Creu’r seilwaith ar gyfer eich busnes

URN: INSBE007
Sectorau Busnes (Suites): Menter Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 14 Ion 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen creu'r seilwaith ar gyfer eu busnes. Mae angen i chi gynllunio prosesau, gweithdrefnau a systemau i ffurfio seilwaith eich busnes. Bydd y seilwaith cywir yn eich busnes yn eich helpu i gyflawni nodau eich busnes a chynyddu eich gallu i gystadlu trwy wella effeithlonrwydd, caniatáu i staff weithio gyda'i gilydd, rheoli costau cynnal, eich helpu i gynnig gwasanaeth integredig o safon uchel a chynnal cyfathrebu mewnol ac allanol. Mae'n golygu diffinio'r seilwaith ar gyfer eich busnes, ymgynghori â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gweithredu eich seilwaith a'i werthuso i sicrhau ei fod yn gweithio i'ch busnes.

Gallech wneud hyn os ydych yn:

  1. sefydlu busnes neu fenter gymdeithasol newydd;

  2. adolygu'r isadeiledd presennol;

  3. ehangu eich busnes neu fenter gymdeithasol;

  4. newid neu addasu'r cynhyrchion neu'r gwasanaethau a gynigir gan eich busnes neu fenter gymdeithasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gosod y nodau a'r amcanion ar gyfer eich busnes
  2. coladu anghenion a disgwyliadau eich cwsmeriaid o'ch busnes
  3. diffinio eich gofynion o ran isadeiledd y busnes sy'n cwrdd â'ch nodau a'ch amcanion
  4. ymchwilio ac asesu'r opsiynau sydd ar gael fydd yn eich helpu i greu isadeiledd eich busnes
  5. nodi'r rhanddeiliaid mewnol ac allanol y dylid ymgynghori â nhw neu eu hysbysu wrth gynllunio gofynion o ran isadeiledd
  6. nodi'r adnoddau sydd eu hangen arnoch i ddatblygu isadeiledd eich busnes
  7. diffinio'r hyn yr ydych chi a'ch staff am i isadeiledd eich busnes ei gyflawni
  8. diffinio rolau a chyfrifoldebau o fewn eich busnes
  9. ceisio unrhyw gyngor angenrheidiol gan arbenigwyr ar yr atebion technegol a chyfreithiol i greu isadeiledd eich busnes
  10. gwerthuso a phenderfynu ar isadeiledd addas sy'n ategu eich anghenion chi ac anghenion eich cwsmeriaid
  11. datblygu a phrofi'r isadeiledd
  12. cynllunio sut y rhoddir yr isadeiledd ar waith a'i fonitro
  13. rhoi gwybod i'ch staff am gynnydd wrth gynllunio'r isadeiledd, ei ddatblygu a'i roi ar waith
  14. trefnu'r hyfforddiant perthnasol i'ch staff
  15. ceisio adborth gan bobl berthnasol am isadeiledd eich busnes a'i werthuso
  16. defnyddio adborth i lywio datblygiadau yn y dyfodol
  17. diweddaru eich isadeiledd yn rheolaidd neu pryd bynnag y bo angen

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Canolbwyntio ar fusnes

1.      nodau ac amcanion eich busnes a sut y gallai isadeiledd eich busnes eich helpu i'w cyflawni

2.      sut i ddiffinio gofynion isadeiledd eich busnes

3.      y cymdeithion a'r ymgynghorwyr allanol sydd eu hangen ar gyfer eich isadeiledd

4.      y rhanddeiliaid mewnol ac allanol y mae angen i chi ymgynghori â nhw wrth greu isadeiledd eich busnes

5.      systemau a phrosesau gweinyddu eich busnes

6.      hierarchiaeth rolau a chyfrifoldebau yn eich busnes a sut y dyrennir y rhain

7.      sut mae isadeiledd eich busnes yn diwallu eich anghenion chi a'ch cwsmeriaid

8.      sut y gallai isadeiledd eich busnes eich helpu i wella'ch gwasanaeth i gwsmeriaid

9.      y mathau o gymorth cyfreithiol a chyngor proffesiynol a ble i ddod o hyd i'r rhain

Isadeiledd

10.  yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer cynllunio isadeiledd, ei ddatblygu a'i roi ar waith

11.  sut i ddatblygu isadeiledd yn unol â'ch nodau, eich amcanion a'ch blaenoriaethau

12.  sut i ddatblygu cynllun gweithredu gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau, amserlenni, cyllidebau a chynlluniau wrth gefn

13.  yr atebion technegol sydd eu hangen ar gyfer eich isadeiledd

14.  sut i werthuso'r gwahanol opsiynau o ran isadeiledd gan ystyried addasrwydd, sgiliau staff, cyllideb ac amserlen gweithredu

15.  sut i fonitro cynnydd y cynllun trwy gyfarfodydd prosiect rheolaidd a chyfrifoldebau adrodd

16.  sut i gael adborth rheolaidd gan gwsmeriaid, staff a rhanddeiliaid perthnasol eraill ynglŷn â'r isadeiledd

17.  sut i roi'r adborth ar yr isadeiledd ar waith i wella cynlluniau ar gyfer datblygu yn y dyfodol

18.  yr hyfforddiant sydd ei angen er mwyn i'r staff wneud y defnydd gorau posibl o isadeiledd eich busnes


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFABI1

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

llwyddiant, busnes, syniad, cymdeithasol, menter, cwsmeriaid, cynhyrchion, gwasanaeth, cefnogaeth, creadigol, syniad, sgiliau, anghenion, cyflenwyr, arian parod, llif, deddfwriaeth, marchnata, marchnad, tueddiadau, cystadleuwyr, iechyd a diogelwch, TAW