Cynnal diogelwch bwyd mewn lleoliad lletygarwch
URN: PPL2GEN5
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch - Cyffredinol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2016
Trosolwg
Mae’r safon hon yn adlewyrchu’r canllawiau cyfredol ar ddiogelwch bwyd yn y Deyrnas Unedig, ac yn integreiddio themâu allweddol glanhau ac atal halogiad. Mae’n rhoi i’r staff wybodaeth a sgiliau adolygu peryglon a defnyddio gweithdrefnau seiliedig ar beryglon i gynnal diogelwch bwyd yn eu hadran.
Mae safonau ar wahân ar gael i’r rheiny sy’n coginio a pharatoi bwyd, ac i reolwyr a goruchwylwyr sydd â chyfrifoldebau ehangach am ddiogelwch bwyd mewn gweithrediad arlwyo.
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch wedi dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
•Cynnal diogelwch bwyd mewn lleoliad lletygarwch
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a gofynion y sefydliad o ran hylendid ac ymddygiad personol.
2. Sicrhau bod wynebau a chyfarpar yn lân ac mewn cyflwr da
3. Defnyddio cadachau a chyfarpar glân ac addas i sychu a glanhau rhwng tasgau
4. Peidio â defnyddio unrhyw wynebau a chyfarpar sydd wedi’u difrodi neu sydd â chydrannau rhydd, a rhoi gwybod amdanynt i’r person sy’n gyfrifol
5. Gwaredu gwastraff yn brydlon, yn hylan ac yn briodol
6. Nodi unrhyw ddifrod i waliau, lloriau, nenfydau, celfi a ffitiadau, cymryd camau priodol i ddelio â’r difrod, a rhoi gwybod amdano i’r person priodol
7. Nodi unrhyw arwyddion o blâu, cymryd camau priodol i ddelio â’r plâu a rhoi gwybod amdanynt i’r person priodol
8. Cadw cofnodion angenrheidiol yn gywir ac yn gyfredol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. Y mathau o halogiad a thraws-halogiad bwyd ac wynebau a sut y gallant ddigwydd
2. Cyfryngau halogiad gan gynnwys wynebau
3. Y mathau o wenwyn bwyd a sut y gall organebau gwenwyn bwyd halogi bwyd
4. Symptomau cyffredin gwenwyn bwyd
5. Y ffactorau sy’n ei gwneud yn bosibl i organebau gwenwyn bwyd dyfu
6. Sut mae hylendid ac ymddygiad personol yn effeithio ar ddiogelwch bwyd
7. Eich rôl chi yn y gwaith o sylwi ar beryglon a delio â nhw, ac o leihau risg halogiad
8. Pwysigrwydd nodi peryglon bwyd yn brydlon
9. Yr effaith y gall peryglon ei chael ar iechyd os nad oes neb yn sylwi arnynt ac yn delio â nhw’n brydlon
10. Pwysigrwydd asesiadau risg
11. Mathau o ymddygiad anniogel a all effeithio ar ddiogelwch bwyd a pham mae’n bwysig osgoi ymddygiad o’r math hwn wrth weithio gyda bwyd
12. Y gofynion cyfreithiol a rheoliadol ar gyfer diogelwch bwyd, pwysigrwydd cydymffurfio â nhw, goblygiadau peidio â chydymffurfio a rôl swyddogion gorfodi
13. Pwysigrwydd cadw bwyd amrwd a bwyd wedi’i goginio ar wahân a chadw seigiau wedi’u gorffennu ar wahân, a dulliau o wneud hyn
14. Yr ystod dymereddau beryglus, pam mae angen cadw bwyd ar dymereddau penodol a sut i sicrhau hyn
15. Pa weithdrefnau i’w dilyn wrth ddelio â stoc gan gynnwys danfoniadau, storio, marcio dyddiadau a chylchdro stoc, a pham mae’n bwysig eu dilyn mewn modd cyson
16. Pam mae’n bwysig cadw mannau gweithio a’r amgylchedd gweithio’n lân ac yn daclus, ac offer, teclynnau a chyfarpar yn lân, mewn cyflwr da ac wedi’u storio’n gywir
17. Sut mae’r dulliau glanhau a chynnal a chadw cyfarpar, wynebau a’r amgylchedd, a pha mor aml y gwneir hyn, yn effeithio ar ddiogelwch bwyd yn y gweithle
18. Y camau y dylid eu cymryd wrth ymateb pan fo rhywun wedi sylwi ar berygl posibl, gan gynnwys y person cywir y dylid rhoi gwybod iddo am faterion o’r fath
19. Y mathau o wastraff bwyd y gellir eu cael yn y gweithle a sut y dylid ei drin yn ddiogel yn y gweithle
20. Y prif fathau o blâu a all achosi risg i ddiogelwch bwyd, sut y gallant ddigwydd, sut i’w hadnabod, sut i’w hatal
21. Pam mae’n rhaid i wynebau a chyfarpar fod yn lân cyn dechrau tasg newydd a sut i sicrhau hynny
22. Pam mae’n bwysig defnyddio dim ond cadachau a chyfarpar glân ac addas wrth lanhau rhwng tasgau, a sut i wneud hynny
23. Pam y gall wynebau a chyfarpar sydd wedi’u difrodi neu sydd â chydrannau rhydd fod yn beryglus i ddiogelwch bwyd
24. Y mathau o wynebau a chyfarpar wedi’u difrodi a all achosi peryglon i ddiogelwch bwyd, a beth i’w wneud amdanynt
25. Pam mae’n bwysig clirio a gwaredu gwastraff yn brydlon ac yn ddiogel a sut i wneud hynny
26. Sut y gall difrod i waliau, lloriau, nenfydau, celfi a ffitiadau achosi peryglon i ddiogelwch bwyd, a’r math o ddifrod y dylech chwilio amdano
27. Y mathau o blâu y gallech ddod o hyd iddynt mewn gweithrediadau arlwyo, a sut i adnabod yr arwyddion y gallant fod yno
Cwmpas/ystod
1. Peryglon / Ffynonellau halogiad
1.1 microbaidd
1.2 cemegol
1.3 ffisegol
1.4 alergenig
Cyfryngau halogiad
2.1 dwylo
2.2 cadachau a chyfarpar
2.3 wynebau mae dwylo’n dod i gysylltiad â nhw
2.4 wynebau mae bwyd yn dod i gysylltiad â nhw
2.5 llwybrau halogi
Hylendid ac ymddygiad personol
3.1 gwisgo dillad diogelwch a gwisg pen
3.2 dylid trin bwyd yn uniongyrchol cyn lleied ag sy’n bosibl
3.3 dilyn gweithdrefnau argymelledig ar gyfer golchi dwylo, gan gynnwys pryd i olchi’ch dwylo (ar ôl mynd i’r toiled, wrth fynd i fannau paratoi, coginio a gweini bwyd, ar ôl cyffwrdd â bwyd amrwd a gwastraff, a chyn gweini bwyd)
3.4 rhoi gwybod am doriadau, cornwydydd, crafiadau a briwiau
3.5 trin a gorchuddio toriadau, cornwydydd, heintiadau’r croen a chrafiadau
3.6 rhoi gwybod am salwch a heintiadau, yn arbennig salwch stumog, cyn mynd i’r mannau paratoi, coginio a gweini bwyd
3.7 bod â gwallt, croen, ewinedd a dillad glân
3.8 gwisgo gemwaith yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad yn unig
3.9 cofnodi digwyddiadau
3.10 osgoi ymddygiad gan gynnwys: cyffwrdd â’ch wyneb, trwyn neu geg; cnoi gwm; bwyta; smygu – pan ydych chi’n gweithio gyda bwyd
Wynebau a chyfarpar
4.1 wynebau a theclynnau a ddefnyddir yn yr adran
4.2 cyfarpar glanhau priodol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL2GEN4/09
Galwedigaethau Perthnasol
Aelod o'r tîm, Howscipar, Gwasanaethydd ystafell (cadw tŷ)
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Diogelwch bwyd; peryglon; glanhau