Cynnal dadansoddiad ac ymchwil i’r farchnad i ddatblygu marchnadoedd newydd mewn gweithrediadau logisteg

URN: SFLITLO1
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Logisteg,Gweithrediadau Masnach a Logisteg Rhyngwladol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2015

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal dadansoddiad ac ymchwil i’r farchnad i ddatblygu marchnadoedd newydd mewn gweithrediadau logisteg. Mae’r safon wedi ei hanelu at y rheiny sy’n gweithio i gwmnïau logisteg a sefydliadau sy’n ymdrin â masnach ryngwladol. Bydd angen eich bod yn gallu dadansoddi marchnadoedd posibl ac ystyried anghenion rhagweld a chynllunio presennol ac yn y dyfodol.

Dylai canlyniad y rhagweld a’r dadansoddi perthnasol sicrhau bod cynnyrch, marchnad, pris, ansawdd a maint cywir nwyddau’n cael eu hymchwilio.

Mae’r safon yn cynnwys ystyried adnoddau, targedu cwsmeriaid, cyflwyno dadansoddiad ystadegol, cynllunio marchnata a chyflwyno achos busnes.

Mae’r safon hon yn berthnasol i ymchwilwyr a phersonél gwybodaeth sydd yn cynnal dadansoddiad o’r farchnad er mwyn ymchwilio i farchnadoedd lleol a rhyngwladol newydd. Gellir cyflogi personél marchnata yn uniongyrchol gan y sefydliad neu eu contractio’n allanol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. Diffinio a chytuno ar amcanion marchnata’r sefydliad logisteg i ddatblygu gwerthu a dosbarthu i farchnadoedd newydd yn y DU ac yn rhyngwladol
  2. Gwneud ymchwil a dadansoddi’r marchnadoedd newydd a nodwyd eu bod ar gael i’r sefydliad a chanfod maint y cyfle
  3. Gwerthuso potensial y farchnad i’r sefydliad yn y marchnadoedd a nodir, yn ogystal â’r adnoddau logisteg, y buddsoddiad sydd ei angen i gyflawni’r potensial ac unrhyw risgiau cysylltiedig
  4. Cytuno ar faint y gwerthiannau a'r nifer a’r mathau o farchnadoedd newydd i’w ceisio yn y gweithrediad logisteg
  5. Nodi’r effaith ar y sefydliad o wireddu’r maint o dargedir o werthiannau, o ran yr adnoddau logisteg a’r buddsoddiad sydd yn ofynnol
  6. Archwilio a chytuno ar y strategaeth ar gyfer mynd i mewn i’r marchnadoedd a nodir, asesu costau a buddion perthynol opsiynau logisteg posibl
  7. Cynnal rhagolwg ac asesiad o botensial prynu cwsmeriaid
  8. Asesu a chytuno ar y grwpiau o gwsmeriaid i gael eu targedu, gan baru eu nodweddion prynu a’u hanghenion â chynnyrch a gwasanaethau’r sefydliad
  9. Cytuno ar gynllun marchnata ar gyfer datblygu a dosbarthu i’r farchnad newydd
  10. Asesu tueddiadau marchnata, cyfleoedd ac anghenion tebygol yn y dyfodol, yn seiliedig ar yr asesu a’r rhagweld
  11. Nodi a chyfathrebu unrhyw risgiau sydd yn gysylltiedig â datblygu’r achos busnes a’r cynllun i’r tîm rheoli, rhanddeiliaid a’r partneriaid
  12. Cyflwyno gwybodaeth rifol a gwybodaeth arall sydd ar gael i’r tîm rheoli, y rhanddeiliaid a’r partneriaid mewn ffordd briodol
  13. Rhagweld a chytuno ar yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer marchnata i’r marchnadoedd newydd
  14. Cyflwyno a chytuno ar yr achos busnes a’r cynllun marchnata ar gyfer dosbarthiad logisteg i’r marchnadoedd newydd a ddewisir, yn cynnwys yr elw a ragwelir ar fuddsoddiad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. Dangosyddion potensial y farchnad i gael eu hystyried, yn cynnwys ffactorau daearyddol, ffactorau economaidd, diwylliannol a thechnolegol
  2. Y ffyrdd gwahanol o fynd i mewn i farchnadoedd, a’r goblygiadau a'r risgiau yn ymrwymo i farchnad benodol
  3. Y potensial ar gyfer rheolaeth a phroffidioldeb, yn cynnwys allforio, mewnforio, mentrau ar y cyd a buddsoddi uniongyrchol h.y. a all nwyddau gael eu dosbarthu “ar Amser ac yn Llawn” (OTIF)
  4. Cydrannau’r cymysgedd marchnata, yn cynnwys maint gwerthiannau’r cynnyrch neu wasanaethau, prisio, rhoi mewn warws, storio, pacio a dosbarthu,
  5. Y ffactorau i’w hystyried wrth benderfynu ar y cymysgedd marchnata ar gyfer marchnadoedd rhyngwladol gwahanol
  6. Y modelau dadansoddi risg, yn cynnwys y pwyntiau pan fydd risg yn dechrau ac yn mynd o’r cyflenwr i’r prynwr, yn unol â rheolau presennol Incoterms 
  7. Y prif strwythurau sefydliadol ar gyfer marchnata i farchnadoedd rhyngwladol neu amrywiol, yn cynnwys adrannau mewnforio ac allforio neu is-adrannau rhyngwladol, a’u gwerthoedd perthynol
  8. Sut i ragweld effaith cyrraedd y farchnad darged ar y sefydliad
  9. Sut i gynllunio a chytuno ar strategaeth ar gyfer mynd i mewn i unrhyw farchnad(oedd) rhyngwladol a nodwyd, yn cynnwys anghenion personél logisteg a sgiliau logisteg rhyngwladol
  10. Y dulliau o asesu a chytuno ar grwpiau targed cwsmeriaid, yn cynnwys nodweddion diwylliannol y cwsmeriaid yn y farchnad darged
  11. Yr offer a’r systemau dadansoddi gwahanol sydd eu hangen, fel fforymau, cyfathrebiadau, arolygon a marchnata uniongyrchol
  12. Sut i ysgrifennu a strwythuro cynlluniau’r farchnad a’r testunau a’r cynnwys i’w cynnwys yn y cynllun marchnata
  13. Y ffynonellau gwybodaeth yn ymwneud â thueddiadau a datblygiadau yn y marchnadoedd gwahanol ar gyfer y diwydiant neu’r sector, yn cynnwys ystyriaethau o Gyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR)
  14. Y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol perthnasol sy’n effeithio ar farchnata cynnyrch neu wasanaethau i’r marchnadoedd targed
  15. Sut i nodi risg a ffyrdd o gyfathrebu risg i rheolwyr a chyfarwyddwyr
  16. Y gofynion iechyd a diogelwch, y ddeddfwriaeth berthnasol, y codau

  17. Y dulliau o gyflwyno gwybodaeth rifol, rhagweld a gwybodaeth hanfodol arall

  18. Sut i ragweld yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer marchnata, yn cynnwys deall ffyrdd gwahanol o farchnata, yn cynnwys y cyfryngau cymdeithasol
  19. Y dulliau a’r fformatiau ar gyfer cyflwyno’r achos busnes cyffredinol, yn cynnwys y buddion a’r elw i’r sefydliad e.e. ystyried cylchoedd bywyd a chostau cyfan (rhagweld o’r crud i’r bedd)


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Nodweddion prynu
Nodweddion a thueddiadau grwpiau cleientiaid gwahanol, yn cynnwys dewisiadau ac anghenion diwylliannol, ffasiwn, deiet, demograffeg a chynnyrch

Cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR)
Mae CSR yn broses sydd yn ceisio croesawu cyfrifoldeb dros weithredoedd y cwmni ac annog effaith gadarnhaol trwy ei weithgareddau ar yr amgylchedd, defnyddwyr, cyflogeion, cymunedau, rhanddeiliaid a phob aelod arall o faes cyhoeddus a allai hefyd gael eu hystyried yn rhanddeiliaid.

Incoterms
Termau Masnachol Rhyngwladol. Mae rheolau Incoterms yn esbonio set o 3 term masnach sydd yn adlewyrchu ymarfer o un busnes i’r llall ar gyfer gwerthu nwyddau. Mae rheolau Incoterms yn disgrifio’r tasgau, y costau a’r rheolau sydd yn gysylltiedig â dosbarthu nwyddau o werthwyr i brynwyr.

Amcanion marchnata
Yr amcanion a osodir gan y sefydliad i ymestyn gwerthiannau cynnyrch a gwasanaeth presennol mewn gweithrediadau logisteg

Potensial y farchnad
Y cyfleoedd newydd posibl a’r cyfleoedd gwerthu a refeniw newydd sydd ar gael i’r sefydliad

Tueddiadau marchnata
Sut i ragfynegi tueddiadau a marchnadoedd newydd a phresennol. Mae dadansoddi tueddiadau yn ceisio rhagfynegi tuedd fel rhediad marchnad ar godi ac ymuno â’r duedd honno nes bod data’n awgrymu bod y duedd yn newid

Adnoddau
Stoc, cyfarpar, gwasanaethau, pobl neu weithlu


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Rhag 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Logistics

URN gwreiddiol

SFLITLO1

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Rheolwyr Dosbarthu, Rheolwr Marchnata a Gwerthu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt, Rheolwyr ac Uwch Swyddogion

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

marchnata; ymchwil i’r farchnad