Cydlynu rhwydweithiau a phartneriaethau mewn modd strategol

URN: JETSCD17
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Cymunedol
Datblygwyd gan: NYA
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2015

Trosolwg


Mae'r safon hon ar gyfer yr holl ymarferwyr datblygu cymunedol sy'n gweithio ar draws gwahanol gymunedau ac yn darparu cysylltiadau a/neu gydlyniad rhwng cymunedau.
 
Mae'n cynnwys meithrin perthynas rhwng cymunedau amrywiol, cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill. Mae'n cynnwys ymdrin yn greadigol â'r tensiynau wrth weithio'n strategol ar draws ardal ehangach neu gyda mentrau mwy sy'n effeithio ar lawer o wahanol gymunedau. 

Noder: Mae partneriaethau yn cynnwys partneriaethau a rhwydweithiau ffurfiol ac anffurfiol.

Trefnir y safonau datblygu cymunedol yn chwe maes allweddol:
• Un - deall ac ymarfer datblygu cymunedol 
• Dau - deall cymunedau ac ymgysylltu â nhw 
• Tri - gwaith grŵp a gweithredu ar y cyd 
• Pedwar - cydweithio a gweithio ar draws sectorau 
• Pump - dysgu cymunedol er newid cymdeithasol  
• Chwech - llywodraethu a datblygu sefydliadol 

Mae'r safon hon yn rhan o Faes Allweddol Pedwar


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1 asesu'r amgylchedd gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd newidiol sy'n effeithio ar eich cymuned eich hun 
2 cyfathrebu manteision rhwydweithio o fewn a rhwng cymunedau a sectorau i gymunedau, asiantaethau cyhoeddus a sefydliadau eraill 
3 cefnogi partneriaethau i gydweithio ar faterion lle maent yn cystadlu yn ogystal â rhai sy'n gyffredin iddynt
4 cefnogi datblygiad partneriaethau lle nad oes rhai'n bodoli ac mae o fudd eu sefydlu
5 cefnogi rhwydweithio anffurfiol sy'n hybu dialog a dealltwriaeth rhwng cymunedau ac ar eu traws 
6 hybu gweithio ar y cyd sy'n herio arferion, rhagdybiaethau a stereoteipiau sy'n cau allan
7 cynyddu ymwybyddiaeth o rwystrau i ymwneud grwpiau cymunedol
8 cynnal systemau sefydliadol teg a chyfiawn yn eich sefydliad eich hun 
9 hybu polisïau sefydliadol teg a chyfiawn mewn sefydliadau partner 
10 ymgynghori ar weithgareddau a strategaethau a gynlluniwyd a allai effeithio ar gymunedau 
11 hybu ffyrdd o gynnwys cymunedau sydd ar y cyrion a grwpiau cymunedol bychain mewn prosesau strategol ar gyfer rhwydweithio, dylanwadu a gwneud penderfyniadau
12 galluogi partneriaethau i gydnabod sut mae anghydbwysedd o ran pŵer ac adnoddau'n effeithio ar y berthynas rhwng cymunedau ac ar eu traws
13 defnyddio modelau ar gyfer gweithio rhwng cymunedau a fydd yn cefnogi datrys problemau ar y cyd ar draws cymunedau
14 ceisio cefnogaeth ac adnoddau i hwyluso dysgu, gweithio ac ymgysylltu â'r broses o wneud penderfyniadau rhwng cymunedau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


Y rhesymeg a'r cyd-destun
1 sut mae democratiaeth gynrychioliadol a chyfranogol yn gweithio'n ymarferol
2 cysyniadau llythrennedd gwleidyddol, hawliau dinasyddiaeth a chyfrifoldebau yng nghyswllt llywodraethu 
3 polisïau perthnasol y llywodraeth ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol 
4 y cyfraniad y gall amrywiol grwpiau annibynnol a chymunedau ei wneud i benderfyniadau sy'n effeithio ar gymunedau
5 sut mae anghyfiawnder, camwahaniaethu ac eithrio cymdeithasol yn effeithio ar fywydau unigolion a chymunedau

Ffactorau sy'n cefnogi gwaith effeithiol mewn partneriaeth
6 sefydliadau partneriaeth sy'n llunio, neu sy'n cyfrannu at, 
benderfyniadau sy'n effeithio ar gymunedau  
7 sut gellir dylanwadu ar benderfyniadau neu argymhellion
8 amrywiaeth grwpiau a chymunedau 
9 sut gall anghyfiawnder, camwahaniaethu ac eithrio cymdeithasol atal ymwneud â gwaith partneriaeth 
10 modelau gweithio ar y cyd a'r goblygiadau o ran cynnwys y gymuned
11 goblygiadau adnoddau a chefnogaeth ar gyfer ymgysylltu â'r sbectrwm eang o randdeiliaid posibl
12 cylch oes partneriaethau, eu cyfyngiadau, a'r ffactorau a all leihau cynaliadwyedd

Technegau a dulliau
13 technegau cynhwysol a chyfranogol ar gyfer cynllunio strategaeth a chamau gweithredu
14 modelau cynhwysol a grymusol o eiriolaeth 
15 systemau a gweithdrefnau er mwyn sicrhau atebolrwydd i gymunedau
16 strategaethau ymadael ar gyfer mentrau neu brosiectau sydd ag oes benodedig
17 systemau cyfathrebu a sefydliadol i gynnal gwaith strategol ar y cyd ar draws rhwydweithiau a phartneriaethau
18 technegau a fframweithiau ar gyfer monitro, adolygu a gwerthuso gwaith ar y cyd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Seiliwyd datblygu cymunedol ar gyfres o werthoedd sy'n ei osod ar wahân i weithgareddau eraill, a all fod yn gysylltiedig, yn y gymuned. Mae'r gwerthoedd hyn yn greiddiol i ddatblygu cymunedol, ac yn darparu sylfaen ar gyfer pob un o'r safonau. Y gwerthoedd yw;

1 Cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb
2 Gwrthweithio camwahaniaethu
3 Grymuso cymunedol
4 Gweithredu ar y cyd
5 Gweithio a dysgu gyda'n gilydd

Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos sut gallai pob un o'r gwerthoedd datblygu cymunedol lywio ymarfer yn y safon hon. Nid yw'r gosodiadau hyn yn rhan o'r gofynion asesu.

1 bod cyfraniad cymunedau a grwpiau yn cael ei werthfawrogi o ran cryfderau, sgiliau, gwybodaeth a phrofiad, yn hytrach nag adnoddau ariannol
2 bod mecanweithiau'n cael eu rhoi ar waith i gefnogi ymwneud â chynrychiolaeth cymunedau sydd ar y cyrion mewn rhwydweithiau a phartneriaethau 
3 bod dylanwad cymunedau'n cael ei gryfhau trwy weithredu cydweithredol ac ar y cyd
4 bod prosesau a gweithdrefnau'n adlewyrchu tryloywder ac atebolrwydd i gymunedau
5 bod dysgu o amrywiol brofiadau pobl o fewn y rhwydwaith yn cael ei annog a'i gefnogi


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

​​


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Learning Skills Improvement Service

URN gwreiddiol

LSICD16

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Grwpiau Cymorth Cymunedol

Cod SOC

3231

Geiriau Allweddol

datblygu cymunedol; ymarferydd datblygu cymunedol; ymarfer datblygu cymunedol; gwerthoedd datblygu cymunedol; ymchwil datblygu cymunedol; ymgynghori ar ddatblygu cymunedol; grwpiau datblygu cymunedol; dulliau datblygu cymunedol