Gwerthuso risg a rhoi gwybod i ganolwyr yswiriant eraill

URN: FSPGI17
Sectorau Busnes (Suites): Yswiriant Cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gwerthuso risg a hysbysu canolwyr yswiriant eraill. Mae'r safon hon yn cwmpasu gwaith canolwr sy'n gosod busnes ar ran canolwyr eraill, er enghraifft gweithredu fel canolwr llwyr neu osod busnes ar ran cynrychiolydd penodedig. Byddwch yn asesu anghenion y canolwr arall ac yn dadansoddi a gwerthuso'r holl wybodaeth berthnasol a ddarparwyd. Byddwch yn trefnu i gynnal ymchwiliadau pellach i'r risg lle bo angen hynny, ac yna'n asesu'r ffeithiau pwysig cyn symud ymlaen. Ar ôl gwneud eich asesiad, byddwch chi'n rhoi gwybod i'r canolwr arall, gan sicrhau bod eich cynigion chi a'u goblygiadau wedi'u deall yn llawn, a byddwch yn cytuno ar y camau sydd i'w cymryd. Bydd angen i chi gyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno.

Mae'n bosibl y bydd y safon hon yn addas i chi dim ond os yw'r cwmni yr ydych yn gweithio fel rhan ohono yn ganolwr yswiriant.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Casglu'r holl wybodaeth ofynnol i asesu anghenion y canolwyr eraill a'u cleientiaid, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  2. Dadansoddi a gwerthuso'r wybodaeth yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  3. Ymchwilio ymhellach i'r risgiau, lle bo angen, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  4. Asesu'r ffeithiau pwysig a chasglu unrhyw ddogfennau perthnasol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  5. Cyfeirio unrhyw sefyllfaoedd y tu allan i lefel eich awdurdod at y bobl neu'r adrannau priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  6. Rhoi cyngor yn unol ag unrhyw gytundebau i osod busnes ar ran canolwyr, oddi mewn i derfynau cytunedig eich cyfrifoldeb
  7. Rhoi cyngor sy'n darparu'r sefyllfa farchnad orau ar gyfer y canolwr arall, o ystyried natur y cais a pholisïau, gweithdrefnau a statws eich cyflogwr
  8. Esbonio eich argymhellion yn eglur a chadarnhau bod y canolwr arall yn deall eich cyngor, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  9. Cytuno ar y camau gweithredu sydd i'w cymryd gyda'r canolwr arall, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  10. Cadarnhau eich cyngor, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  11. Cynnal cyfrinachedd wrth roi cyngor i ganolwyr eraill, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  12. Diogelu integriti'r berthynas gyda'ch canolwr, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  13. Cadw cofnodion cywir a chyflawn bob cam, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  14. Cydymffurfio â gofynion cydymffurfio cyfreithiol a rheoliadol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Egwyddorion a rheoliadau yswiriant a chyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
  2. Strwythur y farchnad yswiriant a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
  3. Cwmpas y polisi, y telerau a'r amodau sy'n berthnasol i'ch gwaith, gan gynnwys estyniadau neu gyfyngiadau safonol ac ansafonol
  4. Ffynonellau cyngor a gwybodaeth sy'n berthnasol i'ch gwaith
  5. Safonau gwasanaeth cwsmeriaid a gweithredol eich sefydliad, gan gynnwys delio gyda chwynion
  6. Pwysigrwydd esbonio wrth ganolwr eich cleient derfyn eich atebolrwydd cyfreithiol ynghylch unrhyw gyngor a roddwyd, a hefyd, yng nghyswllt eu cleient, unrhyw ddibyniaeth a roddwyd ar y cyngor a'r gwasanaethau a ddarparwyd.
  7. Sut mae dadansoddi a gwerthuso gwybodaeth a gyflenwir gan ganolwyr eraill
  8. Gofynion eich sefydliad ar gyfer gwneud a chofnodi argymhellion i ganolwyr eraill
  9. Y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cynnal cyfrinachedd gwybodaeth
  10. Terfynau eich awdurdod
  11. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cysylltu ag yswirwyr
  12. Yr wybodaeth a'r ffeithiau pwysig ddylai gael eu cyflenwi gan ganolwyr eraill
  13. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn gwerthuso sefyllfaoedd a gwybodaeth yn effeithiol ac yn gwneud penderfyniadau priodol
  2. Rydych yn annog y canolwr arall i ofyn cwestiynau a cheisio eglurhad
  3. Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac er lles pennaf y canolwr arall a'u cwsmer
  4. Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
  5. Rydych yn mabwysiadu agwedd ymchwilgar i gasglu manylion gofynnol sy'n hanfodol i'ch gwaith

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPGI17

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Hawliad yswiriant; polisi yswiriant; polisïau; hawliad; hawlydd; setliad; wedi'i yswirio; heb ei yswirio; hysbysiad