Monitro pobl yn ystod gwaith ymbelydredd

URN: COGN228
Sectorau Busnes (Suites): Diogelu rhag Ymbelydredd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 30 Maw 2008

Trosolwg

Prif ganlyniad y gweithgaredd hwn yw monitro cysylltiad pobl ag ymbelydredd
yn ystod gwaith penodol.

Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys cael gwybodaeth am y gwaith sy’n cael ei wneud, a lefel y cysylltiad posibl ag ymbelydredd; monitro’r dosau ymbelydredd a gaiff gweithwyr; canfod unrhyw broblemau, ac awgrymu gwelliannau.

Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o gael ei wneud gan rywun sy’n gweithio mewn amgylchedd lle mae diogelu rhag ymbelydredd yn bwysig.

Mae’r uned hon yn rhoi sylw i’r canlynol:

1 Monitro pobl yn ystod gwaith ymbelydredd

Yn ystod y gwaith hwn, rhaid i chi ystyried arferion gweithio diogel, gweithdrefnau a gofynion gweithredol perthnasol y man gwaith FEL Y MAEN NHW’N BERTHNASOL I CHI.

Fersiwn Flaenorol:

Addaswyd o Uned N228 y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Diogelu rhag Ymbelydredd – fersiwn Chwefror 2006.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 cael gwybodaeth am y math o waith ymbelydredd sy’n cael ei wneud
P2 dewis cyfarpar addas ar gyfer monitro ymbelydredd i fonitro’r cysylltiad ag                      ymbelydredd ymysg y bobl sy’n gwneud y gwaith
P3 monitro personél yn ystod neu ar ôl y gwaith yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
P4 monitro’r dos a gaiff pobl sy’n gwneud y gwaith ymbelydredd, drwy ddefnyddio’r systemau priodol
P5 sicrhau bod unrhyw broblemau a ddatgelir wrth fonitro ymbelydredd yn cael eu nodi, a bod camau priodol yn cael eu cymryd yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
P6 nodi unrhyw welliannau posibl i’r ffordd y gellid monitro personél
P7 gofyn am gyngor i ddelio ag unrhyw ofynion sydd y tu hwnt i’ch gallu technegol eich hun
P8 cydymffurfio â’r holl reoliadau a safonau perthnasol, a chofnodi pob cam gweithredu a chanlyniad perthnasol yn y systemau gwybodaeth priodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 asesiadau dosimetreg
K2 materion a gofynion iechyd a diogelwch
K3 y diwydiant niwclear: mathau o gyfleusterau, deunyddiau a phrosesau
K4 strwythurau a gweithdrefnau'r sefydliad
K5 cyfarpar monitro ymbelydredd
K6 materion diogelu rhag ymbelydredd
K7 systemau diogelu rhag ymbelydredd
K8 ymbelydredd: mathau, ffynonellau a pheryglon
K9 ffynonellau o wybodaeth ddibynadwy am ddiogelu rhag ymbelydredd
K10 safonau, rheoliadau a gofynion statudol, gan gynnwys rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2010

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Cogent

URN gwreiddiol

N228

Galwedigaethau Perthnasol

Technoleg gweithgynhyrchu a pheirianneg, Gweithwyr Proffesiynol ym maes Peirianneg

Cod SOC

3111

Geiriau Allweddol

Dos, Dosimetreg, iechyd, ïoneiddio, niwclear, radiolegol, diogelwch, peryglon