Dewis dulliau trafnidiaeth ar gyfer nwyddau

URN: SFLSCM109
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â dewis dulliau trafnidiaeth ar gyfer nwyddau. Mae’n cynnwys cael a gwerthuso gwybodaeth yn ymwneud â’r nwyddau sydd yn cael eu cludo a dulliau trafnidiaeth sydd ar gael. Mae hefyd yn cynnwys dewis dulliau i fodloni manylebau, asesu buddion a risgiau, ymdrin â phroblemau a rhoi canlyniadau gwerthusiadau sydd yn cydymffurfio â gofynion.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cadarnhau’r wybodaeth am y nwyddau sydd yn cael eu cludo
  2. cael gwybodaeth am y dulliau trafnidiaeth sydd ar gael ar gyfer y nwyddau
  3. gwerthuso’r wybodaeth am addasrwydd y dulliau trafnidiaeth
  4. dewis y dulliau trafnidiaeth sy’n bodloni manylebau’r nwyddau, y rhanddeiliaid allweddol ac unrhyw ofynion eraill
  5. asesu buddion a risgiau defnyddio’r dulliau trafnidiaeth a ddewiswyd
  6. nodi unrhyw fesurau diogeledd a bioddiogelwch ar gyfer y nwyddau angenrheidiol sydd yn cael eu cludo
  7. nodi ac ymdrin â phroblemau gyda’r dulliau trafnidiaeth
  8. rhoi canlyniadau’r detholiad i gydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol
  9. cydymffurfio â’r holl weithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol sydd yn angenrheidiol ar gyfer dewis dulliau trafnidiaeth
  10. hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd yn y sefydliad a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth ddewis dulliau dosbarthu ar gyfer nwyddau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r dulliau trafnidiaeth ar gyfer nwyddau 
  2. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
  3. ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad am brosesau cadwyn gyflenwi a’r dulliau trafnidiaeth sydd ar gael ar gyfer symud nwyddau
  4. y dulliau a’r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer dewis dulliau trafnidiaeth addas ar gyfer y nwyddau
  5. dulliau a gweithdrefnau trafnidiaeth eich sefydliad
  6. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion logisteg
  7. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi risg sydd ar gael i gynorthwyo gyda dewis dulliau trafnidiaeth ar gyfer y nwyddau
  8. sut i nodi ac ymdrin ag unrhyw broblemau gyda dulliau dosbarthu 
  9. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion cadwyn gyflenwi
  10. y mathau o ddulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad
  11. y gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol yn ymwneud â dosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  12. sut i nodi unrhyw fesurau diogeledd a bioddiogelwch sydd yn angenrheidiol gan y nwyddau sydd yn cael eu dosbarthu
  13. eich cyfrifoldebau chi a’ch sefydliad dros ddiogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth ddosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, cwsmeriaid, cwmnïau trafnidiaeth

Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi

Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol

Trafnidiaeth: symud nwyddau neu adnoddau yn fewnol neu’n allanol o fewn y sefydliad, yn genedlaethol neu rhwng ffiniau rhyngwladol

Manylebau: set o ofynion i gael eu bodloni gan gynnyrch materol neu wasanaeth. Gallai manylebau fod yn fath o farchnad, y lleoliad, y math o nwyddau neu ofynion cwsmer.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLSCM109

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

trafnidiaeth; nwyddau; cadwyn gyflenwi