Derbyn nwyddau i gyfleusterau logisteg

URN: SFLWS25
Sectorau Busnes (Suites): Masnachwyr Pren,Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â derbyn nwyddau i mewn i gyfleusterau logisteg. Mae’n cynnwys cadarnhau bod yn nwyddau’n cael eu derbyn a’u trin yn ddiogel, nodi unrhyw risgiau a diweddaru cofnodion.

Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, symud dodrefn, trafnidiaeth neu anfon nwyddau ymlaen.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cadarnhau bod y nwyddau sydd yn cael eu derbyn yn unol â’r wybodaeth ddosbarthu
  2. cadarnhau bod yr ardal a ddefnyddir i dderbyn y nwyddau yn lân ac yn rhydd rhag rhwystrau a pheryglon
  3. nodi a defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) sy’n berthnasol i dderbyn nwyddau i mewn i gyfleusterau logisteg
  4. cadarnhau bod cerbydau’n ddiogel ac yn gadarn cyn dadlwytho 
  5. ymdrin â nwyddau gan ddefnyddio dulliau ymdrin a chyfarpar yn unol â’r gofynion sefydliadol a chyfreithiol
  6. cadarnhau bod y nwyddau’n cael eu dadlwytho’n ddiogel yn unol â gofynion storio
  7. nodi materion iechyd, diogelwch a diogeledd yn ymwneud â derbyn nwyddau, ac ymateb yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  8. nodi ac ymateb i faterion wrth dderbyn nwyddau i mewn i gyfleusterau logisteg
  9. cofnodi eich gwaith yn unol â gofynion sefydliadol
  10. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu yn ymwneud â derbyn nwyddau i mewn i gyfleusterau logisteg


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y ffynonellau a’r mathau o wybodaeth ar gyfer y nwyddau sydd yn cael eu derbyn, yn cynnwys gwybodaeth sy’n berthnasol i iechyd, diogelwch a’r amgylchedd
  2. nodweddion a gofynion arbennig y nwyddau sydd yn cael eu derbyn i mewn i gyfleusterau logisteg
  3. y Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) y dylid ei ddefnyddio wrth dderbyn nwyddau i mewn i gyfleusterau logisteg
  4. y gofynion sefydliadol a chyfreithiol sy’n berthnasol i’r nwyddau sydd yn cael eu derbyn
  5. y cyfarpar a’r cyfleusterau sydd yn angenrheidiol i dderbyn nwyddau i mewn i gyfleusterau logisteg
  6. trefniadau diogelwch a diogeledd cerbydau wrth ddadlwytho
  7. y dulliau ymdrin ar gyfer y mathau o nwyddau a dderbynnir gan y sefydliad
  8. y dulliau o ddadlwytho nwyddau o gerbydau yn ddiogel
  9. y materion iechyd, diogelwch ac amgylcheddol sy’n berthnasol i storio nwyddau a dderbynnir gan y sefydliad
  10. y mathau o faterion sydd yn gysylltiedig â derbyn nwyddau i mewn i gyfleusterau logisteg
  11. sut i ddefnyddio a diweddaru unrhyw systemau rheoli stoc a ddefnyddir yn y sefydliad
  12. rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr wrth dderbyn nwyddau i mewn i’r sefydliad
  13. y systemau cofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a gofynion y sefydliad dros gynnal cofnodion
  14. y gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â derbyn nwyddau i mewn i gyfleusterau logisteg 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dulliau ymdrin: â llaw, mecanyddol

Systemau rheoli stoc: â llaw, cyfrifiadurol, systemau rheoli warws, amledd radio

Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid 

Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth

Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): siacedi llachar, hetiau caled, diogelwch llygaid, menig, esgidiau uchel

Cyfarpar: e.e. offer, teclynnau, peiriannau, lifftiau, cludwyr, craeniau a systemau silffoedd a rheseli  


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLWS25

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Trin a Storio Nwyddau, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol, Gweithrediadau Peiriannau Papur a Phren

Cod SOC

9252

Geiriau Allweddol

derbyn; ymdrin; symud; nwyddau; pren; masnachwyr pren; warws; logisteg; symud dodrefn