Canfod a chaffael cyfarpar sain ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw

URN: SKSTTL7
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynyrchiadau Theatr a Byw – Technegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chaffael cyfarpar sain. Bydd angen i chi gytuno pa eitemau a chyfarpar megis meicroffonau, seinchwyddwyr, consolau cymysgu, cyfarpar rheoli a cheblau sydd eu hangen ar gyfer y cynhyrchiad a chadarnhau’r gofynion creadigol a’r cyfyngiadau ymarferol y mae’n rhaid iddyn nhw eu bodloni.

Bydd angen i chi hefyd gynllunio a fyddwch chi’n eu llogi, eu prynu, eu creu neu eu benthyca a thrin a thrafod er mwyn cadw at y gyllideb. 

At hyn, bydd angen i chi wirio unrhyw gyfarpar byddwch chi’n eu derbyn yn erbyn y manylebau.  

Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â chaffael cyfarpar sain ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. llunio manylebau ar gyfer cyfarpar a nwyddau traul sy’n bodloni gofynion y dyluniadau sain
  2. caffael gwybodaeth ar ddatblygiadau’r diwydiant sy’n ymwneud â chyfarpar a’i alluoedd  
  3. dewis y cyfarpar mwyaf priodol i fodloni gofynion y cynhyrchiad, gan ystyried agweddau technegol ac ariannol ac a yw’r cyfarpar ar gael
  4. gwirio bod dewisiadau a safleoedd offer sydd wedi’u cynllunio yn caniatáu llwyfannu cynyrchiadau
  5. nodi ffynonellau o gyfarpar yn ôl manylebau, yr amserlen a’r gyllideb
  6. darparu manylebau cyflawn ar gyfer systemau i gyflenwyr gan gynnwys unrhyw ofynion arbennig
  7. caffael dyfynbrisiau ac asesu gwybodaeth ynghylch cyflenwyr posibl yn erbyn meini prawf sydd wedi’i gytuno eisoes
  8. cytuno ar delerau ac amodau ar gyfer cyflenwi cyfarpar ac eitemau gyda chyflenwyr sydd yn unol â gofynion y cynhyrchiad a’r gyllideb
  9. cydymffurfio gyda’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer caffael, derbyn a storio cyfarpar
  10. gwirio bod y cyfarpar yn bodloni’r manylebau y cytunwyd arnyn nhw
  11. ymdrin â phroblemau gyda chyflenwi neu gyfarpar yn unol â phrosesau’r cynhyrchiad
  12. monitro’r gwariant a defnydd o’r gyllideb yn unol â’r gweithdrefnau sefydliadol, gan gyflwyno gwybodaeth i’r bobl briodol pan fo angen
  13. gweithio gan gadw at gyfyngiadau’r gyllideb a mynd i’r afael â gorwariant yn y gyllideb

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y pwysigrwydd o feddu ar gopi cyfredol o’r cynllun sain a sut i ddehongli hyn
  2. sut i gadarnhau’r gofynion creadigol a’r cyfyngiadau ymarferol gan gynnwys cynaliadwyedd
  3. y mathau o gyfarpar a’i ddefnyddiau gan gynnwys meicroffonau, seinchwyddwyr, uchelseinyddion, consolau cymysgu a cheblau
  4. y ffynonellau gwybodaeth ar gyfarpar newydd sydd ar gael
  5. manteision ac anfanteision llogi, prynu, gwneud neu fenthyca cyfarpar sydd ei angen ar gyfer dyluniadau sain
  6. ble i gaffael gwybodaeth am ffynonellau cyflenwi, gan gynnwys cwmnïau llogi
  7. ble i gaffael gwybodaeth am bolisïau llogwyr ar eitemau sbâr
  8. pwysigrwydd cytuno ar fanylebau pendant ar gyfer cyfarpar
  9. y dogfennau sydd eu hangen i gyflenwi cyfarpar a nwyddau traul
  10. sut i drin a thrafod telerau cost-effeithiol
  11. y gyllideb sydd ar gael a sut i fonitro’i defnydd
  12. y rheoliadau iechyd a diogelwch ynghylch trydan, sylweddau peryglus a defnyddio cyfarpar a phryd i’w gorfodi
  13. y ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer ar gyfer caffael, derbyn a storio cyfarpar
  14. pwysigrwydd gwirio eitemau sydd wedi’u danfon o’i gymharu â’r hyn sydd wedi’i archebu a sut i wneud hynny
  15. pwysigrwydd gwirio bod y cyfarpar yn gweithio pan fyddwch yn ei dderbyn
  16. y problemau a allai godi gyda chaffael cyfarpar a sut i fynd i’r afael â’r rhain

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

CCSTTL16

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd Cynorthwyol, Technegydd, Goruchwyliwr Technegol, Rheolwr Technegol, Prif Dechnegydd, Technegydd Theatr, Technegydd Llwyfan, Technegydd Cynhyrchiad, Criw Technegydd, Technegydd Goleuo, Technegydd Clyweledol, Technegydd Sain

Cod SOC


Geiriau Allweddol

canfod; caffael; cyfarpar sain; cynyrchiadau theatr a byw;