Prosesu dogfennau polisi yswiriant

URN: FSPGI19
Sectorau Busnes (Suites): Yswiriant Cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu dogfennau polisi yswiriant. Gall eich gwaith olygu eich bod yn darparu polisi neu ddogfennau i gwsmeriaid yn dystiolaeth o'r addasiadau. Ar ôl i fusnes newydd ac addasiadau gael eu prosesu, caiff y dogfennau sy'n darparu tystiolaeth ynghylch y contract yswiriant, neu'r addasiad, eu paratoi a'u cyflwyno i'r cwsmer. Byddwch fel arfer yn delio gyda dogfennaeth ar gyfer polisïau sydd â chyfraddau a geiriad safonol, h.y. y polisïau neu'r cynnyrch hynny sy'n cael eu gyrru gan y system heb fawr ddim cyfle, os o gwbl, i ddyfarnu'n unigol ar gyfer amrywio'r telerau a'r amodau. Bydd angen hefyd i chi gyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno a rhoi sylw i fanylion sy'n hollbwysig i'ch gwaith.

Mae'n bosibl y bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr neu ganolwr, neu sefydliad arall sydd ag awdurdod dirprwyedig.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Nodi'r wybodaeth gywir yn y man priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  2. Cynhyrchu'r dogfennau cywir, yn unol â gweithdrefnau eich cyflogwr
  3. Datrys unrhyw anghysondebau neu elfennau nad ydynt yn cyfateb yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  4. Cyflwyno dogfennau'n brydlon i'r rhai sydd eu hangen, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  5. Ymgorffori cymalau safonol a geiriad cyfyngiadau'n gywir
  6. Cyfeirio unrhyw sefyllfaoedd y tu allan i lefel eich awdurdod at y bobl neu'r adrannau priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Cadw cofnodion cywir a chyflawn ar gyfer pob cam, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  8. Gwirio bod y dogfennau'n gywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  9. Cydymffurfio â gofynion cydymffurfio cyfreithiol a rheoliadol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Egwyddorion a rheoliadau yswiriant a chyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
  2. Strwythur y farchnad yswiriant a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
  3. Cwmpas y polisi, y telerau a'r amodau sy'n berthnasol i'ch gwaith, gan gynnwys estyniadau neu gyfyngiadau safonol
  4. Ffynonellau gwybodaeth a chyngor
  5. Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol ar gyfer sefyllfaoedd y tu allan i'ch awdurdod
  6. Egwyddorion a rheoliadau cyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
  7. Safonau gwasanaeth a therfynau amser eich sefydliad, gan gynnwys delio gyda chwynion
  8. Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyrchu, cofnodi a newid gwybodaeth
  9. Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid
  10. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer paratoi atodlenni ac atodiadau polisi perthnasol
  11. Gweithdrefnau a therfynau amser eich sefydliad ar gyfer cyflwyno atodlenni a chyfyngiadau polisi diwygiedig
  12. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer addasu polisi safonol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth hanfodol gysylltiedig sy'n ofynnol gan y cwsmer
  13. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer canslo yng nghanol y cyfnod, gan gynnwys dychwelyd premiymau a dychwelyd y ddogfennaeth
  14. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac er lles pennaf eich cwsmer
  2. Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
  3. Rydych yn datgelu gwybodaeth dim ond i'r rhai sydd ei hangen ac sydd â hawl i'w derbyn

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPGI19

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Hawliad yswiriant; polisi yswiriant; polisïau; hawliad; hawlydd; setliad; wedi'i yswirio; heb ei yswirio; hysbysiad