Rheoli cyfundrefnau rheoli ar gyfer pysgod

URN: LANAqu21
Sectorau Busnes (Suites): Cadwraeth Amgylcheddol,Dyframaethu
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Awst 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli cyfundrefnau rheoli, fel mater o drefn ac arbenigol, i gynorthwyo cynhyrchu pysgod ar fferm pysgod esgyll.

Mae'n gofyn bod gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol y safle.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gysylltiedig â rheoli cyfundrefnau bwydo ar gyfer pysgod.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. sicrhau bod yr holl waith yn cael ei wneud yn ddiogel ac yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau'r safle
  2. rheoli cyfundrefnau bwydo ar gyfer pysgod i ystyried amrywiadau amgylcheddol
  3. sicrhau bod cyfundrefnau bwydo yn cael eu dilyn gan weithdrefnau bwydo wedi eu gweithredu'n gywir
  4. defnyddio data i gyfrifo perfformiad cynhyrchu
  5. gweithredu addasiadau i gyfundrefnau bwydo i ystyried newidiadau mewn perfformiad cynhyrchu ac amrywiadau mewn amodau amgylcheddol
  6. ymchwilio i newidiadau mewn ymddygiad bwydo i bennu eu hachos a'r camau cywiro sydd eu hangen
  7. monitro gweithrediad effeithiol bwydwyr, systemau bwydo a chyfarpar monitro
  8. cynnal y gwaith o storio porthiant yn effeithiol
  9. sicrhau cynnal hylendid effeithiol
  10. dadansoddi adborth o gyfarpar monitro a chan y rheiny sydd yn gysylltiedig â bwydo
  11. ymchwilio i achosion o wastraff a'u symud o gyfundrefnau bwydo
  12. cadw cofnodion o'r holl weithgareddau bwydo a storio porthiant i fodloni gofynion cyfreithiol yn unol a gweithdrefnau'r safle

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau'r safle ar gyfer iechyd, diogelwch a diogeledd sydd yn gysylltiedig â bwydo pysgod
  2. cyfraddau bwydo a'r ffordd y maent yn newid gydag amodau amgylcheddol
  3. sut i gyfrifo perfformiad cynhyrchu
  4. deddfwriaeth amgylcheddol sydd yn benodol i'ch safle a'r ffordd y mae'n effeithio ar gyfundrefnau bwydo
  5. cyfundrefnau bwydo arbenigol a'u cymhwyso wrth gynnal iechyd a datblygiad pysgod
  6. ymddygiad bwydo arferol a sut i bennu achos tebygol newidiadau yn yr ymddygiad hwn
  7. pam y mae'n bwysig ymchwilio i amrywiadau mewn ymddygiad bwydo
  8. sut i addasu manylebau bwydo i ystyried amrywiadau mewn amodau amgylcheddol
  9. gofynion gweithredu yn ymwneud â bwydo, systemau bwydo a dyfeisiadau monitro
  10. y systemau a ddefnyddir i gasglu, storio a dadansoddi cofnodion bwydo
  11. mathau o borthiant a deiet a sut cânt eu dewis i sicrhau bod targedau cynhyrchu'n cael eu cyflawni
  12. y ffordd y mae gofynion cwsmeriaid ac ansawdd yn dylanwadu ar gynnwys porthiant
  13. dyluniad a rheolaeth dulliau storio porthiant effeithiol yn cynnwys cysoni cofnodion porthiant
  14. sut i ddefnyddio data bwydo i bennu nodweddion poblogaeth pysgod
  15. sut mae arsylwadau gweledol yn cael eu defnyddio i helpu i reoleiddio'r broses fwydo, a sut gall pobl eraill gynorthwyo'r gwaith o gasglu'r data hwn
  16. sut i ddadansoddi gwybodaeth a geir o ddyfeisiadau bwydo a monitro
  17. sut i leihau gwastraff porthiant a pham y dylid ei gadw mor isel â phosibl
  18. gweithdrefnau'r safle ar gyfer gwaredu gwastraff
  19. gweithdrefnau'r safle ar gyfer cynnal hylendid effeithiol
  20. y gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau'r safle ar gyfer cadw cofnodion o weithgareddau bwydo a storio porthiant

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

amodau amgylcheddol**tywydd, newidiadau mewn ansawdd dŵr

cyfundrefnau bwydo fel mater o drefn – gweithgareddau bwydo arferol

cyfundrefnau bwydo arbenigol – bwydo i gynorthwyo gofynion penodol e.e. ymprydio, triniaethau mewn porthiant, darparu lliw, deiet gleisiaid, imiwno-gyfnerthwyr

deddfwriaeth amgylcheddol - e.e. Rheoliadau Gweithgareddau Rheoledig (CAR)


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Awst 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAqu21

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermio Pysgod

Cod SOC

9119

Geiriau Allweddol

pysgod; bwydo