Darparu gwasanaethau gwybodaeth i dwristiaid i gwsmeriaid

URN: PPL2FOH11
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch - Cadw Tŷ a Swyddfa Flaen
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymdrin â gallu darparu gwybodaeth a chyngor i dwristiaid i’ch cwsmeriaid. Mae i dderbynyddion, staff bwciadau, concierges a phorthorion neu staff mewn swyddi tebyg. Yn aml bydd gan gwsmeriaid sy’n ymweld â’ch safle amrywiaeth o ymholiadau ynghylch beth sydd ar gael i’w weld ac i’w wneud tra maen nhw yno. Mae’r safon hon yn ymdrin â darparu’r wybodaeth honno i’ch gwesteion. Efallai y bydd ynghylch atyniadau lleol, cyfleusterau hamdden neu siopau a marchnadoedd lleol. Er mwyn gwneud hyn mae’n rhaid i chi allu cael gwybod beth mae’ch cwsmeriaid ei eisiau a chael a darparu’r wybodaeth honno. Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni: •Darparu gwasanaethau gwybodaeth i dwristiaid i gwsmeriaid

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1.  Croesawu cwsmeriaid yn gwrtais
2.  Defnyddio technegau cwestiynu agored i gael gwybod beth yw anghenion eich cwsmeriaid
3.  Defnyddio sgiliau gwrando gweithredol wrth gael gwybod beth yw anghenion eich cwsmeriaid
4.  Gwneud yn glir gyda’ch cwsmer unrhyw feysydd nad ydych yn siŵr ohonyn nhw
5.  Cadarnhau gyda’ch cwsmer pa wybodaeth mae ei hangen 
6.  Gwirio bod y cwsmer yn fodlon talu am unrhyw wasanaethau gwybodaeth i dwristiaid allanol lle bo’n berthnasol
7.  Canolbwyntio ar anghenion eich cwsmeriaid ac ar yr un pryd cydnabod cwsmeriaid eraill sy’n aros
8.  Dod o hyd i ffynonellau sy’n darparu’r wybodaeth mae ei hangen ar eich cwsmeriaid 
9.  Darparu gwybodaeth sy’n gywir, yn gyfredol ac yn ymwneud ag anghenion eich cwsmeriaid
10. Darparu gwybodaeth a chyngor perthnasol i’ch cwsmeriaid ar sail eu hanghenion
11. Esbonio’n glir unrhyw gyfyngiadau ar y wybodaeth a/neu gynhyrchion a gwasanaethau
12. Cynnig gwybodaeth a chyngor ynghylch pa un sy’n diwallu anghenion eich cwsmeriaid orau pan fo nifer o opsiynau ar gael
13. Cadarnhau’n gwrtais gyda’ch cwsmeriaid eu bod yn deall y wybodaeth a’r cyngor rydych wedi’u rhoi iddyn nhw
14. Rhoi i’r cwsmeriaid gadarnhad ysgrifenedig a/neu brintiedig o’r wybodaeth maen nhw wedi gofyn amdani lle bo’n briodol
15. Cynnig dewisiadau eraill yn lle gwasanaethau nad ydyn nhw ar gael ar ôl gwirio
16. Gwirio bod y cwsmer yn fodlon â’r gwasanaeth rydych wedi’i ddarparu a dod ag ymholiad y cwsmer i ben yn gwrtais


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.  Pam mae’n bwysig bod yn gymwynasgar ac yn gwrtais
2.  Beth yw technegau cwestiynu agored
3.  Pryd a sut i ddefnyddio technegau cwestiynu agored yn effeithiol
4.  Beth yw sgiliau gwrando gweithredol
5.  Pam mae defnyddio sgiliau gwrando gweithredol o gymorth i’ch cwsmer
6.  Pam mae’n hanfodol cadarnhau anghenion eich cwsmeriaid
7.  Pam mae’n bwysig gwirio bod eich cwsmer yn fodlon ar eich gwasanaeth a sut i ymdrin ag unrhyw anfodlonrwydd
8.  Ble mae gwybodaeth a ffynonellau ar gael a sut y gallwch gael gafael arnyn nhw
9.  Pa wybodaeth i dwristiaid sydd gan eich sefydliad a ble mae’n cael ei storio
10. Unrhyw ostyngiadau a / neu drefniadau mae’ch sefydliad wedi’u negodi gyda sefydliadau twristiaeth
11. Pa wybodaeth sydd ar gael heb dâl a pha wybodaeth sydd ar gael am dâl
12. Sut i drefnu’ch cwsmeriaid mewn ffordd sy’n sicrhau yr ymdrinnir â’r holl gwsmeriaid yn effeithiol
13. Sut i gael gafael ar amrywiaeth o wahanol ffynonellau gwybodaeth a’u defnyddio
14. Amrywiaeth o sefydliadau allanol eraill sy’n darparu gwybodaeth i dwristiaid a sut i gysylltu â nhw
15. Gweithdrefnau eich cwmni o ran ffioedd bwcio, rhwymedigaethau a bilio cwsmeriaid
16. Sut i strwythuro cyngor yn effeithiol a pha gyfyngiadau sydd ar y cyngor a roddwch
17. Rhannau perthnasol y ddeddfwriaeth gwahaniaethu ar sail anabledd a’i goblygiadau wrth roi cyngor a gwybodaeth i gwsmeriaid
18. Pa ddulliau sydd ar gael o roi gwybodaeth ysgrifenedig neu brintiedig i gwsmeriaid
19. Dulliau o ddod â rhyngweithiadau â chwsmeriaid i ben yn gwrtais


Cwmpas/ystod

1.   Ffynonellau gwybodaeth
1.1 ffynonellau electronig gan gynnwys y rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol
1.2 llyfrynnau hyrwyddo
1.3 cyfeiriaduron
1.4 amserlenni
1.5 mapiau
1.6 arweinlyfrau
1.7 sefydliadau allanol
1.8 taflenni


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cwestiynau agored
Cwestiynau yw’r rhain sydd yn aml yn dechrau gyda’r geiriau beth, ble, pwy, pryd a sut ac sy’n ysgogi atebion sy’n rhoi gwybodaeth ichi
Gwrando gweithredol
Er enghraifft gwneud a chynnal cyswllt llygaid, nodio a gwenu

Cyngor

Addasu’r wybodaeth a roddwch i fodloni gofynion unigol

Taliadau

Mae enghreifftiau’n cynnwys cyhoeddiadau y codir tâl amdanyn nhw; llinellau ffôn cyfradd ddrud i ddarparwyr gwybodaeth; ffioedd i asiantaethau bwcio; hediadau na thelir comisiwn arnyn nhw, ac ati

Ffynonellau electronig
Enghreifftiau yw’r rhyngrwyd, mewnrwyd a chyfryngau cymdeithasol

Ffyrdd eraill i helpu’ch cwsmer

Enghreifftiau yw gwneud galwad ffôn i gael gwybodaeth fanylach neu fwy penodol, trefnu i fwy o wybodaeth gael ei hanfon at eich cwsmer yn uniongyrchol, ei gyfeirio at sefydliad arall, ac ati

Sefydliadau

Enghreifftiau yw Canolfannau Croeso, Canolfannau Gwybodaeth i Ymwelwyr, Canolfannau Cyswllt, Swyddfeydd Twristiaeth, atyniadau i ymwelwyr, gweithredwyr teithiau, asiantaethau tocynnau. Gallai hefyd gyfeirio at eich busnes chi, os ydych yn hunangyflogedig.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL2FOH11

Galwedigaethau Perthnasol

Derbynnydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

darparu, gwasanaethau, gwybodaeth, twristiaid, cwsmeriaid