Casglu data i’w ddefnyddio ar gyfer effeithiau gweledol

URN: SKSVFX2
Sectorau Busnes (Cyfresi): Effeithiau Gweledol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chaffael y data sydd ei angen fel deunydd cyfeirio gan artistiaid Effeithiau Gweledol. Gallai’r data fod ar sawl ffurf gan gynnwys ffotograffau agos o eitemau bach neu bobl, ffotograffau o bell o amgylcheddau, camerâu tyst, darlleniadau theodolit, sganiau Lidar neu Seiber a data byw.

Caiff hyn ei gyflawni’n fwyaf tebygol gan y Cyfarwyddwr, Goruchwyliwr neu Gynhyrchydd Technegol Cynorthwyol Effeithiau Gweledol sy’n gweithio ar ran y cyfleuster neu’r darparwr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adnabod y data cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu sydd angen ei gasglu
  2. cydweithio gydag adrannau eraill i sicrhau caiff y data maen nhw’n gyfrifol amdano ei gofnodi
  3. casglu a gwirio data sy’n bodoli mewn adrannau eraill
  4. gofalu eich bod ar y set ar amseroedd priodol er mwyn casglu’r data sydd ei angen
  5. rhannu eich gofynion casglu data gyda’r staff ar y set er mwyn sicrhau bod cyfle i chi gasglu’r data cyfeirio sydd ei angen arnoch
  6. bod yn atebol mewn cyfarfodydd cyn y cynhyrchiad, ar y set ac yn ystod saethu plât, sganio, cyfeirio a/neu gaffael er mwyn gallu mynd ati i gasglu data
  7. cofnodi gwybodaeth ynghylch sut cafodd y data ei gasglu
  8. cyfathrebu gydag aelodau o’r tîm Effeithiau Gweledol ac ymateb i geisiadau ac adborth sy’n ymwneud â chasglu data
  9. cyflawni gwaith yn unol ag amserlenni a cherrig milltir y cynhyrchiad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. i bwy mae’r data a sut byddan nhw’n ei ddefnyddio
  2. goblygiadau peidio â chofnodi data yn gywir ar gyfer gwaith Effeithiau Gweledol
  3. y data o’r adeg cyn-cynhyrchu ac sydd wedi’i gynhyrchu yn ystod y cynhyrchiad a’r angen i’w wirio o gymharu â’r saethiad gwirioneddol
  4. y data sydd ei angen megis data Effeithiau Gweledol ar y set, Ystod Ddeinamig Uchel (HDR), Ystod Ddeinamig Safonol (SDR)
  5. cynghori, goruchwylio a chasglu gwybodaeth am bob agwedd o Effeithiau Gweledol
  6. y data ffisegol a rhithiol sydd ei angen ar gyfer modelu, gweadeddu, amgylchedd, datblygu gwedd, goleuo, symud cyfatebol a pheintio
  7. sut i ddehongli amserlenni cynhyrchu i ganfod yr amseroedd priodol i fod ar y set
  8. sut i gymryd mesuriadau gyda llaw a phryd mae’n briodol i wneud hynny
  9. y manteision,yr anfanteision a’r broses ar gyfer tynnu ffotograffau agos a phryd i ddefnyddio’r rhain
  10. y manteision, anfanteision a’r broses ar gyfer tynnu ffotograffau ystod ddeinamig uchel a phryd i ddefnyddio’r rhain
  11. manteision ac anfanteision sganiau LIDAR a phryd i ddefnyddio’r rhain
  12. manteision ac anfanteision sganiau Seiber a phryd i ddefnyddio’r rhain
  13. manteision ac anfanteision arolygon theodolit a phryd i ddefnyddio’r rhain
  14. pa wybodaeth sydd angen ei chofnodi i ategu’r data sydd wedi’i gasglu a pham ei bod yn bwysig
  15. rolau, cyfrifoldebau a’r cadwyni awdurdod

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Screenskills

URN gwreiddiol

SKSVFX2

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr Technegol Effeithiau Gweledol, Artist Effeithiau Gweledol, Artist Iau Effeithiau Gweledol, Cynhyrchydd Effeithiau Gweledol, Goruchwyliwr Effeithiau Gweledol, Goruchwyliwr Cynorthwyol Effeithiau Gweledol, Cyfarwyddwr Technegol Cynorthwyol Effeithiau Gweledol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

data; casglu; Effeithiau Gweledol; effeithiau gweledol; data; amserlenni; cynhyrchiad rhithiol; cynhyrchiad;