Ail-greu a thracio symudiadau camera gweithredu byw mewn 3D

URN: SKSVFX8
Sectorau Busnes (Cyfresi): Effeithiau Gweledol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud ag ail-greu’r symudiadau camera a ddefnyddiwyd i ffilmio’r plât cefndir. Mae’n ymwneud â gweithio gyda geometreg unioni sylfaenol a data golygfeydd cysylltiedig sydd wedi’i gaffael ar y set er mwyn sicrhau bod y cynnwys yn cyfateb yn effeithiol gyda golygfa.

Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sydd ynghlwm â thracio symudiadau a thracio 3D ac mae hefyd yn ymdrin â datrysiadau tracio amser real.

Gallai’r safon hon gael ei defnyddio gan Artistiaid Effeithiau Gweledol ac Artistiaid Iau Effeithiau Gweledol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dehongli gwybodaeth o blatiau cefndir, cynlluniau llawr a data camera i adnabod gofynion tracio symudiadau a thracio 3d
  2. graddnodi pob lens i adnabod a chael gwared ar afluniadau
  3. llunio fectorau i bennu planau mynediad o fewn y plât
  4. sefydlu golygfeydd tracio sy’n cydymffurfio gyda data camera ar y set
  5. defnyddio cyfarpar tracio cynhyrchu’r diwydiant i ddehongli a thracio agweddau rhyngweithiol ar y prosiect.
  6. sicrhau bod y pwyntiau tracio yn glynu at y pwyntiau priodol ar blatiau ar gyfer hyd y saethiad
  7. gwirio am wallau a mireinio yn ôl yr angen
  8. alinio symudiad a safle camera i wella tracio symudiadau a thracio 3D
  9. rendro’r dilyniant tracio i’w adolygu
  10. rhannu gwaith gyda phobl eraill yn unol â llinellau amser y cynhyrchiad a defnyddio adborth i adolygu gwaith tracio pan fo angen
  11. trosi platiau i ffurfiau amrywiol i’w defnyddio gyda meddalwedd mewnol
  12. dilyn y broses ar gyfer cynllunio, sefydlu a graddnodi datrysiadau tracio amser real

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut a ble i gaffael cynlluniau llawr a data camera cyfredol
  2. y gwahaniaethau rhwng symudiad camera paralacs, nodol, di-nodol a symudiad cymysg a sut mae paralacs yn helpu meddalwedd tracio camerâu i gyfrifo trac cywir
  3. sut i ddefnyddio meddalwedd tracio
  4. y datrysiadau tracio amser real
  5. sut i greu a defnyddio gridiau lensys aflunio
  6. egwyddorion geometreg unioni a sut i’w ddefnyddio ar gyfer tracio symudiadau a thracio 3D
  7. sut i fesur ac ail-greu hyd ffocws
  8. sut i adnabod a chywiro gwallau sy’n ymwneud â thracio
  9. sut i loywi geometreg
  10. pwysigrwydd gweithio’n unol â llinellau amser a cherrig milltir y cynhyrchiad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Screenskills

URN gwreiddiol

SKSVFX8

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr Technegol Effeithiau Gweledol, Artist Effeithiau Gweledol, Artist Iau Effeithiau Gweledol, Cynhyrchydd Effeithiau Gweledol, Goruchwyliwr Effeithiau Gweledol, Goruchwyliwr Cynorthwyol Effeithiau Gweledol, Cyfarwyddwr Technegol Cynorthwyol Effeithiau Gweledol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ail-greu; tracio symudiad; camera; tracio; platiau; data camera; lens; graddnodi; 3D; Effeithiau Gweledol; effeithiau gweledol;