Cynllunio, datblygu, a monitro systemau sefydliadol i atal a rheoli’r posibilrwydd o lygrwyr yn cael eu rhyddhau i’r amgylchedd

URN: LANEM27
Sectorau Busnes (Suites): Ymwybyddiaeth a Rheolaeth Amgylcheddol Sefydliadol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn disgrifio'r gofynion sgiliau a gwybodaeth ar gyfer cynllunio, datblygu, gweithredu a monitro systemau sefydliadol i atal a rheoli rhyddhau llygrwyr i'r amgylchedd.  Mae'n rhaid atal neu reoli llygrwyr yn ymwneud â hylifau, cemegau, llaid, gwres, bacteria, nwyon, silwair, gwrtaith organig, dŵr ffo o'r pridd ac erydiad, a gronynnau llwch, trwy systemau ataliaeth a rheolaeth wedi eu cynllunio.

Mae'n rhaid i'ch gwaith i gynllunio, datblygu a gweithredu systemau i atal a rheoli rhyddhau llygrwyr i'r amgylchedd gael ei wneud mewn ffordd sydd yn lleihau unrhyw effaith amgylcheddol niweidiol.

Wrth greu systemau i atal a rheoli rhyddhau llygrwyr, mae angen i ni ystyried yr angen i ddiogelu natur a chryfhau cadernid ecolegol, hybu effeithlonrwydd adnoddau, gostwng twf carbon a lleihau bygythiadau i iechyd a lles dynol.

Mae'r safon hon yn addas i bawb sydd yn gysylltiedig â rheoli llygredd mewn sefydliad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Asesu'r risgiau sydd yn gysylltiedig â llygrwyr sydd yn cael eu creu gan y sefydliad
  2. Nodi natur, graddfa ac effaith bosibl digwyddiad o lygru a achosir gan y sefydliad
  3. Cynllunio a datblygu systemau sefydliadol i atal a rheoli rhyddhau llygrwyr i'r amgylchedd
  4. Cynllunio a datblygu systemau sefydliadol ar gyfer atal a rheoli llygrwyr sydd yn gwella'n weledol wrth iddynt ddiogelu'r amgylchedd
  5. Amcangyfrif a chyllidebu'r adnoddau sydd yn ofynnol ar gyfer gweithredu systemau sefydliadol i atal a rheoli rhyddhau llygrwyr i'r amgylchedd
  6. Cadarnhau bod unrhyw systemau sefydliadol i atal a rheoli rhyddhau llygrwyr yn bodloni deddfwriaeth, rheoliadau a chyfarwyddebau amgylcheddol
  7. Cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny â nodweddion gwarchodedig yn ymwneud â chynllunio, datblygu a gweithredu systemau sefydliadol
  8. Gwerthuso adborth gan randdeiliaid perthnasol yn ymwneud â systemau sefydliadol
  9. Gweithredu'r system sefydliadol ar gyfer atal a rheoli rhyddhau llygrwyr i'r amgylchedd
  10. Monitro'r system atal a rheoli llygrwyr sefydliadol yn barhaus
  11. Cydgrynhoi adborth gan randdeiliaid perthnasol yn ymwneud â monitro'r system atal a rheoli llygrwyr sefydliadol
  12. Cofnodi'r canfyddiadau a rhoi gwelliannau ar waith i system atal a rheoli llygrwyr y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Sut i asesu'r risgiau sydd yn gysylltiedig â llygrwyr sydd yn cael eu creu gan y sefydliad
  2. Sut i ddatblygu gweithdrefnau cynllunio brys
  3. Effeithiau posibl cynnyrch sefydliadau ar yr amgylchedd a sut gellir lleihau'r rhain
  4. Cosbau posibl achosi llygredd
  5. Sut i gynllunio a datblygu systemau sefydliadol i atal a rheoli'r posibilrwydd o ryddhau llygrwyr i'r amgylchedd
  6. Pwysigrwydd datblygu system atal a rheoli llygrwyr sefydliadol sydd yn gwella'r amgylchedd yn weledol yn ogystal â'i ddiogelu
  7. Sut i amcangyfrif a chyllidebu'r adnoddau sydd yn ofynnol ar gyfer gweithredu'r system atal a rheoli llygrwyr sefydliadol
  8. Pwysigrwydd dewis adnoddau sydd naill ai'n lleihau neu'n cyfyngu ar yr effaith amgylcheddol y mae'r sefydliad yn ei gael wrth weithredu'r system atal a rheoli llygrwyr
  9. Y ddeddfwriaeth, rheoliadau a'r cyfarwyddebau amgylcheddol perthnasol sydd yn berthnasol i weithredu system atal a rheoli llygrwyr sefydliadol
  10. Pwysigrwydd parhau i gyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol wrth ddatblygu a gweithredu'r system sefydliadol
  11. Sut i werthuso adborth gan randdeiliaid perthnasol yn ymwneud â datblygu a gweithredu'r system sefydliadol
  12. Sut i weithredu'r system sefydliadol ar gyfer atal a rheoli rhyddhau llygrwyr i'r amgylchedd
  13. Pwysigrwydd monitro'r system atal a rheoli llygrwyr sefydliadol yn barhaus
  14. Pwysigrwydd cydgrynhoi adborth gan randdeiliaid perthnasol yn ymwneud â monitro'r system sefydliadol
  15. Sut i gofnodi'r canfyddiadau a rhoi gwelliannau ar waith i'r system atal a rheoli llygrwyr sefydliadol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEM29

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr, Rheolwr Amgylcheddol, Perchennog/Rheolwr, Swyddog Polisi Amgylcheddol, Swyddog Rheolaeth Amgylcheddol, Ymgynghorydd Amgylcheddol, Cydlynydd Systemau Rheolaeth Amgylcheddol

Cod SOC

1439

Geiriau Allweddol

effaith; asesiad; llygredd; diogelu; hinsawdd