Cynhyrchu cynlluniau rheoli pysgodfeydd

URN: LANFiM21
Sectorau Busnes (Suites): Cadwraeth Amgylcheddol,Rheoli Pysgodfeydd
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu cynlluniau rheoli pysgodfeydd. Mae'n cynnwys dadansoddi gwybodaeth reoli i bennu amcanion rheoli a datblygu ar gyfer pysgodfa. Bydd y cynlluniau rheoli yn cynnwys cynnal cynefinoedd, gwella cynefinoedd, monitro a chasglu data, rheoli stoc pysgod a rheoli manteisio. Mae hefyd yn cynnwys cael adobrth a chytundeb ar y cynllun gan bawb sydd yn gysylltiedig.

Mae'r safon hon yn gofyn am y gallu i asesu maint a strwythur stociau pysgod, dosbarthu stociau pysgod, gallu'r cynefin i gefnogi stociau pysgod a rhyngweithio gyda bywyd gwyllt arall.

Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol sydd yn rheoli'r gwaith o gymhwyso'r safon hon yn amrywio yn dibynnu ar y lleoliad yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dadansoddi gwybodaeth reoli i asesu nodweddion pysgodfeydd a deillio argymhellion rheoli er mwyn creu cynlluniau rheoli pysgodfeydd
  2. egluro'r ffactorau a allai effeithio ar botensial hirdymor pysgodfa
  3. creu cynlluniau rheoli pysgodfeydd i gyflawni potensial y bysgodfa ac i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol perthnasol
  4. cael adborth gan y rheiny sydd yn gysylltiedig â'r bysgodfa fel rhan o ddatblygiad cyffredinol cynlluniau rheoli pysgodfeydd
  5. pennu'r gofynion adnoddau i gefnogi'r gwaith o roi cynlluniau rheoli pysgodfeydd ar waith yn llwyddiannus
  6. sefydlu ystod o ymyriadau y gellir eu defnyddio i sicrhau bod amcanion cynlluniau rheoli pysgodfeydd yn cael eu cyflawni
  7. cyfathrebu gofynion cynlluniau rheoli pysgodfeydd i bawb sydd yn gysylltiedig â'u gweithredu

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i greu cynlluniau rheoli pysgodfeydd a'r wybodaeth i'w chynnwys
  2. sut i bennu'r gofynion adnoddau sydd yn angenrheidiol i gefnogi'r gwaith o roi cynlluniau rheoli pysgodfeydd ar waith yn llwyddiannus
  3. y gofynion cyfreithiol perthnasol yn ymwneud â rheoli pysgodfeydd
  4. hanes bywyd y stoc pysgod sydd yn bresennol yn y bysgodfa
  5. yr integreiddio rhwng stociau pysgod a'u cynefin
  6. gofynion amgylcheddol y pysgod sydd yn bresennol yn y bysgodfa
  7. y camau y gellir eu cymryd i gynnal a gwella cynefin pysgodfeydd
  8. sut i gasglu ac asesu gwybodaeth reoli er mwyn pennu nodweddion pysgodfa
  9. y dulliau a ddefnyddir i fonitro poblogaethau pysgod
  10. clefydau cyffredin pysgod ac achosion posibl heintiau
  11. clefydau hysbysadwy pysgod a phwysigrwydd adrodd am y rhain wrth yr awdurdod priodol
  12. sut i gynnal potensial pysgodfeydd
  13. y dulliau a ddefnyddir i bennu strwythur poblogaeth pysgod
  14. y ffactorau sydd yn gallu effeithio ar bysgodfa a sut i gyfyngu eu heffaith
  15. dulliau dal pysgod a sut i'w cymhwyso wrth symud pysgod o bysgodfeydd
  16. y gofynion cyfreithiol perthnasol sydd yn dylanwadu ar weithgareddau rheoli pysgodfeydd
  17. pwy yw'r rhanddeiliaid a'u cyfranogiad yn y bysgodfa
  18. rôl pysgodfeydd yn rheoli amgylcheddau dŵr
  19. diogelwch stoc pysgod a sut gall rhywogaethau nad ydynt yn gynhenid gael effaith niweidiol ar ecoleg y bysgodfa gynhenid
  20. beth yw stoc pysgod cynaliadwy a beth all achosi manteisio
  21. y gofynion iechyd a diogelwch, amgylcheddol, bioddiogelwch a'r gofynion cyfreithiol perthnasol sy'n ymwneud â rheoli pysgodfeydd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Ffactorau:

  • dirywiad cynefin
  • rhyngweithio gan ysglyfaethwyr/ysglyfaeth
  • diffygion maeth
  • clefydau
  • defnydd o dir
  • dylanwadau dynol

Cynlluniau rheoli pysgodfeydd yn cynnwys:

  • cynnal cynefin
  • gwella cynefin
  • monitro a chasglu data
  • rheoli stoc pysgod cynaliadwy
  • rheoli manteisio cynaliadwy
  • rheoli diogelwch stoc
  • bioddiogelwch

Gwybodaeth rheoli yn cynnwys:

  • arolygon cynefin
  • cofnodion pysgota
  • defnydd o adnoddau
  • data ac ymchwil wedi ei gyhoeddi

Rhanddeiliaid:

Unrhyw berson, sefydliad neu unigolyn â diddordeb yn y bysgodfa

Amgylcheddau dŵr:

  • Llynnoedd
  • Afonydd
  • Aberoedd
  • Dyfroedd arfordirol

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANFiM25

Galwedigaethau Perthnasol

Uwch Reolwr, Perchennog/Rheolwr, Rheolwr Pysgodfa, Biolegydd Pysgodfeydd

Cod SOC

3565

Geiriau Allweddol

pysgodfeydd; rheolaeth; monitro; data