadau gwallt

4.1 artiffisial

4.2 dynol

5. Ychwanegu a gosod

5.1 pen llawn

5.2 pen rhannol

6. Technegau torri

6.1 torri blaen

6.2 blaenfeinio

6.3 llawrydd

6.4 torri â rasel

6.5 gweadeddu

7. Technegau gorffennu creadigol

7.1 sychu

7.2 taenu cynnyrch

7.3 setio

7.4 defnyddio cyfarpar steilio twym

8. Cyngor ac argymhellion

8.1 sut i gynnal a chadw'r system gwallt atodol

8.2 cyfnod amser rhwng gwasasnaethau

8.3 cynhyrchion a gwasanaethau presennol ac i'r dyfodol


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a Diogelwch

Eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y maent wedi eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl swydd

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario

1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)

2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hybu arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

2.2 lleihau'r defnydd o ynni (sychwyr gwallt ynni-effeithlon, golau rhad-ar-ynni, defnyddio paneli solar)

2.3 lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill

2.4 atal llygredd

2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tywelion hawdd eu sychu)

2.6 defnyddio dodrefn ecogyfeillgar wedi'u hailgylchu

2.7 defnyddio paent cemegau isel

2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhydd o alergedd

2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia isel iawn

2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch ecogyfeillgar

2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

2.12 annog teithiau lleihau carbon i'r gwaith

3. Ffactorau

Y ffactorau sy'n rhaid eu hystyried cyn gosod estyniadau gwallt

3.1 nodweddion gwallt

3.2 dosbarthiad gwallt

3.3 canlyniadau profion

3.4 dull gosod

3.5 cyfeiriad a chwymp y gwallt atodol

3.6 hyd gwallt naturiol y cleient

3.7 niwed amlwg i'r gwallt

3.8 swm y gwallt atodol

3.9 siâp pen ac wyneb

3.10 yr olwg orffenedig


Gwerthoedd

​1. Mae'r Gwerthoedd Allweddol canlynol yn tanategu cyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr:

1.1 parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol

1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant fel ei gilydd

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd hyblyg tuag at waith

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd gadarnhaol

1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol

1.10 y gallu i hunan-reoli

1.11 sgiliau creadigrwydd

1.12 sgiliau cyfathrebu geiriol a chyfathrebu di-eiriau ardderchog

1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel

1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn defnyddio cyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel


Ymddygiadau

  1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn tanategu'r dasg o gyflenwi gwasanaethau yn y sector trin gwallt a gwaith barbwr.  Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd

1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon

1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar

1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddi/iddo deimlo'n werthfawr ac yn barchus

1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 trin y cleient mewn ffordd gwrtais a gwasanaethgar ar bob adeg

1.6 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a'i chadw/gadw'n gysurlon

1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad cleientiaid gwahanol

1.8 ymateb yn brydlon i gleient sy'n ceisio cymorth

1.9 dewis y ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu gyda'r cleient

1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall ei disgwyliadau /ddisgwyliadau yn llwyr

1.11 ymateb yn brydlon a chadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

1.12 rhoi amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi esboniad pellach pan fydd hynny'n briodol

1.13 dod o hyd i wybodaeth ar fyr dro fydd o gymorth i'r cleient

1.14 rhoi i'r cleient y wybodaeth sydd ei hangen arni/arno am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon

1.15 adnabod gwybodaeth all fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio a yw hi/e yn ei deall yn llwyr

1.16 esbonio'n glir wrth y cleientiaid unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau


Sgiliau


Geirfa

1. Dosbarthiad Gwallt (canllaw yn unig yw hwn)

Math 1 – Gwallt syth

1.1 Ffein/Tenau – y gwallt yn tueddu bod yn sidanaidd iawn, yn sgleiniog a seimlyd, a gall fod yn anodd dal cyrlen.

1.2 Canolig – llawer o cyfaint a swmp yn perthyn i'r gwallt

1.3 Bras – y gwallt fel arfer yn syth dros ben ac yn anodd ei gyrlio.

Math 2 – Gwallt tonnog

2.1 Ffein/Tenau – patrwm "S" pendant i'r gwallt.  Fel arfer gall ddal gwahanol steiliau.

2.2 Canolig – y gwallt yn tueddu bod yn grych ac ychydig yn ymwrthol wrth Steilio.

2.3 Bras – y gwallt hwn hefyd yn ymwrthol wrth ei steilio ac yn grych iawn fel arfer; y tonnau'n tueddu bod yn fwy trwchus.

Math 3 – Gwallt cyrliog

3.1 Cwrls llac – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt.  Gall fod yn drwchus a llawn ac yn swmpus, ac iddo batrwm "S" pendant.  Mae hefyd yn tueddu bod yn grych.

3.2 Cwrls tynn – ansawdd gyfunol yn tueddu bod i'r gwallt hyn hefyd; ynghyd â maint cymedrol o gwrls.

Math 4 – Gwallt cyrliog iawn

4.1 Sidanaidd – y gwallt yn tueddu bod yn frau iawn, yn dorchau tynn ac iddo batrwm cyrliog mwy diffiniedig. 

4.2 Gwrychog – hefyd yn frau iawn ac yn dorchau tynn; er hynny mae iddo batrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".

  1. Mae Nodweddion Gwallt yn cynnwys y canlynol: * *

2.1 trwch gwallt

2.2 ansawdd gwallt

2.3 elastigedd gwallt

2.4 mandylledd gwallt

2.5 cyflwr gwallt

2.6 patrymau tyfiant gwallt

3. Profion

3.1 tynnu

3.2 elastigedd

3.3 croen

3.4 mandylledd

4. Systemau gosod tymor byr – systemau gosod gwallt sy'n para am unrhyw beth rhwng 24 awr a chwe wythnos

4.1 wedi'i wnïo

4.2 wedi'i blethu

4.3 modrwyau

4.4 tapiau

4.5 darnau gwallt ac ychwanegiadau sy'n clipio i mewn

4.6 anwe â thâp

4.7 bondin oer – latecs

4.8 gwallt anwe – traciau neu resi

4.9 rhesi ŷd wedi'u plethu

5. Systemau gosod tymor hir – systemau gosod gwallt sy'n para chwe wythnos a mwy

5.1 bondio poeth neu ymdoddiad

5.2 micro-fodrwy neu ddolen

5.3 anweoedd seiliedig ar res ŷd

5.4 plethau rhes ŷd

6. Technegau torri

Mae blaenfeinio estyniadau gwallt yn rhoi ansawdd ac ysgafnder i wallt hir, syth ac yn cydweddu a meddalu'r gorffeniad cyffredinol

7. Prawf tynnu

Mae'r prawf tynnu o gymorth i werthuso colli gwallt yn eithafol a neu golli gwallt yn annormal; tynnu adrannau bychain o wallt gan bwyll wrth lithro'r bysedd o'r gwraidd i'r blaen mewn o leiaf 3 adran o'r croen pen.  Os bydd mwy na 12 blewyn fesul llaw yn cael eu colli, gall hyn fod yn arwydd o gyflwr lle mae tyfiant y gwallt yn annormal.

8. Alopecoa Hydyniad

Colli gwallt oherwydd gor-dyndra a neu dyndra parhaus ar y gwallt, e.e. gwisgo estyniadau'n rheolaidd neu blethu


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAGH23

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Darparu; creadigol; gwasanaethau estyn