Rheoli derbyn nwyddau tollau ble mae’r doll wedi ei hatal a’r doll wedi ei thalu

URN: SFLBW2
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli derbyn nwyddau tollau ble mae’r doll wedi ei hatal a’r doll wedi ei thalu. Mae’n cynnwys gofynion eich sefydliad a rhai Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) ar gyfer cofnodi a derbyn nwyddau. Mae’r safon wedi ei hanelu at geidwad awdurdodedig y warws sydd wedi ei gymeradwyo i fod yn berchen ar neu gadw nwyddau ble mae’r doll wedi ei thalu neu y mae’r doll wedi ei hatal. Mae hefyd yn cynnwys beth i’w wneud wrth nodi a chofnodi anghysondebau a allai ddigwydd tra’n derbyn nwyddau.

Mae’r safon hon yn berthnasol i bob unigolyn sydd yn gysylltiedig â rheoli gweithrediadau warws tollau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cadarnhau y disgwylir nwyddau tollau sydd yn dod i mewn a chydymffurfio ag amodau cymeradwyo eich warws
  2. Sicrhau bod nwyddau tollau yn cael eu derbyn a’u bod yn cynnwys dogfennau dilys
  3. cadarnhau statws tollau a phwynt tollau y nwyddau tollau sydd yn cael eu derbyn
  4. rheoli gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer gwirio nwyddau a chydymffurfio â gwaith papur perthnasol, ac ymchwilio i anghysondebau
  5. adrodd am anghysondebau yn unol â gofynion sefydliadol a rhai Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) 
  6. rheoli a sicrhau bod nwyddau tollau ble mae’r doll wedi ei hatal a nwyddau tollau lle mae’r doll wedi ei thalu yn cael eu storio yn y lleoliad cymeradwy yn y warws
  7. sicrhau bod nwyddau tollau wedi eu cofnodi yn system archebu y sefydliad yn unol â gofynion sefydliadol a rhai Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) 
  8. codi, cofnodi a nodi cyfrifon stoc yn unol â’r awdurdodiad
  9. cadarnhau derbyn nwyddau tollau yn unol â’r gofynion sefydliadol perthnasol a rhai HMRC 
  10. cadarnhau bod nwyddau’n cydymffurfio â gofynion labelu a nodi sefydliadol a rhai Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) 
  11. cadarnhau bod dychweliadau cwsmeriaid yn cael eu cofnodi a bod cyfrif ohonynt yn unol â gofynion sefydliadol a rhai Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC)


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. gweithdrefn eich sefydliad ar gyfer rheoli nwyddau tollau sydd yn dod i mewn, ac amodau cymeradwyo, yn cynnwys pwynt tollau
  2. y dogfennau sy’n ofynnol i gyd-fynd â mathau gwahanol o dderbyniadau 
  3. y gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol perthnasol i’w dilyn os yw nwyddau tollau yn cyrraedd heb y dogfennau angenrheidiol
  4. statws gwahanol nwyddau ble mae’r doll wedi cael ei hatal a nwyddau tollau ble mae’r doll wedi ei thalu a sut i’w hadnabod
  5. y weithdrefn sy’n berthnasol i dderbyn neu wrthod nwyddau mewn warws, yn cynnwys ond derbyn nwyddau a nodir ar yr archeb wreiddiol, gan ystyried dyddiadau dod i ben a rhifau swp
  6. y mathau gwahanol o anghysondebau y mae angen eu cofnodi a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer eu hadrodd
  7. sut i storio nwyddau tollau a dderbynnir a’r hyn y mae storio diogel a lleoliadau gofynnol yn ei olygu
  8. sut i wneud archebion nwyddau sydd yn cael eu derbyn a gofynion System Symud a Rheoli Tollau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) ar gyfer archebu, yn cynnwys y mathau gwahanol o systemau archebu sydd ar gael a goblygiadau cofnodi gwybodaeth anghywir
  9. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer rheoli derbyn nwyddau tollau, yn cynnwys diweddaru cyfrifon stoc a systemau sefydliadol eraill
  10. sut mae’r gofynion deddfwriaethol perthnasol yn gwahaniaethu o gynnyrch i gynnyrch
  11. gofynion perthnasol Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cofnodi dychweliadau cwsmeriaid, a goblygiadau cofnodi gwybodaeth anghywir


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Awdurdodiad: unrhyw gymeradwyaeth neu gofrestriad a ddarperir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) i alluogi trin nwyddau lle mae’r doll wedi ei hatal

Anghysondebau: unrhyw wahaniaethau rhwng yr hyn a ddisgwylir a’r hyn a gofnodir yn y system rheoli nwyddau, yn unol â gofynion HMRC a rhai sefydliadol

Gohirio toll: system ble mae HMRC yn caniatáu dyledion tollau cartref mewn cyfnod dychweliad i gronni a chael eu talu trwy ddebyd uniongyrchol ar ddyddiadau penodedig ar ôl diwedd y cyfnod. Mae’n fath o gytundeb credyd a warentir gan warant ariannol a ddarperir gan ddeiliad cyfrif y gohiriad

Pwynt tollau: pan fydd nwyddau yn dod yn atebol am doll oherwydd digwyddiad neu symudiad dilys neu afreolaidd

Statws toll: dangosydd yng nghofnodion y warws ynghylch a yw unrhyw nwyddau tolladwy yn destun toll wedi ei hatal neu doll wedi ei thalu

Atal toll: unrhyw nwyddau tollau lle mae tollau’r DU heb gael eu talu

Nwyddau tollau: unrhyw nwyddau neu eitemau sydd yn cael eu storio yn y warws sydd yn denu tollau cartref

Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC): yr adran sy’n gyfrifol am reoli warysau cyllid a thollau (ar wahân, ond y cyfeirir atynt ar y cyd fel storfeydd tollau), yn cynnwys Hysbysiadau Tollau, yn y DU

Gofynion labelu a nodi: y gofynion ar gyfer labelu a nodi nwyddau a stoc yn gywir, yn unol â gofynion HMRC

Dychweliadau: nwyddau sydd yn cael eu dychwelyd at y cynhyrchydd neu’r gwir berchennog/perchennog cofrestredig


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLBW2

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Trin a Storio Nwyddau, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol

Cod SOC

9252

Geiriau Allweddol

warws; storio; tollau; nwyddau; derbyn; rheoli; rheolaeth; toll wedi ei thalu; toll; Hysbysiadau Tollau