Rhoi cyngor ac arweiniad ar faterion tai i gwsmeriaid

URN: INSHOU22
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 29 Maw 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rhoi cyngor ac arweiniad ar faterion tai i gwsmeriaid.  Mae hyn yn cynnwys cyngor ar hawliau a chyfrifoldebau, cyfeirio cwsmeriaid at ffynonellau cymorth eraill a ymdrin â chwynion.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. darparu gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n bodloni safonau gwasanaeth i gwsmeriaid a pholisi cydraddoldeb ac amrywiaeth eich sefydliad
  2. hyrwyddo ac esbonio'r gwasanaethau a'r cymorth a roddir gan eich sefydliad i gwsmeriaid
  3. sefydlu gofynion tai cwsmeriaid ac ymateb iddynt, a chynnig cyngor, arweiniad a chymorth
  4. cynghori cwsmeriaid ar eu hawliau a'u cyfrifoldebau, gan gynnwys eu hawl i gwyno neu apelio a'u cynorthwyo i wneud hyn
  5. cadarnhau bod y wybodaeth a'r arweiniad a roddir i gwsmeriaid yn adlewyrchu polisi sefydliadol
  6. cofnodi a gweithredu cwynion ac yn unol â'r gweithdrefnau sefydliadol a'r gofynion cyfreithiol perthnasol
  7. cyfeirio ceisiadau, cwynion neu apeliadau sydd y tu allan i derfynau eich rôl at eich rheolwr llinell neu at sefydliadau eraill sy'n gallu cynorthwyo
  8. cadarnhau cyfrinachedd gwybodaeth yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. safonau sefydliadol eich gwasanaeth i gwsmeriaid a'r polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth sefydliadol
  2. ystod a nodweddion y gwasanaethau a'r cymorth sydd ar gael i gwsmeriaid a sut mae'r rhain yn gysylltiedig â'u gofynion
  3. sut mae cyfyngiadau gweithredol yn effeithio ar ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid
  4. terfynau eich cyfrifoldebau eich hun a goblygiadau gweithredu y tu allan i'r terfynau hyn
  5. y prosesau a'r gweithdrefnau cyfathrebu yn eich sefydliad
  6. y gwahanol ffyrdd o gyflwyno neu egluro gwybodaeth i gwsmeriaid
  7. beth i'w wneud pan nad yw'r wybodaeth i ddiwallu gofynion cwsmeriaid ar gael ar unwaith
  8. y mathau o geisiadau neu gwynion gan gwsmeriaid y mae'n rhaid eu cyfeirio at gydweithwyr neu sefydliadau eraill
  9. sut mae'n rhaid i'ch sefydliad gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol ym maes diogelu data
  10. gweithdrefn cwynion ac apeliadau eich sefydliad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

06 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTH311

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio

Cod SOC

3234

Geiriau Allweddol

eiddo; ymchwilio; delio; torri cytundeb; llety; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; cwsmeriaid; dogfennaeth; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; diogel; trefnu