Paratoi i rigio a dad-rigio ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi a chydosod cydrannau ar gyfer rigio a dad-rigio. Mae hyn yn ymwneud â chadarnhau dealltwriaeth o ddyluniadau rigio a pharatoi a marcio gwaith rigio o gynlluniau’n ddiogel. Mae hefyd yn ymwneud â dad-rigio yn ddiogel ar ddiwedd y cynhyrchiad.
Mae’r rigio y cyfeirir ato mewn cynyrchiadau theatr a byw yn wahanol ac ar wahân i rigio adloniant. Mewn cynyrchiadau theatr a byw mae rigio yn cyfeirio at osod cyfarpar cynhyrchu technegol, golygfeydd a gosod tâp masgio ar gyfarpar rigio neu gydosod agweddau golygfaol neu dechnegol ar gyfer cynhyrchiad.
Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â gwaith rigio a dad-rigio ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi’r gofynion rigio a llwythi i’w gosod ar bwyntiau rigio neu bwyntiau cynnal yn unol â’r cynlluniau rigio
- nodi’r peryglon a allai olygu bod cynlluniau’n anodd i’w cyflawni, gan awgrymu dewisiadau amgen i’r bobl briodol.
- nodi’r cyfarpar a’r cydrannau rigio sy’n cydymffurfio gyda’r capasiti llwyth gofynnol sydd wedi’u pennu mewn cynlluniau rigio
- pennu bod strwythurau a gosodiadau cynnal yn addas, gan dderbyn cyngor gan bobl awdurdodedig pan fo angen
- gwirio bod caniatâd ar gyfer llwytho wedi’i gaffael cyn bwrw iddi i godi cyfarpar
- defnyddio strwythurau modwlar yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- nodi’r pwyntiau rigio neu bwyntiau cynnal cywir ar gyfer rigio a dad-rigio o gynlluniau, gan gael cymeradwyaeth pan fo angen
- sicrhau bod mesurau rheoli asesu risg ar waith
- dewis cyfarpar a dillad diogelu personol (PPE) i gyflawni’r gwaith
- cyfathrebu’r bwriadau rigio, y peryglon cysylltiedig a phan fo angen gofal arbennig i’r bobl yr effeithir arnyn nhw
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddehongli cynlluniau rigio a datganiadau dulliau a gweithio gan gadw at eu paramedrau
- egwyddorion graddio o gynlluniau rigio a marcio arferion
- y dulliau gosod
- y materion iechyd a diogelwch i’w hystyried pan fyddwch yn dilyn cyfarwyddyd neu ddatganiadau dulliau
- y ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer sy’n ymwneud â rigio ac
- yr ystod o arferion rigio a gweithio diogel a ddefnyddir mewn cynyrchiadau theatr a byw
- yr ystod o gyfarpar ac ategolion rigio a chodi a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer rigio, eu manteision, anfanteision, anghysondebau a sut maen nhw’n cael eu camddefnyddio
- sut i nodi capasiti llwyth cyfarpar codi
- technegau a gofynion trin a chodi a symud â llaw yn ddiogel
- y cyfarpar a’r dillad diogelu personol (PPE) i’w wisgo ar gyfer gwahanol dasgau rigio a sut i’w gwirio cyn eu defnyddio