Plannu a sefydlu cnydau neu blanhigion

URN: LANH9
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Crofftio a Chadw Tyddyn,Taenu Pilenni Gwrth-ddŵr
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn plannu ac yn sefydlu cnydau neu blanhigion mewn amodau wedi eu diogelu neu allan yn yr awyr agored. Bydd y dulliau plannu’n dibynnu ar y math o gnydau neu blanhigion sydd yn cael eu tyfu a’r amodau sydd eu hangen arnynt ar gyfer twf. Gallai plannu fod i mewn i amrywiaeth eang o gyfryngau tyfu, a allai gynnwys pridd, hydroponeg, matin, compost neu gyfryngau tyfu eraill, fel y bo’n briodol. Mae’r safon yn cynnwys plannu a sefydlu cnydau neu blanhigion mewn unrhyw leoliad.

Byddwch yn gallu sicrhau bod y cyfrwng tyfu wedi cael ei baratoi’n barod ar gyfer plannu a bod ansawdd a maint y deunydd plannu ar gael. Bydd nodi deunydd plannu i fodloni manylebau yn cynnwys nodi planhigion yn ôl yr enwau cyffredin a botanegol. 

Os oes angen i chi ddefnyddio cemegau (e.e. chwynladdwyr, ffyngladdwyr neu bryfleiddiaid), mae’r rhain yn amodol ar y gofynion deddfwriaethol perthnasol, a bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen.

Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am blannu a sefydlu cnydau neu blanhigion.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r safle a phlannu a sefydlu cnydau neu blanhigion
  2. gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  3. dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw’r cyfarpar angenrheidiol yn ddiogel ac yn gywir 
  4. sicrhau bod y cyfrwng tyfu wedi cael ei baratoi a’i fod mewn cyflwr addas ar gyfer plannu’r cnwd neu’r planhigion, a chymryd camau perthnasol os nad yw hyn yn wir
  5. dewis deunydd plannu yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau
  6. gwirio iechyd deunydd plannu cyn plannu a gwrthod sbesimenau annerbyniol
  7. gosod deunydd plannu yn y cyfrwng tyfu, yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau
  8. cynyddu iechyd, grym a chyflwr ffisegol deunydd cnwd neu blanhigion trwy ddulliau ymdrin a phlannu cywir
  9. cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol ag arferion sefydliadol
  10. darparu diogelwch planhigion priodol i sefydlu’r cnydau neu’r planhigion fel y bo angen
  11. darparu ôl-ofal priodol i gnydau neu blanhigion, fel y bo angen
  12. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  13. dilyn canllawiau’r diwydiant a’r sefydliad i leihau niwed amgylcheddol
  14. tacluso’r safle pan fydd eich gwaith wedi gorffen, ac ailgylchu neu waredu gwastraff a deunyddiau dros ben yn gywir, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion sefydliadol
  15. gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a di-ogelwch berthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydli-adol
  16. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r sefydliad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu risgiau sydd yn gysylltiedig â phlannu a sefydlu cnydau neu blanhigion
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. y mathau o gyfarpar sydd yn ofynnol ar gyfer plannu cnydau a phlanhigion a sut i baratoi, defnyddio a chynnal a chadw’r rhain yn ddiogel ac yn gywir
  4. sut i ddehongli cyfarwyddiadau a manylebau ar gyfer plannu a sefydlu cnydau neu blanhigion
  5. y mathau o gyfryngau tyfu a’u perthynas â phlannu a sefydlu cnydau neu blanhigion
  6. sut i sicrhau bod y cyfrwng tyfu wedi cael ei baratoi a’i fod mewn cyflwr ad-das ar gyfer plannu cnydau neu blanhigion
  7. egwyddorion nodi a gosod y safle allan er mwyn sefydlu cnydau neu blanhigion
  8. sut i nodi ac enwi deunydd plannu ac enwau cyffredin cnydau neu blanhigion
  9. bioleg sylfaenol planhigion 
  10. dulliau o asesu iechyd a chyflwr deunydd plannu ac adnabod unrhyw arwyddion ei fod yn anaddas ar gyfer plannu
  11. egwyddorion dewis a chyfuno mathau o blanhigion ar gyfer cymwysiadau gwahanol
  12. y dulliau a ddefnyddir i baratoi deunydd plannu
  13. deddfwriaeth genedlaethol gyfredol sy’n rheoli’r defnydd o wrteithiau a thrini-aethau wrth blannu cnydau
  14. pwysigrwydd amseru wrth blannu a sefydlu cnydau neu blanhigion, a’r ffactorau sy’n effeithio ar amseru a’r dulliau o blannu 
  15. y gofod neu’r dwysedd cywir, dyfnder, cyfeiriadedd a chadernid y deunydd plannu sydd yn angenrheidiol wrth blannu cnydau neu blanhigion 
  16. pwysigrwydd trin deunydd plannu’n gywir
  17. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth blannu a sefydlu cnydau a phlanhigion, a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  18. achosion niwed i gnydau neu blanhigion a sut i ddarparu diogelwch i blanhigion 
  19. y dulliau ôl-ofal sydd yn ofynnol ar gyfer cnydau neu blanhigion a sut i’w cymhwyso
  20. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a’r ffordd y dylid gwneud hyn
  21. pwysigrwydd dilyn yr arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
  22. y camau y gellir eu cymryd i warchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth, ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu
  23. sut i drin, cludo, storio ac ailgylchu neu waredu gwastraff a deunydd dros ben, yn unol â gofynion cyfreithiol ac arferion sefydliadol
  24. eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
  25. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau


Cwmpas/ystod


A. Gosod deunydd plannu yn unol â’r elfennau cywir canlynol:
1. gofod/dwysedd
2. dyfnder
3. cyfeiriadedd
4. cadernid

B. Asesu’r angen i gymhwyso diogelwch planhigion i’r cnydau/planhigion o’r canlynol:
1. plâu
2. clefydau
3. chwyn
4. amodau amgylcheddol

C. Darparu’r mathau canlynol o ôl-ofal i gnydau/planhigion: 
1. dŵr 
2. maethynnau
3. diogelwch 
4. cymorth
5. amodau amgylcheddol wedi eu rheoli


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Gallai cnydau neu blanhigion gynnwys: 
grawnfwydydd/grawn
cnydau gwreiddiau
corbys
rêp had olew
gwinwydd
hopys
llysiau
perlysiau
blodau
llwyni
coed
ffrwythau
glaswellt

Cyfarwyddiadau a manylebau: 
darluniau/cynlluniau
amserlenni
datganiadau dull
Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
canllawiau cynhyrchwyr/cyflenwyr
gofynion cwsmeriaid
gofynion sicrhau ansawdd
gofynion cnydau
gofynion llafar

Gallai deunydd plannu gynnwys:
hadau
planhigion
coed
bylbiau, cloron, cormau, ac ati
toriadau
tyweirch
gwrtaith
triniaethau


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANH9

Galwedigaethau Perthnasol

Ceidwad y Grîn, Garddwr, Gofalwr Tir, Gweithiwr Planhigfa, Tirluniwr, Lluosogi Planhigion, Tyddynnwr, Crofftwr, Cryfhawyr a Sglatars

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

hadau; planhigion gwely blodau; glaswellt; bywlys; llysiau; ffrwythau; toeon gwyrdd; safle; gardd; planhigfa