Rhoi arweiniad i’ch tîm

URN: PPLHSL1
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch Goruchwylio ac Arwain
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymdrin â rhoi cyfeiriad i staff ym maes lletygarwch a’u hysgogi a’u cynorthwyo i gyflawni amcanion y tîm a’u hamcanion gwaith personol. Mae’r safon hon i staff ym maes lletygarwch sydd â chyfrifoldebau arwain tîm, rheoli llinell gyntaf neu oruchwylio.

Mae arweinwyr rhagorol yn cael y gorau o’u pobl. Nid ydyn nhw’n canolbwyntio ar yr hyn na all aelodau o’r tîm ei wneud, ond yn hytrach ar yr hyn y gallan nhw ei wneud! Mae arweinwyr cryf yn rhoi cyfeiriad clir, gan greu ymdeimlad o bwrpas cyffredin, er mwyn i bawb ddeall ei amcanion ei hun ac amcanion y tîm. Fodd bynnag, nid dyna’r cwbl. Mae arweinwyr effeithiol yn sicrhau bod amser ar gael i gynorthwyo eu tîm. Gwerthoedd fel uniondeb, tegwch, parch a pharodrwydd i helpu yw popeth iddyn nhw.

Yn anad dim, efallai, mae’r arweinwyr gorau yn cymryd cyfrifoldeb personol dros wneud i bethau ddigwydd, ond maen nhw’n cyflawni’r canlyniadau gorau trwy gynorthwyo, grymuso a datblygu eu timau.

Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni: 


• Rhoi arweiniad i’ch tîm


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1.  Cyfleu diben ac amcanion y tîm i’w holl aelodau
2.  Cynnwys yr aelodau yn y gwaith o gynllunio sut y bydd y tîm yn cyflawni ei amcanion
3.  Sicrhau bod gan bob aelod o’r tîm amcanion gwaith personol a’i fod yn deall sut y bydd cyflawni’r rhain yn cyfrannu at gyflawni amcanion y tîm
4.  Annog a chynorthwyo aelodau’r tîm i gyflawni eu hamcanion gwaith personol ac amcanion y tîm a rhoi cydnabyddiaeth pan gaiff amcanion eu cyflawni
5.  Trwy eich perfformiad chi, ennill ymddiriedaeth a chefnogaeth y tîm i’ch arweinyddiaeth
6.  Llywio’r tîm yn llwyddiannus trwy anawsterau a heriau, gan gynnwys problemau sy’n ymwneud â gwrthdaro, amrywiaeth a chynhwysiant yn y tîm
7.  Hybu a chydnabod creadigrwydd ac arloesedd yn y tîm
8.  Rhoi cefnogaeth a chyngor i aelodau’r tîm pan mae arnyn nhw eu hangen, yn arbennig yn ystod cyfnodau pan geir problemau a newidiadau 
9.  Ysgogi aelodau’r tîm i gyflwyno eu syniadau eu hunain a gwrando ar yr hyn maen nhw’n ei ddweud
10. Annog aelodau’r tîm i gymryd yr awenau pan fo ganddyn nhw’r wybodaeth a’r arbenigedd i wneud hynny, a dangos eich bod yn fodlon dilyn yr arweiniad hwn​


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.  Gwahanol ffyrdd o gyfathrebu’n effeithiol ag aelodau o dîm 
2.  Sut i osod amcanion CAMPUS (Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol)
3.  Sut i gynllunio’r gwaith o gyflawni amcanion y tîm a phwysigrwydd cynnwys aelodau’r tîm yn y broses hon
4.  Pwysigrwydd dangos i aelodau’r tîm sut mae amcanion gwaith personol yn cyfrannu at gyflawni amcanion y tîm, a’r gallu i wneud hyn
5.  Bodolaeth dulliau arwain gwahanol
6.  Sut i ddewis a defnyddio’n llwyddiannus nifer gyfyngedig o ddulliau gwahanol o ysgogi, cynorthwyo ac annog aelodau’r tîm a chydnabod eu cyflawniadau
7.  Mathau o anawsterau a heriau a all godi, gan gynnwys problemau sy’n ymwneud â gwrthdaro, amrywiaeth a chynhwysiant yn y tîm a ffyrdd o’u hadnabod a’u goresgyn
8.  Pwysigrwydd annog pobl eraill i gymryd yr awenau a ffyrdd y gellir cyflawni hyn
9.  Buddion annog a chydnabod creadigrwydd ac arloesedd mewn tîm, a sut i wneud hyn
10. Gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol yn y diwydiant/sector
11. Aelodau, diben, amcanion a chynlluniau eich tîm
12. Amcanion gwaith personol aelodau o’ch tîm
13. Y mathau o gymorth a chyngor mae’n debygol y bydd eu hangen ar aelodau’r tîm a sut i ymateb i’r rhain
14. Safonau perfformiad ar gyfer gwaith eich tîm


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

1. Rydych yn creu ymdeimlad o bwrpas cyffredin
2. Rydych yn cymryd cyfrifoldeb personol dros wneud i bethau ddigwydd 
3. Rydych yn annog ac yn cynorthwyo pobl eraill i wneud penderfyniadau’n annibynnol 
4. Rydych yn gweithredu o fewn terfynau eich awdurdod chi
5. Rydych yn sicrhau bod amser ar gael i gynorthwyo pobl eraill 
6. Rydych yn dangos uniondeb, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau 
7. Rydych yn ceisio deall anghenion ac ysgogiadau pobl 
8. Rydych yn modelu ymddygiad sy’n dangos parch, parodrwydd i helpu a chydweithrediad
 

 


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​Mae’r safon hon yn gysylltiedig â’r holl safonau eraill yng nghyfres safonau Lletygarwch Goruchwylio ac Arwain


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Canolfan Safonau Rheoli

URN gwreiddiol

Uned B5

Galwedigaethau Perthnasol

Arweinydd Tîm, Goruchwyliwr

Cod SOC


Geiriau Allweddol

arweiniad, tîm