Cynllunio’r broses llwytho, gosod a dadosod ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw
URN: SKSTTL5
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynyrchiadau Theatr a Byw – Technegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo:
2025
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynllunio’r prosesau llwytho, gosod a dadosod ar gyfer cynyrchiadau byw. Bydd angen i chi gynllunio sut i gyflawni’r gwaith, nodi a chaffael y cyfarpar a’r bobl sydd eu hangen, cyfarwyddo eraill am y drefn a’r dulliau i’w defnyddio a gwirio bod y gwaith yn cael ei gyflawni’n gywir, gan ddatrys problemau pan fo’n briodol.
Mae’r safon hon ar gyfer Penaethiaid Adran neu’r rheiny sy’n gyfrifol am sicrhau bod y prosesau llwytho, gosod a dadosod yn cael eu cynllunio ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwirio a chadarnhau bod cynlluniau’n bodloni gofynion y cynhyrchiad ac yn cydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
- monitro gweithgareddau yn erbyn cynlluniau gweithredu, gan gymryd camau unioni pan fo’n briodol
- cynnal cyfathrebu i nodi newidiadau sydd â goblygiadau ar gynlluniau gweithredu
- diwygio cynlluniau gweithredu i ganiatáu newidiadau, gan wirio cydymffurfiaeth gyda’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
- gwirio a chadarnhau bod newidiadau i gynlluniau gweithredu’n cael eu rhoi ar waith
- caffael gwybodaeth gan benaethiaid adran sy’n ymweld, i ganiatáu’r criw i gyflawni’r gwaith
- gwirio a chadarnhau bod y staff yn gweithio gan ddefnyddio amserlenni, plotiau a chynlluniau cyfredol a’u bod yn meddu ar y wybodaeth sydd ei hangen
- gwirio a chadarnhau cyflwr a diogelwch adnoddau’r cynhyrchiad
- gwirio a chadarnhau bod y trefniadau ar waith ar gyfer cynnal cofnodion, labelu a phacio cydrannau
- caffael manylion gan bobl berthnasol am eu gofynion llwytho a dadosod
- defnyddio gwybodaeth gyfredol i nodi adnoddau’r cynhyrchiad sydd i’w rigio a’u dad-rigio
- cadarnhau argaeledd, nifer a math y criw sydd eu hangen ar gyfer prosesau llwytho a dadosod
- nodi’r cyfarpar a’r drafnidiaeth sydd eu hangen ar gyfer y prosesau llwytho a dadosod
- trefnu a chydlynu gweithgareddau, pobl ac adnoddau i fodloni gofynion o fewn y ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer presennol
- cytuno ar amserlenni gyda’r bobl briodol
- cyflwyno gwybodaeth i staff technegol, codi a gostwng a gweithwyr allweddol eraill ym mhob tîm
- gwirio bod ardaloedd ar gyfer derbyn cydrannau’n cael eu paratoi ymlaen llaw
- cytuno ar a chyfathrebu’r safonau diogelwch sy’n berthnasol gyda’r bobl berthnasol
- ymateb i doriadau mewn gofynion iechyd a diogelwch yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
- cynnal cofnodion iechyd a diogelwch yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- ble i gaffael yr wybodaeth ar gyfer y cynllun llwytho, gosod a dadosod
- pam mae angen hysbysu staff sy’n gweithio mewn rhannau amrywiol o’r adeilad a’r awditoriwm o beth sy’n digwydd
- pwysigrwydd trafod gofynion ymarferol gyda staff technegol a chofnodi penderfyniadau
- pwysigrwydd cyfathrebu newidiadau’n brydlon a sut i wneud hyn
- y gwahanol lwyfannau gogwydd ac arwynebau perfformio anwastad a allai fod yn beryglus
- yr ystod o adnoddau sydd eu hangen a sut gellir eu caffael
- y mathau o gynllunio gwaith ac amserlenni amser
- pam mae angen i staff weithio gan ddefnyddio amserlenni cyfredol
- pwysigrwydd cytuno ar gynlluniau gweithredu gyda’r bobl sydd ynghlwm
- y mathau o gofnodion sydd angen eu cadw
- pryd i gynnig rhybudd ymlaen llaw i’r lleoliad derbyn o wybodaeth y cynhyrchiad, amserlenni, asesiadau risg, tystysgrifau Prawf Offer Cludadwy (PAT) a thystysgrifau Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chyfarpar Codi (LOLER)
- y problemau a allai godi a’r camau gweithredu unioni a ellir eu cymryd i’w datrys
- y ddeddfwriaeth, y gweithdrefnau a’r protocolau ar gyfer rigio a dad-rigio
- dillad diogelu personol (PPE) i’w ddefnyddio wrth rigio a dad-rigio cyfrannau a chynorthwyo gyda dadosod setiau
- sut i fonitro gweithgareddau llwytho, gosod a dadosod
- y gwahanol dechnolegau, technegau ac adnoddau y gellir eu defnyddio
- sut i addasu cynlluniau i weithio o fewn cyfyngiadau gwahanol leoliadau
- y mathau o ddarluniau a ddefnyddir sy’n berthnasol i’ch gwaith, sut maen nhw’n cydgysylltu a sut i echdynnu gwybodaeth ddimensiynol neu ystadegol ohonyn nhw gan gynnwys gwybodaeth am safleoedd llwyfan
- y symbolau, y derminoleg a’r arferion a ddefnyddir ar gyfer darluniau a manylebau trydanol, mecanyddol neu electronig
- sut i fonitro cyflwr a diogelwch yr adnoddau sy’n cael eu symud
- y gyfraith gyflogaeth, y cytundebau undeb a thŷ ar gyfer dyrannu gwaith a seibiannau gorffwys
- egwyddorion cyfraith contract a chanllawiau’r sefydliad ar arolygon strwythurol a phryd y mae’r rhain yn ofynnol
- y rheoliadau trafnidiaeth a phriffyrdd
- sut i gofnodi toriadau o ran iechyd a diogelwch megis llyfrau damweiniau ac adroddiadau damweiniau
- y cyfrifoldebau a’r canllawiau sefydliadol mewn perthynas â’r gweithgareddau gwaith sy’n gysylltiedig â’r broses symud
- y gofynion pacio a labelu gan gynnwys labeli pwysau a phecynnau cludo
- y ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2028
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
CCSTTL12
Galwedigaethau Perthnasol
Technegydd Cynorthwyol, Technegydd, Goruchwyliwr Technegol, Rheolwr Technegol, Prif Dechnegydd, Technegydd Theatr, Technegydd Llwyfan, Criw Technegydd, Trydanwr Cynhyrchiad
Cod SOC
Geiriau Allweddol
cynllun; proses llwytho, gosod a dadosod; cynyrchiadau theatr a byw;