Creu rigiau animeiddio
URN: SKSVFX6
Sectorau Busnes (Cyfresi): Effeithiau Gweledol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chreu rigiau effeithlon, hawdd eu defnyddio ac ymatebol ar gyfer cymeriadau, creaduriaid, celfi, cerbydau neu amgylcheddau sydd wedi’u hanimeiddio.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd ynghlwm â rigio ar gyfer Animeiddio yn ymwneud ag Effeithiau Gweledol a gallai fod yn berthnasol ar gyfer Animeiddwyr Iau a Chyfarwyddwyr Technegol Cynorthwyol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau beth sydd angen i chi ei wneud i fodloni’r briff
- creu systemau a strwythurau i ysgogi, rheoli ac anffurfio asedau mewn ffyrdd sy’n ail-greu’r symudiadau, ymddygiad a’r nodweddion dymunol i fodloni’r briff
- sicrhau bod y rigiau’n hawdd eu defnyddio ac yn ymatebol ac y byddan nhw’n gweithio ar y sgrin i fodloni gofynion y cynhyrchiad
- gwirio bod modd defnyddio’r rigiau ar gyfer adborth amser real
- defnyddio meddalwedd i ganfod datrysiadau ar gyfer problemau rigio cymhleth pan fo’n ofynnol
- creu animeiddiadau prototeip fel sy’n briodol er mwyn gwirio cywirdeb unrhyw symudiadau gaiff eu rhoi ar waith
- defnyddio sgriptio i awtomeiddio rigiau pan fo’n briodol
- sicrhau bod asedau sydd wedi’u rigio yn anffurfio’n gywir o’r holl safleoedd camera ac onglau sy’n ofynnol
- creu adnoddau i helpu animeiddwyr i animeiddio’n fwy effeithlon
- rhannu gwaith gyda phobl eraill ar adeg briodol a defnyddio adborth i adolygu rigiau pan fo’n ofynnol
- sicrhau caiff gwaith ei gyflawni ar amser a’i fod yn bodloni’r allbynnau gofynnol
- cadw a chyflwyno gwaith i bobl eraill yn unol â’r prosesau a’r gweithdrefnau ar gyfer y swydd a’r sefydliad rydych yn gweithio iddi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddehongli’r briff, y gofynion technegol a’r paramedrau cynhyrchu
- y nodweddion symudiad y mae angen i rigiau eu cyflawni i fodloni’r briff
- adborth amser real a’i bwysigrwydd wrth ddefnyddio Cynhyrchu Rhithiol
- pwysigrwydd caffael setiau data
- ble i ymchwilio gwybodaeth am asedau ac yn enwedig, symudiad creaduriaid neu gymeriadau rydych chi’n anghyfarwydd â nhw
- sut mae bodau dynol ac anifeiliaid yn symud gan gynnwys sgerbydau, ynganiad cymalau, trefniadau cylchdroi ac anffurfiad
- technegau digroeni a pheintio pwysau croen
- y ffiseg o ran mudiant a gwrthiant a sut mae hynny’n berthnasol i anatomeg a mecaneg
- diben a defnydd colynnau
- diben a defnydd anffurfwyr
- sut mae animeiddwyr yn animeiddio ac yn defnyddio rigiau
- sut i weithio gyda pholygonau, ‘nurbs’, arwynebau is-rannol a chromliniau
- diben allweddau ysgogi a sut i’w defnyddio
- hierarchaeth gwrthrychau a nodau
- sut i gysylltu nodau gyda’i gilydd i ysgogi eu nodweddion
- effaith lleoliad fertig a’r lefel o fanylder ar y model a’i rig
- sut y gall creu rigio yn awtomataidd drwy ddefnyddio sgriptio wneud gwaith yn fwy effeithlon
- sut i ddefnyddio meddalwedd safon diwydiant i ddatrys problemau rigio
- gwerth ceisio adborth cynnar
- effeithlonrwydd y defnydd o ddata
- arferion enwi ffeiliau a rheoli data ar gyfer y swydd neu’r sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Screenskills
URN gwreiddiol
SKSVFX6
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfarwyddwr Technegol Effeithiau Gweledol, Artist Effeithiau Gweledol, Artist Iau Effeithiau Gweledol, Cynhyrchydd Effeithiau Gweledol, Goruchwyliwr Effeithiau Gweledol, Goruchwyliwr Cynorthwyol Effeithiau Gweledol, Cyfarwyddwr Technegol Cynorthwyol Effeithiau Gweledol
Cod SOC
Geiriau Allweddol
rigio; effeithiau gweledol; Effeithiau Gweledol; animeiddio; sgerbwd; symudiad; asedau; briff; allbynnau; cymeriadau; creaduriaid; gofynion y cynhyrchiad; cynhyrchiad;