Glanhau strydoedd drwy ddefnyddio cyfarpar awtomataidd

URN: INSC016
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Glanhau a Chefnogi
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 23 Rhag 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o'r maes cymhwysedd sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau glanhau, gan gynnwys defnyddio cyfarpar. Mae'n ymwneud â glanhau strydoedd gan ddefnyddio offer awtomataidd. Mae ar gyfer glanhawyr sy'n symud sbwriel a malurion o fannau cyhoeddus gan gynnwys strydoedd, palmentydd, ardaloedd i gerddwyr a meysydd parcio. Mae'n cynnwys nodi a dilyn y gweithdrefnau cywir er mwyn delio ag unrhyw sbwriel a allai beri risg i iechyd a diogelwch. Mae'n bwysig gwneud yn siŵr nad oes sbwriel yn yr ardal a bod detritws wedi'u symud lle bo hynny'n ymarferol pan fyddwch wedi gorffen eich gwaith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Paratoi a diogelu

1.      cynnal gwiriadau iechyd a dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer arferion gwaith diogel

2.      dilyn gofynion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle

3.      cymryd y camau perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd

4.      gwneud yn siŵr bod yr holl gynhyrchion a'r cyfarpar diogelu gofynnol ar gael

5.      gwisgo'r cyfarpar diogelu perthnasol wrth lanhau

6.      dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ailddefnyddio cyfarpar diogelu neu ei waredu

7.      gwneud yn siŵr bod systemau gwaith a gofynion diogel yn cael eu dilyn

8.      dewis y cyfarpar côd lliw priodol

9.      gwneud yn siŵr bod unrhyw arwyddion perthnasol am iechyd a rhybuddion wedi'u harddangos yn glir

10.  gwneud yn siŵr bod gennych yr holl gymwyseddau, y caniatâd a'r trwyddedau perthnasol ar gyfer defnyddio'r peiriannau a cherbydau

Rheoli'r risg o haint

11.  dilyn gofynion eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint yn y gweithle

12.  dilyn y gweithdrefnau glanhau yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd

13.  glanhau yn unol â'r amserlen waith a pha mor aml y mae hynny'n ofynnol yn dibynnu ar ganlyniadau asesiad risg

14.  gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu a ddefnyddiwyd yn unol â gweithdrefnau diogelwch penodedig

15.  glanhau a diheintio cyfarpar glanhau y gellir ei ailddefnyddio

16.  golchi a sychu'ch dwylo'n drylwyr ac yn ddiogel yn unol â gofynion y sefydliad

Cael gwared ar sbwriel a detritws

17.  gwneud yn siŵr bod gennych gyfarwyddiadau a gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad ar gyfer cyflawni'r gwaith

18.  cadarnhau'r man i'w lanhau

19.  dewis y cerbyd neu'r peiriannau a'r dulliau glanhau mwyaf addas ar gyfer casglu'r sbwriel a'r detritws a chlirio'r arwyneb

20.  gwneud yn siŵr bod gennych y caniatâd cyfreithiol a sefydliadol cywir i ddefnyddio'r cerbyd neu'r peiriannau

21.  gwneud yn siŵr bod gan y cerbyd neu'r peiriannau ddigon o adnoddau i gyflawni'r gwaith hyd at y safon ofynnol

22.  dilyn y gweithdrefnau cywir os oes nam ar y cerbyd neu'r peiriannau

23.  nodi'r math o sbwriel a detritws i'w gasglu a chadw at y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer cael gwared arnynt

24.  defnyddio'r dulliau glanhau priodol yn dibynnu ar y math o sbwriel a detritws, amodau gwaith a'r math o gerbyd neu beiriannau

25.  gweithredu cerbydau a pheiriannau yn ofalus a chymryd pob cam posibl i gadw draw oddi wrth y cyhoedd

26.  diogelu'r cerbyd neu'r cyfarpar mecanyddol er mwyn atal y risg o anaf pan nad yw peiriannau'n cael eu defnyddio

27.  gwneud yn siŵr bod y sbwriel a'r detritws yn cael eu clirio cyn gymaint â phosibl o fewn eich amodau gwaith

Delio â gwastraff a gasglwyd

28.  gwneud yn siŵr bod gollyngiadau wedi cael eu trin yn gywir cyn cael gwared arnynt

29.  hysbysu'r aelod staff perthnasol am unrhyw broblemau y daethpwyd ar eu traws mewn modd amserol

30.  mynd â'r sbwriel a'r detritws a gasglwyd i'r man casglu dynodedig

31.  gollwng a gwaredu'r gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion eich sefydliad a gadael y cynhwysydd gwastraff yn wag

32.  glanhau'r cerbyd, y peiriannau a'r cyfarpar, eu dychwelyd i'r man storio a gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu gadael yn ddiogel ar ôl cwblhau eich gwaith

33.  cydymffurfio â'r gweithdrefnau adrodd perthnasol pan fyddwch wedi gorffen eich gwaith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Paratoi a diogelu

1.      y gwiriadau iechyd a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer arferion gwaith diogel

2.      egwyddorion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle

3.      y camau gweithredu perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd

4.      y cynhyrchion a'r cyfarpar diogelu ar gyfer glanhau a rheoli heintiau

5.      sut i ailddefnyddio'r cyfarpar diogelu neu ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad

6.      gofynion y sefydliad ar gyfer systemau gwaith diogel

7.      sut a ble i arddangos yr arwyddion diogelwch a rheoli heintiau perthnasol mewn mannau glanhau

8.      gofynion eich sefydliad ar gyfer lleihau'r risg o haint wrth weithio ar safle

9.      pam mae'n bwysig dewis y cyfarpar côd lliw cywir, a sut i'w ddefnyddio

10.  cymwyseddau, caniatâd a thrwyddedau perthnasol ar gyfer defnyddio'r peiriannau a cherbydau

Rheoli'r risg o haint

11.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint

12.  pa mor aml y mae angen gwneud gwaith glanhau arferol mewn mannau cymunedol, cyfleusterau a mannau lle ceir llawer o gysylltiad

13.  y gweithdrefnau glanhau i'w dilyn, yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd

14.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer glanhau a diheintio cyfarpar y gellir ei ailddefnyddio

15.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu sydd wedi'u defnyddio

16.  hyd y gweithdrefnau golchi dwylo ar ôl tynnu'r cyfarpar diogelu

Cael gwared ar sbwriel a detritws

17.  cyfarwyddiadau a gweithdrefnau diogelwch perthnasol eich sefydliad ar gyfer cyflawni'r gwaith

18.  y ffactorau i'w hystyried wrth nodi sbwriel a detritws a'r gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod am eitemau os ydych yn credu y gallent beri risg i iechyd a diogelwch

19.  beth yw mathau peryglus o sbwriel a detritws a'r camau i'w cymryd i ddelio ag ef

20.  y cerbydau neu'r peiriannau sydd ar gael i chi a'r rhai mwyaf priodol ar gyfer y math o sbwriel a detritws

21.  caniatâd eich sefydliad neu'r caniatâd cyfreithiol perthnasol sy'n ofynnol i weithredu'r cerbyd neu'r peiriannau, sut i gael hwn a beth allai ddigwydd os na cheir hyn

22.  sut i wirio bod y cerbyd neu'r peiriannau'n gweithio, bod ganddo ddigon o adnoddau ac o ble i gael y rhain

23.  y gweithdrefnau i'w dilyn ar ôl darganfod nam ar y cerbyd neu'r peiriannau

24.  pam mae'n bwysig gweithredu'r cerbyd neu'r peiriannau yn ofalus ac yn gyfrifol

25.  pam y dylech wneud yn siŵr bod cyfarpar mecanyddol yn ddiogel a beth allai ddigwydd os byddwch yn methu â gwneud hynny

26.  y safon ofynnol i'w chyflawni wrth wneud y gwaith

Delio â gwastraff a gasglwyd

27.  y gwahanol fathau o ollyngiadau a sut i wneud yn siŵr eu bod wedi cael eu trin yn gywir

28.  y gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod am broblemau a phwy ddylai gael gwybod amdanynt

29.  y mannau casglu dynodedig ar gyfer sbwriel a detritws

30.  sut i ollwng a gwaredu gwastraff a gasglwyd yn ddiogel a'r gofynion cyfreithiol a sefydliadol y mae'n rhaid eu dilyn

31.  y man dynodedig ar gyfer glanhau cerbydau, peiriannau a chyfarpar a'r dulliau ar gyfer gwneud hyn

32.  mannau storio ar gyfer cerbydau, cyfarpar a pheiriannau a pham mae'n rhaid eu gadael yn ddiogel pan fyddwch wedi gorffen eich gwaith

33.  y gweithdrefnau adrodd ar gyfer gorffen eich gwaith a pham mae'n bwysig dilyn y rhain


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTC219

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Menter manwerthu a masnachol, Galwedigaethau Glanhau Elfennol, Gweithrediadau Gwasanaethau Glanhau, Gweithrediadau Cynorthwyo Glanhau, Mentrau gwasanaethau

Cod SOC

9223

Geiriau Allweddol

glanhau strydoedd, cerbyd, cyfarpar awtomataidd, nodi, gweithdrefnau, iechyd a diogelwch, sbwriel