Adnabod a darparu gwybodaeth a chyngor sy’n gysylltiedig â theithio a thwristiaeth

URN: PPLTT14
Sectorau Busnes (Suites): Teithio a Thwristiaeth
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn disgrifio’r cymhwysedd mae ei angen i ddarparu gwasanaeth gwybodaeth a chyngor sy’n gysylltiedig â theithio a thwristiaeth. Mae’n ymwneud â’r gallu i adnabod anghenion eich cwsmeriaid o ran gwybodaeth yn gywir ac i ddefnyddio amrywiaeth fawr o ffynonellau i gael gwybodaeth.

Argymhellir y safon i staff sy’n cysylltu â chwsmeriaid wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy ddulliau electronig.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Adnabod anghenion eich cwsmeriaid o ran gwybodaeth:

1. fel bod anghenion y cwsmeriaid yn cael eu nodi’n glir
2. fel y gofynnir i’r cwsmeriaid egluro os nad yw’r anghenion yn glir

Dod o hyd i wybodaeth a chyngor a’u darparu:

3. fel bod y ffynonellau gwybodaeth a fydd yn darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol gan y cwsmeriaid yn cael eu dethol a’u defnyddio
4. fel bod y cwsmeriaid yn cael gwybodaeth a chyngor sy’n berthnasol, yn gyflawn, yn gywir ac yn gyfredol
5. fel bod y cwsmeriaid yn deall y wybodaeth a’r cyngor a roddir iddynt
pan fo’n berthnasol, caiff cyfyngiadau sydd ynghlwm wrth gynhyrchion a gwasanaethau eu hesbonio’n glir
6. fel y cynigir gwybodaeth a chyngor i’r cwsmeriaid ar amrywiaeth o ddewisiadau eraill os yw nifer o wahanol gynhyrchion a gwasanaethau’n diwallu eu hanghenion
7. fel y rhoddir amser i gadw cydbwysedd rhwng anghenion yr unigolyn ac anghenion cwsmeriaid eraill a’r sefydliad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth cyffredinol

1. sut i gael gafael ar ffynonellau gwybodaeth a’u defnyddio
2. sut i gael a chyflwyno gwybodaeth i’r cwsmeriaid
3. sut i adnabod a dehongli anghenion y cwsmeriaid
4. sut i ymdrin â chwsmeriaid anfodlon
5. sut i gydbwyso a chydnabod anghenion y cwsmeriaid fel na chânt eu hanwybyddu
6. eich prif gyfrifoldebau am roi gwybodaeth a chyngor o dan safonau gofynnol cyfredol rhwydweithiau
7. sut i ddefnyddio geirfa ac ymadroddion amrywiol sy’n addas i’ch diben
8. sut i addasu’r hyn a ddywedwch a faint a ddywedwch i fod yn addas i wahanol sefyllfaoedd
9. sut i ddangos eich bod yn gwrando’n astud ac ymateb yn briodol (e.e. trwy ddefnyddio arwyddion geiriol neu weledol)
10. sut i adnabod bwriadau’ch cwsmeriaid
11. sut i symud trafodaeth ymlaen
12. sut i addasu’ch iaith i fod yn addas i’ch pwnc, i’ch diben ac i’r person rydych yn siarad ag ef
13. sut i strwythuro’r hyn a ddywedwch i helpu’r cwsmeriaid i ddilyn cyfeiriad meddwl neu nifer o bwyntiau’n glir
14. sut i ddefnyddio darluniadau geiriol neu weledol i helpu’ch cwsmeriaid i ddeall pwyntiau rydych yn eu gwneud
15. pam ei bod yn hanfodol egluro manylion anghenion y cwsmeriaid
16. pam ei bod yn bwysig bod yn barod i helpu ac yn gwrtais
17. pam ei bod yn bwysig monitro ymddygiad y cwsmeriaid fel y gallwch ddweud a oes unrhyw un yn teimlo’n anfodlon
18. pam ei bod yn bwysig gwirio bod eich cwsmeriaid yn fodlon
yr angen am gyfrinachedd a goblygiadau deddfwriaeth diogelu data
19. y rhannau perthnasol o’r ddeddfwriaeth gwahaniaethu ar sail anabledd a’i goblygiadau wrth roi cyngor a gwybodaeth i’r cwsmeriaid

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r diwydiant

20. pa fath o wybodaeth a ffynonellau sydd ar gael a sut i gael gafael arnynt
21. sefydliadau allanol eraill y gellir cysylltu â nhw i gael gwybodaeth twristiaeth ychwanegol ac arbenigol a sut i gysylltu â nhw
22. gofynion eich sefydliad ac unrhyw ofynion cyfreithiol o ran cynghori’r cwsmeriaid (e.e. gofynion yn ymwneud â manwerthu ac amodau bwcio) 
23. canlyniadau camliwio (e.e. yng nghyd-destun newidiadau a/neu ddiweddariadau i lyfrynnau hysbysebu) yn ystod trafodaethau gyda’r cwsmeriaid

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r cyd-destun

24. y cydweithwyr hynny sydd â gwybodaeth arbenigol
25. yr amrywiaeth o ymholiadau y bydd angen ichi ymdrin â nhw, o bosibl
26. sut a ble mae’ch sefydliad yn storio gwybodaeth 
27. polisïau’ch sefydliad ar gyfer diwallu anghenion y cwsmeriaid o ran gwybodaeth, cyngor a deunyddiau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

​Ffynonellau gwybodaeth: deunyddiau cyfeirio sy’n benodol i’r sefydliad, ffynonellau electronig ac ar y we, deunydd printiedig, sefydliadau allanol, cydweithwyr eraill


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

​1. Cyfarch y cwsmeriaid yn gwrtais ac yn hyderus
2. Cael gwybod beth yw anghenion eich cwsmeriaid yn llawn ac yn gywir trwy ddefnyddio technegau cwestiynu clir a gwrando
3. Gofyn i gwsmeriaid am unrhyw anghenion rydych yn ansicr amdanynt
4. Cyfleu gwybodaeth a chyngor mewn ffordd y bydd eich cwsmeriaid yn ei deall
5. Gwirio’n gwrtais bod y wybodaeth a chyngor a roddwyd yn diwallu anghenion eich cwsmeriaid
6. Dod o hyd i ffyrdd eraill o helpu’ch cwsmeriaid rhagor, pan nad yw’r wybodaeth a roddwch yn bodloni eu disgwyliadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLTT14

Galwedigaethau Perthnasol

Ymgynghorydd Teithiau Busnes, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Ymgynghorydd Teithiau Hamdden, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

adnabod, darparu, twristiaeth, gwybodaeth, cyngor