Prosesu ceisiadau uniongyrchol am daliadau yn erbyn contractau bywyd, pensiynau a buddsoddi

URN: FSPLPI03
Sectorau Busnes (Suites): Bywyd, Pensiynau a Buddsoddiadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud ag awdurdodi ceisiadau uniongyrchol am daliadau yn erbyn contractau bywyd, pensiynau a buddsoddi. Mae'r cais am daliad yn cael ei brosesu a'i dalu cyhyd â'i fod yn ddilys, bod y dogfennau'n gywir, a bod yr holl ofynion eraill wedi'u bodloni. Rhaid i chi gofnodi manylion cywir ynghylch y cais am daliad, a nodi'r holl bolisïau perthnasol. Wedyn byddwch yn gofyn am yr holl wybodaeth ofynnol ar gyfer pob polisi dan sylw. Byddwch yn casglu'r holl ddogfennau a gwybodaeth angenrheidiol i ddilysu'r cais am daliad. Ar ôl i chi dderbyn yr wybodaeth benodedig a'r dogfennau gofynnol, byddwch yn trefnu unrhyw daliadau, gan ganfod gan bwy mae'r teitl lle bo hynny'n briodol, a diweddaru systemau gwybodaeth. Bydd angen i chi ddefnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol, gan roi sylw i fanylion sy'n hollbwysig i'ch gwaith.

Efallai bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr neu ddarparwr cynnyrch arall, neu ar eu rhan.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Cofnodi manylion ceisiadau uniongyrchol am daliadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  2. Casglu'r holl wybodaeth a dogfennaeth gofynnol ar gyfer pob polisi
  3. Nodi'r holl bolisïau a allai effeithio ar y cais am daliad neu fod yn berthnasol iddo
  4. Cyfeirio ceisiadau am daliadau nad oes gennych awdurdod i ddelio gyda nhw at y bobl briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  5. Canfod ym meddiant pwy mae'r teitl a phwy sydd â'r hawl i dderbyn taliad, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  6. Gwirio bod y systemau a ddefnyddir i fonitro cynnydd ceisiadau uniongyrchol am daliadau yn cael eu diweddaru'n gyson, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Cyfrifo setliad yn unol â thelerau'r contract
  8. Darparu gwybodaeth i hawlwyr neu eu cynrychiolwyr, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  9. Trefnu taliadau awdurdodedig yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  10. Cadw cofnodion cywir a chyflawn yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  11. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Yr egwyddorion a'r rheoliadau cyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
  2. Strwythur y farchnad yswiriant a sicrwydd a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
  3. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio gyda cheisiadau uniongyrchol am daliad yn erbyn contract bywyd, pensiynau a buddsoddi
  4. Sut mae delio gyda dogfennau contract coll
  5. Safonau a gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys delio gyda chwynion
  6. Ffynonellau cyngor a gwybodaeth yn y gwaith
  7. Yr yswiriant a ddarperir gan gynnyrch cyfredol ac anghyfredol eich sefydliad sy'n berthnasol i'ch rôl
  8. Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ynghylch cyfathrebu â chwsmeriaid
  9. Yr wybodaeth a'r dogfennau sy'n ofynnol i brosesu ceisiadau uniongyrchol am daliadau yn erbyn contractau bywyd, pensiynau a buddsoddi
  10. Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol i dansgrifennu risg y tu allan i'ch awdurdod
  11. Rolau a swyddogaethau'r partïon eraill sy'n ymwneud â cheisiadau am daliadau. Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi ac addasu gwybodaeth
  12. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn arddangos uniondeb, tegwch a chysondeb yn y penderfyniadau a wnewch
  2. Rydych yn wyliadwrus ynghylch risgiau posibl

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPLPI03

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Swyddfa bywyd; tansgrifennu; busnes newydd; contract; dogfennaeth; cynnyrch ariannol; gwasanaethau ariannol; newidiadau i'r contract; risg; taliadau; gwasanaeth cwsmeriaid