Dehongli a chynllunio sain ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw
URN: SKSTTL4
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynyrchiadau Theatr a Byw – Technegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo:
2025
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynllunio sain ar gyfer cynhyrchiad. Bydd angen i chi ddehongli dyluniadau, chwilio am unrhyw wybodaeth ychwanegol a pharatoi cynlluniau manwl, cywir ac ymarferol mewn ymgynghoriad ag aelodau eraill o’r tîm.
Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â chynllunio sain ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- casglu gwybodaeth i gynllunio sain, gan ofyn am gyngor a chymorth pan fo’i angen
- asesu ymarferoldeb o ran bodloni’r gofynion sain, gan nodi unrhyw gyfleoedd a chyfyngiadau
- trin a thrafod newidiadau i sain gyda gwneuthurwyr penderfyniadau pan nad oes modd bodloni’r gofynion
- darparu gwybodaeth i reolwr y cynhyrchiad ar gyfer y trwyddedau sydd eu hangen ar gyfer sain wedi’i ail-gynhyrchu
- dewis cyfarpar i fodloni gofynion y cynhyrchiad, gan ystyried yr agweddau technegol ac ariannol ac a yw’r cyfarpar ar gael
- cynllunio safleoedd rigio ar gyfer cyfarpar sy’n cynnig yr ansawdd sain gorau posibl o fewn cyfyngiadau lleoliadau
- datblygu cynlluniau rigio sy’n manteisio i’r eithaf ar eglurder a chysondeb y perfformiad i’r gynulleidfa gyfan
- cynllunio dewis a safle cyfarpar sy’n caniatáu llwyfannu cynyrchiadau arfaethedig
- cynllunio systemau sy’n gyraeddadwy ac o fewn y cyfyngiadau cyllideb ac amser ar gyfer cynyrchiadau
- cynnwys cynlluniau wrth gefn pan fo cyfarpar yn methu
- llunio manylebau ar gyfer y systemau rydych yn eu dyfeisio
- cydnabod a rhagweld gorwariant yn y gyllideb, nodi rhesymau dros hynny a chytuno ar gamau gweithredu i fynd i’r afael ag o
- cadw cofnodion o gynlluniau y cytunwyd arnyn nhw
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- ble i gaffael gwybodaeth am y sgript, y sgôr, y briff, y dyluniadau y cytunwyd arnyn nhw, cyd-destunau’r cynhyrchiad, gwedd a theimlad arfaethedig cynyrchiadau a disgwyliadau a dewisiadau’r gwneuthurwyr penderfyniadau
- effeithiau gwahanol ffurfiau llwyfan ar ddyluniadau goleuo a phwysigrwydd adolygu gwybodaeth ar yr holl leoliadau a’r amgylchiadau lle bwriedir defnyddio dyluniadau
- pwy sy’n gyfrifol am ddyluniadau a’r gofynion creadigol a thechnegol a sut y byddwch yn cael eich hysbysu am unrhyw newidiadau i ofynion dylunio
- sut i ddadansoddi gofynion dyluniadau sain
- cyfyngiadau a therfynau amser cynhyrchu, ariannol ac adnoddau, y paramedrau ansawdd ar gyfer y gwaith a’r hyblygrwydd ynghylch cyfyngiadau y cytunwyd arnyn nhw
- sut i weithio’n unol â’r cyllidebau
- rolau a chyfrifoldebau aelodau’r tîm creadigol a thechnegol a’r llinellau cyfathrebu
- y ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer ar gyfer y defnydd o ddeunyddiau, prosesau, technoleg a’r lleoliadau sydd ynghlwm a sut i gynnal asesiadau risg ar gynlluniau staff ar gyfer staff a’r gynulleidfa
- arddull ac ansawdd sain a’r nodweddion llwyfannu nodweddiadol sy’n gysylltiedig gyda gwahanol fathau o gynyrchiadau gan gynnwys cerddoriaeth fyw, theatr, dawns, opera, digwyddiadau corfforaethol neu arenâu
- y symbolau, terminolegau, ffurfiau ac arferion a ddefnyddir mewn darluniau a manylebau trydanol, mecanyddol neu electronig, gan gynnwys darluniau sgematig
- y mathau o ddarluniau a ddefnyddir ar gyfer cynlluniau sain, sut maen nhw’n cydgysylltu a sut i echdynnu gwybodaeth ddimensiynol neu ystadegol ohonyn nhw a nodi unrhyw feysydd sy’n aneglur neu’n anghyflawn
- y trwyddedau sy’n gysylltiedig â sain a sut i’w caffael
- nodweddion perfformio’r cyfarpar sydd â’r dichonoldeb mwyaf i fodloni gofynion y cynhyrchiad
- yr egwyddorion acwsteg a sut maen nhw’n berthnasol i ddyluniad systemau sain
- yr egwyddorion electronig sylfaenol gan gynnwys rhwystriant, cynnydd, gwanhad, cymhareb signal i sŵn
- sut mae lleoliad uchelseinydd yn effeithio ar ledaeniad a gwasgariad sain
- y strwythur cynnydd a’i oblygiadau
- y gofynion cadw cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2028
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
CCSTTL9
Galwedigaethau Perthnasol
Technegydd, Technegydd Cynorthwyol, Goruchwyliwr Technegol, Rheolwr Technegol, Prif Dechnegydd, Technegydd Theatr, Technegydd Llwyfan, Technegydd Cynhyrchiad, Criw Technegydd, Technegydd Clyweledol, Technegydd Sain, Gweithredwr Sain
Cod SOC
Geiriau Allweddol
dehongli a chynllunio; sain; cynyrchiadau theatr a byw;