Darparu triniaethau lles a holistig therapiwtig gan gymysgu olewon hanfodol

URN: SKABS7
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma ar gyfer rhywun proffesiynol ym maes Harddwch sy'n darparu triniaethau therapiwtig, lles a holistig gan ddefnyddio olewon hanfodol wedi eu cymysgu. Bydd technegau yn cynnwys y sylfaen gymysgu, olewon canol ac uchaf er mwyn creu profiadau a thriniaethau therapiwtig. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.

Y prif ddeilliannau yw:

  1. Darparu triniaeth therapiwtig lles a holistig treatment gan gymysgu olewon

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn

  1. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau

  2. trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon am ei gorff a'i groen, ei ddisgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r cynllun triniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol, i gynnwys:

3.1 alergeddau y gwyddir amdanynt

3.2 hanes triniaethau

3.3 hanes profiad

3.4 gweithgareddau diweddar

3.5 y gyfundrefn gyfredol ar gyfer gofal o'r croen

3.6 proffil y ffordd o fyw

3.7 dewisiadau triniaeth amgen

4. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, eu bod wedi deall y driniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol arfaethedig, i gynnwys:

4.1 canlyniadau disgwyliedig

4.2 gwrth-weithredoedd

4.3 adweithiau niweidiol
**4.4 teimlad corfforol

5. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer triniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol yn unol â gofynion cyfundrefnol ac yswiriant

  1. gwneud prawf(profion) o flaen y driniaeth er mwyn penderfynu sensitifrwydd y croen

7. paratoi a glanhau man triniaeth yr unigolyn  yn unol â'r protocol triniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol, i gynnwys:

7.1 cadw'r unigolyn yn gyfforddus a chadw ei urddas

8.  gwneud dadansoddiad o'r corff a'r croen, i gynnwys:

8.1 dosbarthiad o'r math o gorff a nodweddion y corff

**8.2 dadansoddiad o’r ystumiau

  1. dewis a chymysgu'r olewon hanfodol o fewn cludwr i greu cyfrwng tylino yn unol â'r protocol triniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol, i gynnwys:

9.1 edrych i weld pa mor gydnaws yw'r unigolyn gydag arogl yr olewon wedi eu cymysgu

Profiad

10. taenu'r olewon hanfodol er mwyn creu naws ac awyrgylch sy'n cydfynd ag anghenion yr unigolyn

Tylino

  1. cynnal technegau anadlu dwfn gyda'r unigolyn

  2. dodi'r olewon aromatherapi sydd wedi eu cymysgu a gwneud y tyliniad gan ddefnyddio technegau tylino therapiwtig fel ag y cytunwyd yn y protocol triniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol, i gynnwys:

12.1 cadw eich ystumiau a'ch safiad eich hun

  1. gwirio pwysedd, rhythm a llif y tylino gyda'r unigolyn ac addasu'r technegau tylino therapiwtig yn unol ag anghenion yr unigolyn

  2. monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol

15. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol

  1. cwblhau'r driniaeth yn unol â'r protocol triniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol

  2. cwblhau cofnodion triniaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data

  3. defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r driniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol a gweithredu'n briodol

  4. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth

  5. cofnodi canlyniad a gwerthusiad o'r driniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu

  1. pam bod rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:

2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol amdanoch chi eich hun a'ch adeilad

  1. pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau ddiweddaraf

  2. yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma

  3. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r driniaeth harddwch, i gynnwys:

5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol

  1. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd amheus ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd

  2. y defnydd o a chyfyngiadau triniaethau a/neu phrofiadau olewon hanfodol, mewn perthynas â'r canlynol:

7.1 hanes meddygol o'r gorffennol a chyfredol

7.2 ffactorau perthnasol sy'n ymwneud â'r ffordd o fyw

7.3 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol

7.4 disgwyliadau'r unigolyn

8. yr adweithiau niweidiol sy’n gysylltiedig â thriniaethau a/neu phrofiadau olewon hanfodol a sut i ymateb

  1. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol

  2. pam bod hi'n bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon disgwyliadau yr unigolyn a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol

  3. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu triniaethau harddwch i blant dan oed ac oedolion bregus

12. y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth

13. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer y driniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol  

  1. pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol 

15. sut i wneud profion cyn triniaeth a'u dehongli

16. pa mor aml dylid darparu triniaethau a/neu phrofiadau olewon hanfodol a’r effaith gallant ei gael ar iechyd a lles yr unigolyn proffesiynol, i gynnwys:

16.1 ffyrdd y gellir osgoi risgiau i iechyd a lles

16.2 osgoi anafiadau sy'n gysylltiedig â gwaith

16.3 cadw eich lles personol chi

  1. pwysigrwydd cadw ystum a safiad eich corff drwy gydol triniaeth dylino olewon hanfodol, i gynnwys:

17.1 sut mae'n effeithio ar gefnogaeth, llif ac effeithiolrwydd y driniaeth

  1. cadw'r unigolyn yn gyfforddus a gofalu amdano/i drwy gydol y driniaeth yn unol â'r driniaeth olewon hanfodol, i gynnwys:

18.1 sicrhau bod yr amgylchedd yn fodd o hybu tawelwch neu ysgogiad o ganfyddiadau amlsynhwyrol y corff unol â'r protocol triniaeth olewon hanfodol

  1. pam bod hi'n bwysig nodi diffygion a chyflyrau ystumiol yr unigolyn a sut ellir eu gwella

  2. pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o'r corff a'r croen er mwyn penderfynu ar y cynllun triniaeth

  3. y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  4. y grwpiau o olewon hanfodol a'u heffeithiau ar anhwylderau cyffredin, i gynnwys:

22.1 y mathau o olewon hanfodol a'u risgiau cysylltiedig sy'n gysylltiedig â gwenwyndra

  1. y gwahanaeth rhwng olewon hanfodol sylfaen, canol a note uchaf

  2. pan bod angen sylfaen, canol a notes uchaf i gyd mewn cymysgfa aromatherapi, i gynnwys:

24.1 y gymhareb a argymhellir ar gyfer ymarferion diogel ac i rwystro gwenwyndra

  1. sut i gadw, trin, defnyddio a chael gwared o olewon hanfodol

  2. y mathau o, manteision a chyfyngiadau rhag-driniaethau a ddefnyddir, cyn tyliniad sy'n defnyddio triniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol

  3. y mathau o, manteision a chyfyngiadau technegau tylino therapiwtig o fewn tyliniad â dwylo sy'n defnyddio olewon hanfodol, i gynnwys  :

27.1 manteision cysylltiedig ac osgoi anafiadau sy'n gysylltidig â gwaith 

27.2 risgiau cysylltiedig a sut i ymateb iddynt

  1. y mathau o dyliniad â dwylo sy'n defnyddio olewon hanfodol a/neu brofiad a'u heffeithiau 

29. sut i ddefnyddio olewon hanfodol o fewn triniaethau a/neu phrofiadau a sut ellir eu haddaso i greu effeithiau therapiwtig

  1. sut i baratoi a defnyddio cynnyrch a chyfarpar yn unol â'r protocol triniaethau a/neu phrofiadau olewon hanfodol

  2. pam ei bod yn bwysig egluro'r broses driniaeth a'r teimlad a ddaw yn ei sgil i'r unigolyn

  3. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth

  4. pwysigrwydd rhoi amser i'r unigolyn i ymadfer ar ôl triniaeth  a/neu phrofiad olewon hanfodol

34. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn, a’u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, a’r rhai deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol 

  1. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion triniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol

  2. canlyniadau disgwyliedig triniaethau a/neu phrofiad olewon hanfodol

  3. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol

38. pwysigrwydd cofnodi canlyniad y driniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol a’r gwerthusiad ohonynt

  1. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol

Cwmpas/ystod

Proffil ffordd o fyw

  1. geneteg
  2. ymborth
  3. galwedigaeth
  4. cwsg
  5. lles
  6. lefel straen

Adweithiau niweidiol

  1. gwaedu
  2. cleisio
  3. alergedd
  4. ymateb iachau gormodol

*
*

Protocol triniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol

  1. amgylchedd waith

  • iechyd a diogelwch

  • atal a rheoli haint

  • cynllun triniaeth

  • cydsyniad gwybodus

    1. rheoli data

  • canlyniadau profion

  • cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  • archwilio ac atebolrwydd

  • 10.  cyfarwyddiadau a chyngor

    11.  cynaliadwyedd

    12.  rheoli gwastraff

    13.  ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth

    14.  ymarfer adfyfyriol

    *
    *

    *
    *

    *
    *

    *
    *

    *
    *

    *
    *

    *
    *

    Nodweddion y corff

    1. tôn y cyhyr
    2. tensiwn y cyhyr
    3. dwysedd blew
    4. cylchrediad araf
    5. dosbarthiad y croen
    6. cyflwr y croen
    7. hydwythedd llac

    8. Ystumiau

    Cyfrwng tylino

    1. olew cludo

    2. golchdrwyth

    3. hufenau
    4. gel
    5. fformwleiddiadau cyn cymysgu


    Technegau tylino

    1. effleurage
    2. petrissage
    3. dirgryniadau
    4. pwynt pwysedd
    5. draenio lymphatig
    6. meinwe dwfn
    7. cyffyrddiad ysgafn
    8. goddefol


    Cyfarwyddiadau

    1.hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd

    1. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth

    2. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig

    3. triniaethau yn y dyfodol

    *
    *

    *
    *

    Anatomeg a ffisioleg

    1. strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd- ddibyniaeth ar ei gilydd
    2. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig
    3. ffactorau cynhenid ac anghynghenid sy'n effeithio ar swyddogaethau'r corff dynol a bioleg gyflawn
    4. effeithiau corfforol, seicolegol a ffisiolegol defnyddio olewon hanfodol mewn lles therapiwtig a thriniaethau holistig 


    Anafiadau sy'n gysylltiedig â gwaith

    1. anaf straen ailadroddus
    2. ystumiol
    3. llid y croen
    4. dadhydradiad

    5. ystyriaethau gwenwyndra

    6. blinder


    Grwpiau olew hanfodol

    1. blodyn (rhosyn, camri, lafant, mynawyd y bugail, Ylang ylang)
    2. ffrwythau (lemon, oren melys, leim, mandarin, grawnffrwyth)
    3. coed (ewcalyptws, coeden de, thus, cedrwydden, bensoin)
    4. llysiau (penrhudd yr ardd, mintys)
    5. notes sylfaen, canol ac uchaf
    6. fformwleiddiadau cyn cymysgu


    Effeithiau therapiwtig

    1. dadwenwyno
    2. cydbwyso
    3. ysgogi
    4. tonio
    5. ymlacio
    6. teimlo'n well
    7. dyrchafol
    8. lleddfu poen ysgafn
    9. gwella swyddogaeth imiwnedd
    10. gwella swyddogaeth niwrolegol
    11. cicatrisant
    12. gwrthfirol
    13. gwrthseptig






    Cwmpas Perfformiad


    Gwybodaeth Cwmpas


    Gwerthoedd


    Ymddygiadau


    Sgiliau


    Geirfa

    **Geirfa** ** **

    Gwrtharwydd llwyr

    Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.

    Adwaith niweidiol

    Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu

    Anatomeg a ffisioleg

    Y ffordd mae'r systemau sgerbydol, cyhyrol, cylchredol, lymffatig, resbiradol, ysgarthol, arogleuol*,* **ymylol, treuliol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda'i gilydd a sut mae nhw'n effeithio ar yr unigolyn, y gwasanaeth a'r canlyniadau

    Dosbarthiad y math o gorff

    Nodir mathau'r corff fel dosbarthiadau endomorff, mesomorff ac ectomorff.

    Gwrth Weithred

    Gwrth weithred yw adwaith 'ddisgwyliedig endocrinaidd neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. erythema

    Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

    Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau cyfredol, dilys a pherthnasol sydd ar gael

    Cymorth Cyntaf

    Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

    Canfyddiad amlsynhwyrol

    Disgrifir canfyddiad amlsynhwyrol fel annog ymwybyddiaeth ofalgar. Defnyddir technegau i godi’r effaith a ddymunir.

    Protocol**

    Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau e.e. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

    Gwrthawrydd cymharol

    Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau

    Effeithiau therapiwtig

    Mae effeithiau therapiwtig yn ddisgrifiad o les corfforol, emosiynol a meddyliol a gynhyrchir gan driniaethau a phrofiadau  holistig.

    Gwenwyndra

    Caiff gwenwyndra ei benderfynu gan adwaith unigolyn i wahanol ddosau o gemegolyn. Gall gwenwyndra neu adweithiau niweidiol ddigwydd o ganlyniad i anghydnawseddau gyda chymysgedd anghywir o gemegolion.


    Dolenni I NOS Eraill

    ​SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABBR1, SKABBR2, SKABN1, SKABN2, SKABN3, SKAB1, SKAB2, SKAB3, SKAB4, SKAB5, SKAB6, SKAB7, SKAB8, SKAB9, SKAB10, SKAB11, SKAB12, SKABS1, SKABS2, SKABS2, SKABS3, SKABS4, SKABS5, SKABS6, SKABS7, KAHDBMN1, SKAHDBRBNS2, SKAHDBRBNS3, SKAHDBRBNST2, SKAHDBRBNST3, SKAHDBRBNT1


    Cysylltiadau Allanol


    Fersiwn rhif


    Dyddiad Adolygu Dangosol

    31 Maw 2024

    Dilysrwydd

    Ar hyn o bryd

    Statws

    Gwreiddiol

    Sefydliad Cychwynnol

    SkillsActive

    URN gwreiddiol

    SKABT17

    Galwedigaethau Perthnasol

    Therapydd Harddwch

    Cod SOC

    6222

    Geiriau Allweddol

    Olewon hanfodol, olewon wedi eu cymysgu ymlaen llaw, arogleuon, naws, tylino, chakras, lles a holistig