Cydymffurfio â rheoliadau yn eich amgylchedd gwasanaethau ariannol

URN: FSPFCC04
Sectorau Busnes (Suites): Cymwyseddau Craidd Gwasanaethau Ariannol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio oddi mewn i amgylchedd rheoliadol y diwydiant gwasanaethau ariannol. Mae rhaid i'r mwyafrif o sefydliadau ym maes gwasanaethau ariannol weithredu oddi mewn i reoliadau penodol. Rhaid i'r rhai sy'n gweithio yn yr amgylchedd hwn gyflawni eu rôl gan gydymffurfio â'r rheoliadau hyn. I gyflawni'r uned hon, rhaid i chi wybod am y rheoliadau sy'n effeithio ar eich rôl, a gofalu eich bod yn cydymffurfio â nhw. Byddwch yn nodi ac yn cywiro unrhyw fethiannau i gydymffurfio, ac yn adrodd amdanynt yn ôl y galw. Byddwch hefyd yn sicrhau eich bod yn cynnal eich cymhwysedd o fewn eich rôl.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Nodi gwybodaeth reoleiddio berthnasol a gwerthuso effaith
    hyn ar eich rôl
  2. Gwirio eich bod yn gweithio oddi mewn i'r fframwaith rheoliadol sy'n briodol ar gyfer rôl eich swydd, a'ch bod yn cydymffurfio â gofynion rheoliadol
  3. Dangos sut mae ymateb i unrhyw fethiannau i gydymffurfio â gofynion rheoliadol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  4. Ymateb i newidiadau ym mholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
    sy'n deillio o ofynion rheoliadol
  5. Sicrhau bod gennych chi'r wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau sy'n effeithio ar rôl eich swydd, yn unol â gofynion rheoliadol
  6. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol, a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Sut mae dysgu am y gofynion rheoliadol perthnasol sy'n effeithio ar eich rôl
  2. Gofynion cytunedig eich swydd, gan gynnwys terfynau eich cyfrifoldebau
  3. Polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion rheoliadol
  4. Wrth bwy dylech chi ofyn os bydd arnoch angen eglurhad ar y gofynion rheoliadol
  5. Sut mae adnabod achosion o ddiffyg cydymffurfio, a chanlyniadau diffyg cydymffurfio i chi, eich sefydliad a'ch cwsmeriaid
  6. Sut mae ymateb i unrhyw fethiannau i gydymffurfio â gofynion rheoliadol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Y gweithdrefnau i'w dilyn os nad ydych yn cydymffurfio â gofynion rheoliadol
  8. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn
    effeithlon ac yn foesegol

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPFCC04

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Hunan-ddatblygiad; amcanion gwaith; gwaith tîm; rôl gwaith; amcanion; perthnasoedd gwaith; cyfathrebu; cydweithwyr; rheoliadol; polisi; gweithdrefn; cydymffurfio; diffyg cydymffurfio