Caffael cyfarpar goleuo, delweddau ac effeithiau a nwyddau traul ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chaffael cyfarpar goleuo, delweddau neu effeithiau a nwyddau traul. Bydd angen i chi gytuno ar ba oleuadau, delweddau ac effeithiau sydd eu hangen. Bydd angen i chi hefyd gadarnhau’r gofynion creadigol a’r cyfyngiadau ymarferol y mae’n rhaid iddyn nhw eu bodloni gydag aelodau priodol o’r timau creadigol a thechnegol.
Mae’n ymwneud â chynllunio sut bydd yr eitemau angenrheidiol yn cael eu caffael a thrin a thrafod o fewn y gyllideb. Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion cywir o’r holl eitemau rydych chi’n eu llogi, prynu a’u benthyca.
Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â chaffael cyfarpar goleuo neu effeithiau a nwyddau traul a gallai fod yn berthnasol i’r rolau technegydd a Phennaeth Adran mewn cynyrchiadau theatr a byw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- llunio manylebau a meini prawf ar gyfer cyfarpar a nwyddau traul yn unol â gofynion y cynlluniau ar gyfer goleuo ac effeithiau
- caffael gwybodaeth ar ddatblygiadau’r diwydiant sy’n ymwneud â chyfarpar a’i galluoedd
- nodi’r nifer a’r mathau o eitemau sydd eu hangen, gan ystyried yr amserlenni a’r terfynau amser o ran dylunio a chynhyrchu
- nodi ffynonellau o gyfarpar a nwyddau traul yn ôl manylebau, yr amserlen a’r gyllideb
- cyflwyno a chytuno ar ddewisiadau amgen i wneuthurwyr penderfyniadau, pan fo costau’r opsiynau a ffafrir yn uwch na’r costau a ganiateir
- darparu manylebau cyflawn i gyflenwyr ar gyfer yr eitemau sydd i’w cyflenwi, gan gynnwys unrhyw ofynion arbennig
- cytuno ar delerau ac amodau ar gyfer cyflenwi cyfarpar ac eitemau gyda chyflenwyr sy’n unol â gofynion y cynhyrchiad a’r gyllideb
- sicrhau bod y trwyddedau, y caniatâd a’r cyfleusterau ar gyfer prynu, cludo, storio a defnyddio unrhyw ddeunyddiau peryglus ar waith
- cadw cofnodion o archebion a chyflenwadau yn unol â’r gweithdrefnau sefydliadol
- monitro ansawdd gwaith y cyflenwyr gan wirio bod y cyfarpar a’r nwyddau traul yn bodloni’r manylebau y cytunwyd arnyn nhw.
- cydymffurfio gyda’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer caffael, derbyn a storio cyfarpar a nwyddau traul
- monitro gwariant a defnydd o’r gyllideb yn unol â’r gweithdrefnau sefydliadol, gan gyflwyno gwybodaeth i’r bobl briodol pan fo angen, cadw cofnodion i fonitro gwariant ar ffurfiau cymeradwy,
- gweithio gan gadw at y gyllideb a gwybod sut i fynd i’r afael â gorwariant yn y gyllideb
- ymdrin â phroblemau gyda chyflenwadau neu gyfarpar yn unol â phrosesau’r cynhyrchiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y pwysigrwydd o feddu ar gopi cyfredol o’r cynllun goleuo, delweddau neu effeithiau a sut i ddehongli hyn
- priodweddau a nodweddion yr ystod o gyfarpar a nwyddau traul y gellir eu defnyddio i gyflawni dyluniadau goleuo gofynnol
- manteision a chyfyngiadau defnyddiau cyffredin a chyfuniadau o gyfarpar a nwyddau traul
- y ffynonellau gwybodaeth am gyfarpar newydd sydd ar gael
- y cyfarpar a’r nwyddau traul sydd eu hangen
- ble i gaffael gwybodaeth am y ffynonellau cyflenwi, gan gynnwys cwmnïau llogi
- ble i gaffael gwybodaeth am bolisïau llogwyr ar eitemau sbâr
- pwysigrwydd cytuno ar fanylebau pendant ar gyfer cyfarpar a nwyddau traul, a sut i wneud hynny
- y dogfennau sydd eu hangen ar gyfer cyflenwi cyfarpar a nwyddau traul
- y rheoliadau a’r gofynion sy’n berthnasol i’ch maes gwaith gan gynnwys cynaliadwyedd
- y cofnodion i’w cadw, a phwy sydd angen yr wybodaeth
- y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer caffael, derbyn a storio cyfarpar a nwyddau traul.
- pwysigrwydd gwirio eitemau sydd wedi’u danfon yn erbyn yr hyn sydd wedi’i archebu a gwirio bod y cyfarpar yn gweithio pan rydych yn ei dderbyn
- y problemau a allai godi gyda chaffael cyfarpar a sut i fynd i’r afael â’r rhain