Paratoi a gwisgo ar gyfer gwaith mewn lleoliadau gofal iechyd

URN: SFHGEN2
Sectorau Busnes (Suites): iechyd cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli croes-heintio trwy baratoi’n gywir a gwisgo’n briodol ar gyfer gwaith mewn ardaloedd gofal iechyd.  Mae hyn yn cynnwys golchi dwylo a glanhau yn effeithiol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. tynnu dillad personol ac eitemau ffasiwn na ddylid eu gwisgo yn y gweithle a'u storio nhw mewn man diogel, priodol
  6. gwirio bod yr holl PPE yn lân a'i fod mewn cyflwr da ac yn ffitio'n gyfforddus
  7. dewis a gwisgo'r PPE cywir i'ch rôl ac i'r weithdrefn rydych chi'n ei chyflawni, yn unol â pholisi'r sefydliad
  8. lle bo'r gofyn, gorchuddio unrhyw friwiau neu doriadau i'r croen yn ddiogel, gyda gorchudd priodol
  9. cynnal golwg lân, ddestlus a thaclus bob amser
  10. newid eich PPE cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl os bydd yn anaddas i'w ddefnyddio
  11. tynnu'ch PPE yn ddiogel, mewn ffordd sy'n lleihau risg croes-heintio a'i roi mewn man diogel i'w ailbrosesu neu ei waredu
  12. rhoi gwybod i'r person priodol ar unwaith am unrhyw brinder stoc PPE
  13. atal halogi PPE trwy ei wisgo yn yr ardal waith ddynodedig yn unig, gan newid i ddillad personol pan fyddwch chi'n gorffen gwaith
  14. gwisgo PPE ychwanegol pan fydd risg ychwanegol wedi'i nodi, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  15. golchi a sychu'ch dwylo yn effeithiol, neu ddefnyddio hylif dihalogi priodol y croen, sy'n cynnwys alcohol, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  16. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  17. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl 
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. pwysigrwydd cynnal safonau hylendid personol uchel bob amser
  8. y dillad personol (awyr agored) a'r eitemau ffasiwn personol eraill y dylid eu diosg ar gyfer gwaith mewn amgylchedd clinigol/rheoledig, a'r rhesymau dros hyn
  9. achosion haint a chroes-heintio
  10. cymhwyso rhagofalon safonol ar gyfer rheoli heintiau a materion iechyd a diogelwch perthnasol eraill
  11. polisi'r sefydliad ar ddefnyddio colur neu wisgo gemwaith a gorchuddio gwallt yr wyneb neu'r pen, lle bo angen hynny
  12. dillad amddiffynnol ac:

    • y rhesymau pam mae deunyddiau penodol yn cael eu defnyddio ar gyfer dillad sy'n gyfarpar diogelu personol (PPE)
    • y mathau o ddillad amddiffynnol sydd ar gael, a'u haddasrwydd mewn gwahanol sefyllfaoedd
    • y rhesymau pam y mae'n rhaid i ddillad PPE fod yn lân a heb ei ddifrodi pan fydd yn cael ei wisgo 
  13. sut mae'r defnydd cywir o ddillad PPE yn cyfrannu at reoli heintiau a sut mae hyn yn cysylltu â rhagofalon safonol

  14. pwysigrwydd gwisgo dillad PPE sy'n gyfforddus
  15. y rhesymau pam na ddylai dillad PPE gael ei wisgo'r tu allan i'r ardal waith ddynodedig
  16. yr amgylchiadau pan fydd angen PPE ychwanegol
  17. y mathau o PPE ychwanegol sydd ar gael
  18. addasrwydd y gwahanol fathau o PPE ychwanegol ar gyfer sefyllfaoedd gwahanol
  19. pwysigrwydd gwisgo PPE ychwanegol digonol a phriodol
  20. ble a sut i waredu dillad sydd wedi'i ddefnyddio, sy'n fudr ac sydd wedi'i difrodi (dillad defnydd untro ac amldro)
  21. pwysigrwydd golchi dwylo'n effeithiol
  22. pwysigrwydd golchi a chynnal iwnifform/dillad gwaith gartref i atal croes-heintio
  23. dulliau a thechnegau ar gyfer glanhau dwylo ac ardaloedd eraill o'r croen, a'r adeg pan fydd angen glanhau'r croen
  24. gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod am broblemau â dillad PPE a PPE ychwanegol
  25. sut i waredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  26. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHGEN2

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Paratoi, gwisgo, gwaith, PPE, gofal iechyd