Gosod goleuadau ar gyfer effeithiau gweledol

URN: SKSVFX9
Sectorau Busnes (Cyfresi): Effeithiau Gweledol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’ch gallu i oleuo cymeriadau, celfi ac amgylcheddau ar gyfer Effeithiau Gweledol mewn ffordd sy’n creu’r naws ac arddull priodol ar gyfer y cynhyrchiad.

Mae meddu ar y golau cywir yn broses ailadroddol y mae angen gweithio arno drwy gydol y broses gynhyrchu.

Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sydd ynghlwm â goleuo a gellir ei ddefnyddio gan Artistiaid Effeithiau Gweledol ac Artistiaid Iau Effeithiau Gweledol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dadansoddi briffiau, sgriptiau, cyfeirnodau gweledol, byrddau stori, allweddi lliw a pharamedrau technegol a chynhyrchu i bennu beth sydd ei angen i sicrhau bod y goleuadau ymarferol a’r goleuadau rhithiol yn cyfateb yn briodol
  2. meddwl am syniadau ynghylch sut i ddefnyddio goleuadau i fodloni’r briff dylunio ar gyfer pob saethiad a chadarnhau’r plot goleuo
  3. gosod goleuadau i fodloni’r gofynion creadigol, y paramedrau technegol ac amserlenni’r cynhyrchiad
  4. goleuo cymeriadau, celfi ac amgylcheddau i greu’r awyrgylch a’r effeithiau gofynnol i wella’r naratif
  5. creu gwiriadau goleuo i wirio bod y goleuadau’n bodloni’r gofynion
  6. addasu’r goleuadau yn unol ag anghenion y saethiadau a’r golygfeydd penodol drwy gydol y cynhyrchiad i fodloni’r gofynion cynhyrchu ac esthetig
  7. ymateb i adborth gan bobl eraill a gofynion newidiol a chyflawni gwaith mireinio fel sy’n ofynnol
  8. gwirio a chadarnhau y byddai’r gweithgarwch goleuo yn arwain at rendro effeithiol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. cynllun, arddull a gwedd y cynhyrchiad a sut mae goleuadau’n effeithio ar y paramedrau technegol, megis cymhareb agwedd, gofod lliw a ffurf y canlyniadau terfynol
  2. y cyfarpar i ffilmio delweddau
  3. damcaniaeth a thechnegau a chyfyngiadau cyfarpar camera go iawn
  4. damcaniaeth a thechnegau goleuo, goleuo byd go iawn, ffiseg a mathemateg fector sy’n ddigonol i gyflawni’r rôl
  5. damcaniaeth lliw a sut mae goleuadau’n gweithio mewn ffilmiau, gyda phaentiadau a gyda ffotograffiaeth
  6. sut i osod goleuadau creadigol a chyfateb goleuadau go iawn o’r plât
  7. sut i greu gwahanol awyrgylch ac effeithiau megis adegau o’r dydd a thymhorau drwy oleuo ac onglau camera a sut caiff ei ddefnyddio yng nghyd-destun y stori a’r cymeriadau
  8. pwysigrwydd golau, cysgod a dwysedd, effaith y rhain ar liw a sut mae cysgodion yn ymddwyn ac y gellir eu defnyddio
  9. y ffordd y mae deunyddiau’n ymateb i olau gan gynnwys sut mae arlliwio ac adlewyrchiadau’n ymddwyn a sut y gellir eu defnyddio
  10. effeithiau safleoedd camera, onglau, mathau o lensys a goleuadau mewn perthynas â chymeriadau, celfi ac amgylcheddau
  11. sut i fanteisio i’r eithaf ar feddalwedd safon diwydiant sy’n ymwneud â goleuo
  12. gofynion y pecyn rendro a ddefnyddir
  13. y broses gynhyrchu gyflawn ac effaith eich gwaith chi ar bobl eraill ynghlwm â'r gwaith
  14. sut i gydweithio gyda chyfansoddwyr i gyflenwi pasau priodol a dwyn i ystyriaeth agweddau ychwanegol
  15. sut i ddefnyddio sgriptio i symleiddio tasgau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Screenskills

URN gwreiddiol

SKSVFX9

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr Technegol Effeithiau Gweledol, Artist Effeithiau Gweledol, Artist Iau Effeithiau Gweledol, Cynhyrchydd Effeithiau Gweledol, Goruchwyliwr Effeithiau Gweledol, Goruchwyliwr Cynorthwyol Effeithiau Gweledol, Cyfarwyddwr Technegol Cynorthwyol Effeithiau Gweledol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

effeithiau gweledol; Effeithiau Gweledol; goleuo; cynhyrchiad; gofynion y cynhyrchiad; camera; goleuo ymarferol; goleuo rhithiol; arlliwio; adlewyrchiadau; rendro;