Defnyddio partneriaethau gwasanaethau i gyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid

URN: INSCS041
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 22 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig â Rheoli Gwasanaeth i Gwsmeriaid. Mae'n cynnwys defnyddio partneriaethau gwasanaethau i gyflwyno gwasanaeth i cwsmeriaid. Mae'n cynnwys cynllunio, trefnu a rheoli gweithrediadau gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae'n cynnwys ymddygiadau a phrosesau gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n cael yr effaith fwyaf ar brofiad y cwsmer wrth gyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid. Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.

Mae eich gwasanaeth i gwsmeriaid yn dibynnu ar waith tîm.  Mewn llawer o sefyllfaoedd, mae cyflwyno gwasanaeth yn llwyddiannus i gwsmeriaid sy'n ei ddefnyddio yn y pen draw yn dibynnu ar wasanaeth sydd â chadwyn gyflawn o gwsmeriaid mewnol neu allanol a chyflenwyr mewnol neu allanol.  Rydych yn ffurfio cyfres o bartneriaethau gwasanaethau sy'n galluogi'r gadwyn i weithio'n effeithlon ac yn effeithiol. Rydych yn gweithio o fewn cadwyn y gwasanaeth ac yn datblygu'r cysylltiadau sy'n cadarnhau perthnasoedd allweddol.  Rydych yn cyfathrebu â rolau gwahanol sefydliadau, adrannau ac unigolion, ac yn eu deall, ar gyfer cyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid.

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaeth i gwsmeriaid ar lefelau goruchwylio neu reoli sy'n defnyddio partneriaethau gwasanaethau i gyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. diffinio partneriaid sy'n ymwneud â chadwyn y gwasanaeth sy'n cyflenwi'r cwsmeriaid sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn y pen draw
  2. nodi'r partneriaid gwasanaethau mewnol ac allanol sy'n rhan o gadwyn gwasanaeth eich sefydliad
  3. esbonio sut mae eich gwaith gyda phartneriaid gwasanaethau unigol yn cyfrannu at gadwyn gyffredinol o wasanaeth
  4. darparu gwasanaeth i gwsmeriaid mewnol ac allanol yn dilyn yr un egwyddorion ac arferion
  5. gweithio gyda chwsmeriaid mewnol yng nghadwyn y gwasanaeth i wella gwasanaeth i gwsmeriaid allanol
  6. cyfathrebu â chwsmeriaid mewnol i dynnu sylw at unrhyw agweddau ar eich gwaith a allai effeithio arnynt
  7. gweithio gyda chyflenwyr mewnol neu allanol yng nghadwyn y gwasanaeth i wella gwasanaeth i gwsmeriaid allanol
  8. cynnal perthnasoedd rhwng cyflenwyr a chwsmeriaid mewnol neu allanol i atgyfnerthu sut mae pob rôl yn nghadwyn y gwasanaeth yn cyfrannu at wasanaeth
  9. nodi lle mae pŵer ac awdurdod yn bodoli o fewn cadwyn y gwasanaeth
  10. trafod gyda chwsmeriaid mewnol, a chyflenwyr mewnol neu allanol, i gytuno ar weithdrefnau gwasanaeth sy'n cyfrannu at wasanaeth cwsmeriaid
  11. datblygu perthynas waith gyda chwsmeriaid neu gyflenwyr mewnol gan ddefnyddio cytundebau lefel gwasanaeth (SLAs)
  12. gweithio gyda chydweithwyr i gynnal ymwybyddiaeth o'r angen am gydweithio tîm o fewn cadwyn y gwasanaeth
  13. cytuno â phartneriaid gwasanaethau sut y caiff eich gwaith ei flaenoriaethu os bydd gwrthdaro mewn buddiannau rhwng gofynion cwsmeriaid mewnol ac allanol
  14. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y timau, y cydweithwyr a'r partneriaid gwasanaethau allanol sy'n ymwneud â chyflenwi eich cwsmeriaid sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn y pen draw
  2. sut mae partneriaethau gwasanaethau yn cyfrannu at eich rôl o ran darparu gwasanaeth i gwsmeriaid
  3. egwyddorion ac arferion darparu gwasanaeth i gwsmeriaid mewnol ac allanol
  4. y cyfrifoldebau a'r hawliau y gellir eu cynnwys mewn perthynas fewnol rhwng cwsmer a chyflenwr
  5. manteision ac anfanteision disgrifio perthynas mewn cadwyn gwasanaeth fel perthynas rhwng cyflenwyr a chwsmer neu bartneriaeth gwasanaeth
  6. sut i sefydlu eich blaenoriaethau pan fydd gofynion mewnol cwsmeriaid yn gwrthdaro â gofynion cwsmeriaid allanol
  7. sut i gynnal hunaniaeth y tîm wrth gydweithio â thimau eraill i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid
  8. sut i drafod yn llwyddiannus gyda chwsmeriaid mewnol a phartneriaid gwasanaethau allanol
  9. strwythurau ffurfiol ac anffurfiol eich sefydliad a sut maent yn gallu dylanwadu ar berthnasoedd
  10. y dulliau a ddefnyddir i feithrin a chynnal perthynas â phartneriaid gwasanaethau a sut i newid eich dull o gwrdd â gwahanol arddulliau cyfathrebu
  11. sut i ddefnyddio'r ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael am bartneriaid gwasanaethau allanol a chyfryngau cymdeithasol i ddatblygu perthnasoedd gwaith cadarnhaol
  12. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFACSB9

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Cod SOC

7212

Geiriau Allweddol

partneriaethau gwasanaethau; cadwyn gwasanaeth; cwsmer mewnol; cwsmer allanol; cyflenwyr; meithrin perthnasoedd; dealltwriaeth; gwasanaeth i gwsmeriaid; cyfathrebu; datrys problemau; gweithio gydag eraill; rhoi gwybodaeth; gwaith tîm