Creu ymarferiadau i ymarfer neu ddilysu trefniadau argyfwng neu ddilyniant busnes

URN: SFJCCAE1
Sectorau Busnes (Suites): Hapddigwyddiadau Sifil
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 30 Tach 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu ymarferiadau i ddarparu hyfforddiant ar y cyd neu ddilysu cynlluniau a threfniadau dilyniant busnes.  Gall yr ymarferiadau a greir hefyd roi cynnig ar ddatrysiadau newydd i'r problemau, a dilysu'r hyfforddiant y mae pobl wedi'i dderbyn yng nghyswllt eu rolau mewn trefniadau ymateb sefydliad.


Grŵp Targed
Argymhellir y safon hon ar gyfer y rhai sy'n ymwneud â chreu ymarferiadau amddiffyniad sifil.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cadarnhau'r angen am ymarferiadau, gan gynnwys eu cwmpas, eu nodau, eu hamcanion a'u meini prawf llwyddiant, yn unol â gofynion sefydliadol
  2. sefydlu ymarferiadau yn unol ag amcanion cytunedig a'r amser a'r adnoddau sydd ar gael
  3. gosod senarios realistig, credadwy a heriol sy'n cyflawni'r amcanion ar gyfer ymarferiadau, yn unol â gofynion sefydliadol
  4. creu sefyllfaoedd sy'n deillio o senarios i brofi neu ddilysu amrywiol agweddau ar gynlluniau, yn unol â gofynion sefydliadol
  5. cynnwys asiantaethau eraill wrth ddatblygu ymarferiadau a chyfranogi ynddynt, lle bo hynny'n briodol, yn unol â gofynion sefydliadol
  6. rhesymoli nodau ac amcanion yr holl sefydliadau sy'n cyfranogi mewn ymarferiadau, yn unol â gofynion sefydliadol
  7. cadarnhau bod y cyfranogwyr yn ymwybodol o'u rolau mewn ymarferiadau, a darparu briffiadau rhag-ymarferiad, yn unol â gofynion sefydliadol
  8. gwirio bod y dogfennau gofynnol ar gael
  9. gwirio bod y cyfleusterau, y cyfarpar neu'r adnoddau eraill sy'n ofynnol ar gael, yn unol â gofynion sefydliadol
  10. gwahaniaethu rhwng adborth ar fecaneg yr ymarferiad, a'r gwersi a ddysgwyd sy'n berthnasol i'r amcanion, yn unol â gofynion sefydliadol
  11. darparu adroddiadau amserol wedi ymarferiadau, gydag argymhellion ar gyfer y camau dilynol sy'n ofynnol, yn unol â gofynion sefydliadol
  12. darparu adroddiadau gweithredu wedi ymarferiadau, gan ddisgrifio'r cynnydd a wnaed o ran argymhellion yr ymarferiadau, yn unol â gofynion sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​gwahaniaethau rhwng ymarferiadau sy'n: 1.1 darparu hyfforddiant ar y cyd 1.2 rhoi cynnig ar drefniadau newydd 1.3 gwerthuso'r trefniadau presennol
  2. sut a phryd gellir defnyddio gwahanol fathau o ymarferiadau
  3. diben ymarferiadau wrth: 3.1 gynnal natur gyfredol a dilysrwydd cynlluniau 3.2 canfod gwendidau rhyngweithiad cynllun 3.3 datblygu cymhwysedd y rhai dan sylw
  4. cyfyngiadau defnyddio ymarferiadau i werthuso trefniadau presennol
  5. pam dylai ymarferiadau edrych ar senarios sefyllfa waethaf resymol ar sail risg a chynllunio rhagdybiaethau
  6. meysydd a allai fod yn wendid yn y perfformiad neu'r gweithdrefnau presennol, y gellir ymdrin â hwy trwy ymarferiad
  7. pam y gall fod yn fuddiol cynnwys asiantaethau eraill mewn ymarferiadau, a'r ffordd orau o wneud hynny
  8. goblygiadau cael eu cynnwys i sefydliadau eraill, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau posibl
  9. gofynion o ran amlder cynnal ymarferiadau
  10. rolau a chyfrifoldebau cynllunwyr a chyfarwyddwyr ymarferiadau
  11. sut mae profi agweddau penodol ar gynlluniau neu drefniadau, gan gynnwys: 11.1 rhestr gyswllt 11.2 proses actifadu 11.3 cyfarpar cyfathrebu 11.4 rheoli gwybodaeth
  12. sut mae pennu amcanion ymarferiad a sicrhau eu bod wedi'u cyflawni
  13. manteision sesiynau dadfriffio 'poeth' ac 'oer' ar ôl y digwyddiad
  14. deddfwriaeth, rheoliadau a chanllawiau cysylltiedig sy'n berthnasol i gynllunio ar gyfer argyfwng

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Isod rhestrir y prif ymddygiadau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl yr uned, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:


1 bod yn benderfynol
2 natur ymchwiliol
3 bod yn realistig
4 natur gydweithredol


Sgiliau

Isod rhestrir y prif sgiliau generig y mae angen eu cymhwyso. Mae'r rhain wedi'u nodi'n benodol/yn ddealledig yng nghynnwys manwl yr uned, ac fe'u rhestrir yma ar ffurf gwybodaeth ychwanegol:


1 dadansoddi                                                                
2 asesu
3 briffio a dadfriffio
4 cyfathrebu
5 ymgynghori
6 rheoli gwybodaeth
7 trefnu
8 datrys problemau
9 rheoli prosiectau
10 paratoi adroddiadau
11 ymchwil
12 pennu amcanion
13 cadeirio
14 arweinyddiaeth


Geirfa

Termau a ddefnyddir yn aml a sut dylid eu dehongli yng nghyd-destun SGC Hapddigwyddiadau Sifil:


*Prawf *
Gweithdrefn i ganfod ansawdd neu ddibynadwyedd elfen o gynllun


Ymarferiad
Efelychiad i ddilysu cynllun argyfwng neu ddilyniant busnes, rhoi cyfle i staff allweddol ymarfer, neu brofi systemau neu weithdrefnau


Hyfforddiant ar y cyd
Hyfforddi pobl sydd wedi cwblhau hyfforddiant unigol i weithio fel tîm i gwblhau tasg


Ymarferiad ar sail trafodaeth
'Siarad trwy' y trefniadau ymateb


Ymarferiad pen bwrdd
Efelychiad, a gynhelir fel arfer mewn un ystafell neu gyfres o ystafelloedd


*Ymarferiad byw     *                  
Ymarfer mewn modd realistig, neu 'ddril ymarfer'


Dadfriffio 'poeth'
Dadfriffio yn union wedi digwyddiad


*Dadfriffio 'oer' *
Dadfriffio beth amser wedi digwyddiad (e.e. asesiad ysgrifenedig)


Dolenni I NOS Eraill

Mae'r uned hon yn gysylltiedig â'r canlynol:


1 CCAA1 Gweithio mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill
2 CCAC1 Datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau argyfwng
3 CCAD1 Datblygu, cynnal a gwerthuso cynlluniau a threfniadau dilyniant busnes
4 CCAE2 Cyfeirio a hwyluso ymarferiadau i ymarfer neu ddilysu trefniadau argyfwng neu ddilyniant busnes


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Tach 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJCCAE1

Galwedigaethau Perthnasol

Diffoddwyr tân, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Gwasanaethau Cyhoeddus, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Swyddogion yr Heddlu, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Datblygu; ymarferiadau; dilysu; hyfforddiant; cynlluniau argyfwng; argyfwng; argyfyngau; rheoli argyfyngau