Cynnal safonau hylendid wrth ymdrin a storio nwyddau mewn cyfleuster logisteg

URN: SFLWS28
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio,Gweithrediadau Lleoliad Diwylliannol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal safonau hylendid wrth ymdrin a storio nwyddau mewn cyfleuster logisteg. Mae’n cynnwys safonau hylendid personol a’r defnydd o gyfarpar diogelu personol (PPE) i ddiogelu’r gweithredwyr a’r nwyddau.

Mae’r safon hon yn berthnasol ar gyfer pob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai’r gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth neu anfon nwyddau ymlaen.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. nodi materion iechyd, diogelwch a diogeledd yn ymwneud â’r nwyddau a’r amodau storio mewn cyfleuster logisteg
  2. cynnal hylendid personol wrth ymdrin â nwyddau a’r amodau storio yn unol â gofynion sefydliadol
  3. nodi a defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) i gynnal safonau hylendid wrth ymdrin a storio nwyddau 
  4. nodi unrhyw ofynion arbennig ar gyfer cynnal ansawdd y nwyddau a’r amodau storio yn y cyfleuster logisteg
  5. ymdrin â nwyddau gan ddefnyddio dulliau a chyfarpar ymdrin yn unol â gofynion sefydliadol
  6. gwaredu mathau gwahanol o wastraff yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
  7. nodi ac ymateb i broblemau yn ymwneud â chynnal safonau hylendid sefydliadol
  8. cofnodi’r gwaith a wnaed yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  9. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu sy’n berthnasol i safonau hylendid wrth ymdrin a storio nwyddau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y materion iechyd, diogelwch a diogeledd sy’n berthnasol i ymdrin a storio nwyddau mewn cyfleuster logisteg
  2. natur a nodweddion y nwyddau sydd yn cael eu storio mewn cyfleuster logisteg
  3. y Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) y dylid ei ddefnyddio i gynnal safonau hylendid wrth ymdrin a storio nwyddau mewn cyfleuster logisteg
  4. y safonau hylendid perthnasol sydd yn angenrheidiol gan y sefydliad ar gyfer y nwyddau a’r amodau storio 
  5. y gofynion ar gyfer cynnal y nwyddau a’r amodau storio mewn cyfleuster logisteg
  6. y dulliau gwahanol o waredu gwastraff a ddefnyddir gan y sefydliad
  7. y problemau sy’n ymwneud â chynnal hylendid wrth ymdrin a storio nwyddau mewn cyfleuster logisteg
  8. eich rolau a’ch cyfrifoldebau eich hun a’ch cydweithwyr i gynnal safonau hylendid mewn cyfleuster logisteg
  9. sut i gwblhau dogfennau a chynnal cofnodion
  10. y gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol sy’n ymwneud â chynnal safonau hylendid wrth ymdrin a storio nwyddau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Amodau storio: amgylchol, wedi ei oeri, sych, awyr agored, dan do, wedi ei awyru, ar wahân, mynediad cyfyngedig

Dulliau ymdrin: â llaw, mecanyddol, disgyrchiant

Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid 

Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth

Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): siacedi llachar, hetiau caled, diogelwch llygaid, menig, esgidiau uchel

Cyfarpar: e.e. offer, teclynnau, peiriannau, lifftiau, cludwyr, craeniau a systemau silffoedd a rheseli 


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLWS28

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Ymdrin â Nwyddau a Storio, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol

Cod SOC

9252

Geiriau Allweddol

hylendid; ymdrin; storio; storfa; nwyddau; deunyddiau; lleoliad; warws; logisteg