Paratoi a rigio cyfarpar goleuo ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi a rigio’r cyfarpar goleuo ar gyfer cynhyrchiad a sicrhau ei fod yn barod ar gyfer dwyn i ffocws a phlotio. Mae’n ymdrin â’ch gallu chi i rigio cyfarpar ac ategolion goleuo. Mae’n rhaid ichi gydosod y cyfarpar a’r ategolion yn gywir.
Mae angen i chi rigio’r cyfarpar ac ategolion goleuo yn ddiogel ac yn unol â’r cynllun goleuo. Mae’n rhaid i chi labelu popeth yn eglur ac yn olaf gwirio’r cyfarpar i ofalu ei fod yn gweithio’n drydanol.
Mae hefyd yn ymdrin â’ch gallu i drefnu ceblau a chadarnhau bod y gosodiad yn barod ar gyfer dwyn i ffocws a phlotio. Mae’n rhaid i chi allu defnyddio’r cyfarpar yn ddiogel a’i gysylltu i’r ffynonellau trydanol cywir a diogel. Mae’n rhaid i chi lwybro, gosod a gwisgo ceblau gan wirio’r cyfarpar trwy’r cylchedau rheoli ac ymdrin ag unrhyw namau.
Mae’r safon hon ar gyfer technegwyr goleuo sydd ynghlwm â pharatoi a rigio cyfarpar goleuo ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cydosod y cyfarpar a’r ategolion goleuo sydd eu hangen ar gyfer rigiau goleuo
- dewis safleoedd rigio yn unol â’r cynlluniau goleuo
- rigio’r cyfarpar a’r ategolion goleuo yn unol â’r gofynion diogelwch a dwyn i ffocws
- labelu’r holl gyfarpar a’r ategolion goleuo i fodloni gofynion y cynlluniau goleuo
- cyflawni gwiriadau trydanol cyn gosod i gadarnhau bod y cyfarpar goleuo yn gweithio
- dilyn gweithdrefnau cymeradwy i ymdrin â namau wedi’u nodi gyda’r cyfarpar goleuo
- cysylltu’r cyfarpar goleuo i ffynonellau trydanol diogelwch a chywir yn unol â gofynion y cynlluniau goleuo
- llwybro, gosod a thacluso ceblau er mwyn lleihau’r risg o ddifrod
- gosod dyfeisiau sydd wedi’u cynnal gan ddata yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr
- gwirio’r cyfarpar goleuo drwy gylchedau rheoli yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
- adrodd am namau sydd wedi’u nodi i’r bobl berthnasol
- gweithio yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer a safonau’r diwydiant
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gydosod y cyfarpar a’r ategolion goleuo yn unol â gofynion y cynllun
- y llwythi gwaith diogel
- pam mae’n bwysig gwirio elfennau unigol cyn rigio, yn enwedig wrth weithio ar uchder
- sut i rigio a gosod cyfarpar goleuo a phwysigrwydd rigio cywir ar gyfer dwyn i ffocws
- pwysigrwydd labelu eglur a sut i gyflawni hyn
- pam mae’n bwysig gwirio cyfarpar goleuo cyn codi a gostwng goleuadau a sut i wneud hynny’n ddiogel
- diagnosteg namau a’r gweithdrefnau ar gyfer mynd i’r afael â namau
- y ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer ar gyfer cydosod a rigio cyfarpar goleuo
- y ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer ar gyfer defnyddio cyfarpar mynediad a gweithio ar uchder yn ddiogel
- yr arfer diogel ar gyfer cysylltu’r cyfarpar goleuo, gan gynnwys yr amgylchedd, defnydd o geblau maint cywir a phlygiau ar gyfer y llwyth
- y risgiau sydd ynghlwm â defnyddio cyflenwadau tri cham
- sut i gysylltu gyda chyflenwadau un a thri cham gan gydymffurfio â’r safonau rheoleiddiol
- y rhesymau dros ddaearu strwythurau metel, golygfeydd a chydrannau eraill a phryd i wneud hyn
- sut i gysylltu’r cyfarpar goleuo i fodloni gofynion y cynlluniau goleuo a’r defnydd o’r prosesau ‘cysylltu gyda cheblau’ a ‘chysylltu’n rhithiol’
- sut i wirio cyflenwadau trydan dros dro ac asesu eu haddasrwydd
- y namau a allai ddigwydd unwaith y mae’r cyfarpar wedi’u cysylltu â chylchedau rheoli a sut i fynd i’r afael â’r rhain