Gweithredu a monitro systemau’r tancer

URN: SFL211
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Nwyddau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2023

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â gweithredu a monitro systemau’r tancer, gan ddefnyddio offeryniaeth i fonitro’r tancer, ac unrhyw gyfarpar sydd wedi ei osod arno, fel oergell. Mae’n cynnwys y camau y gallai’r gyrrwr fod angen eu cymryd os bydd problemau’n digwydd a sut dylid adrodd am y rhain. Mae’n cynnwys ail-lenwi tanceri â thanwydd yn ddiogel.

Mae’r safon hon yn berthnasol ar gyfer gyrwyr tanceri a’r rheiny sy’n gyfrifol am danceri o fewn sefydliadau logisteg.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​monitro offerynnau’r tancer wrth yrru a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol, gan ddilyn y gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
  2. monitro unrhyw offerynnau sydd yn dangos cyflwr y llwyth a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol, gan ddilyn y gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
  3. monitro’r tanwydd a lefelau hylifau eraill y tancer
  4. gweithredu systemau dosbarthu tanwydd yn ddiogel er mwyn ail-lenwi’r tancer â thanwydd
  5. ychwanegu hylifau cerbyd eraill fel y bo angen
  6. gweithredu rheolyddion y tancer mewn ffordd sydd yn cynnal eich diogelwch a’ch diogeledd eich hun, y tancer, y llwyth a defnyddwyr eraill y ffordd
  7. cymryd camau perthnasol i leihau traul ar systemau’r tancer
  8. cymryd y camau perthnasol pan fydd ffactorau sy’n effeithio ar effeithlonrwydd y tancer, neu faterion gyda systemau’r tancer
  9. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â gweithredu a monitro systemau’r tancer

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​dibenion a swyddogaethau offerynnau’r tancer
  2. sut i fonitro offerynnau’r tancer a phryd mae angen gweithredu
  3. gofynion tanwydd, ychwanegion, olew, dŵr a hylif eraill perthnasol y tancer sydd yn cael ei yrru
  4. sut i ail-lenwi’r tancer â thanwydd yn cynnwys sut i ychwanegu ychwanegion tanwydd
  5. sut i weithredu rheolyddion y tancer mewn ffordd sydd yn cynnal eich diogelwch a’ch diogeledd eich hun, y tancer, y llwyth a defnyddwyr eraill y ffordd, ac yn lleihau traul ar systemau’r tancer
  6. y mathau o faterion a allai ddigwydd gyda’r tancer neu systemau’r tancer a’r camau y dylid eu cymryd yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  7. y gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â gweithredu monitro systemau’r tancer

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

  • ​Rheolyddion: cyflymydd, cydiwr, brêc troed, brêc llaw, olwyn lywio, gêrs, cyfeirwyr, goleuadau, sychwyr ffenestri, diniwlwyr, gwres ac awyru, Esgynfa Bŵer (PTO), clo differol
  • Ychwanegion Tanwydd: olew, dŵr a hylifau eraill cerbydau
  • Offerynnau: mesurau, goleuadau rhybudd, arddangosiadau, rhybuddion sain, tacograff, dangosyddion pwysedd teiars, lefelau oeryddion, lefelau olew, pwysedd aer
  • Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: Rheolau’r Ffordd Fawr, rheoliadau trafnidiaeth, rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, trwyddedau, oriau gyrwyr, gofynion Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC), gofynion yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau (DVSA), Cynllun Cydnabod Gweithredwyr Fflyd (FORS), cyfyngiadau alcohol a chyffuriau, gofynion sefydliadol
  • Llwyth: powdrau, deunyddiau grononnol, mwynau, hylifau, nwyon, bwyd, cynnyrch nad yw’n fwyd, peryglus, gwastraff
  • Defnyddwyr y ffordd: cerbydau modur, beiciau modur, beiciau, cerddwyr, anifeiliaid, defnyddwyr y ffordd sy’n agored i niwed
  • Systemau: taniwr, trydanol, goleuadau, brêcs, trawsyriant, injan, tanwydd, cyplysiad, technoleg gwybodaeth, digidol, systemau cyfathrebu a thelemetreg, cyfarpar ategol, llwytho, dadlwytho, rheoli tymheredd
  • Tancer: y tancer yr ydych yn ei yrru fel arfer, cynwysyddion tancer a chyfarpar ategol

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFL211

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu

Cod SOC

8214

Geiriau Allweddol

gweithredu; monitro; tancer; systemau