Trafod ar gyfer nwyddau

URN: SFLSCM92
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â thrafod ar gyfer nwyddau. Mae’n cynnwys pennu’r wybodaeth sydd yn ofynnol ar gyfer cynnal trafodaethau, cyflawni trafodaethau a sicrhau bod y nwyddau’n bodloni gofynion. Mae hefyd yn cynnwys darparu gwybodaeth am ganlyniadau’r trafodaethau.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent, er enghraifft, fod mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.  


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. cael y wybodaeth sydd ei hangen i gynnal y trafodaethau ar gyfer nwyddau 2. pennu’r hyn sydd ei angen gan bob parti yn y trafodaethau 3. sefydlu’r paramedrau ar gyfer trafod y telerau a’r amodau ar gyfer y nwyddau 4. cynnal y trafodaethau i gyflawni’r amcanion angenrheidiol 5. addasu strategaethau trafod i ymdopi ag amgylchiadau neu faterion newydd 6. cadarnhau bod y nwyddau’n bodloni gofynion cadwyn gyflenwi y sefydliad 7. rhoi gwybodaeth am ganlyniadau’r trafodaethau i gydweithwyr 8. creu contract o delerau ar gyfer y cyflenwr i gyflenwi nwyddau i’r sefydliad 9. cydymffurfio â’r holl weithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol wrth drafod ar gyfer nwyddau 10.  hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd yn y sefydliad a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth drafod ar gyfer nwyddau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
  2. ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad ar brosesau cadwyn gyflenwi a ble i gael y wybodaeth sydd ei hangen i gynnal trafodaethau am nwyddau
  3. pwysigrwydd pennu’r hyn sydd ei angen gan bob parti yn y trafodaethau
  4. y paramedrau ar gyfer trafod y telerau a’r amodau ar gyfer y nwyddau
  5. damcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
  6. dulliau a gweithdrefnau gwerthuso’r cyflenwr
  7. y damcaniaethau, y modelau a’r arferion caffael
  8. y strategaethau, y dulliau a’r gweithdrefnau trafod
  9. y gofynion sefydliadol, cyfreithiol, iechyd a diogelwch ac amgylcheddol perthnasol ar gyfer nwyddau
  10. y gofynion sylfaenol ar gyfer contractau
  11. sut i adlewyrchu’r drafodaeth mewn termau contract, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi

Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, trafnidiaeth a rheoli gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol

Contractau: cytundeb sydd yn rhwymo mewn cyfraith. Yn cynnwys: Deddf Contractau, Deddf Gwerthu a Chyflenwi Nwyddau, Deddf Gwerthu Nwyddau, Deddf Hawliau Defnyddwyr, ac ati 


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLSCM92

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

trafod; nwyddau; cadwyn gyflenwi