Gweithio ar uchder ar gynyrchiadau

URN: SKSTTL36
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynyrchiadau Theatr a Byw – Technegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â gweithio ar uchder gan gynnwys y rhagofalon angenrheidiol i gynnal eich diogelwch eich hun a diogelwch eraill wrth i chi gyflawni eich gwaith. 

Mae’n cynnwys defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) a systemau diogelu rhag disgyn personol (PFPS) yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r gweithdrefnau neu’r datganiadau dulliau. Bydd hefyd yn ymwneud â rhoi gweithdrefnau mewn lle pan fo argyfyngau. 

Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio ar uchder ar gynyrchiadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. caffael trwyddedau i weithio ar uchder
  2. cynnal asesiad risg yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
  3. gwirio’r ardal waith am rwystrau a allai amharu ac achosi cyfyngiadau o ran gweithio ar uchder neu ddefnyddio systemau diogelu rhag disgyn personol
  4. eithrio pobl ddiangen neu anawdurdodedig o ardaloedd gwaith cyn cychwyn ar y gwaith
  5. adnabod Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) a Systemau Diogelu Rhag Disgyn Personol (PFPS) ar gyfer amodau’r safle a’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
  6. cynnal gwiriadau cyn defnyddio i sicrhau bod y PPE, PFPS a’r cyfarpar mynediad yn gweithio’n unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, y ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
  7. adrodd am ddifrod neu addasiadau i’r cyfarpar PPE a PFPS i’r bobl berthnasol
  8. canfod pwyntiau angori addas ar gyfer PFPS yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol, y codau ymarfer a’r datganiadau dulliau
  9. dilyn cynllun y cytunwyd arno i weithio ar uchder yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol, y codau ymarfer a’r datganiadau dulliau
  10. adnabod a gweithredu i fynd i’r afael â pheryglon a risgiau sy’n codi yn ystod y gwaith
  11. cynnal cyfathrebu gydag aelodau’r tîm
  12. gadael ardaloedd gwaith yn lân, diogel, taclus a heb unrhyw rwystrau a pheryglon posibl
  13. defnyddio, archwilio a storio cyfarpar gwaith, PFPS a PPE yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr
  14. cyfeirio problemau ac amodau y tu hwnt i’ch cyfrifoldeb personol chi i’r bobl awdurdodedig

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer i weithio ar uchder gan gynnwys y rheiny sy’n ymwneud â defnyddio cyfarpar ar uchder
  2. eich cyfrifoldeb personol ar gyfer defnyddio arferion a gweithdrefnau gweithio diogel wrth weithio ar uchder, a chynnal amodau diogel yn y gweithle
  3. sut i gwblhau gwiriadau cyn defnydd o PPE a’r cyfarpar gwaith a ddefnyddir i weithio ar uchder gan gynnwys addasiadau neu ddiffygion
  4. y risgiau sy’n gysylltiedig â gweithio ar uchder gan gynnwys cwympo, gollwng offer a malurion, sefydlogrwydd cyfarpar mynediad, yr ardal weithio, cyfarpar, a phobl eraill o’ch amgylch
  5. y risgiau sy’n gysylltiedig â thynnu, cludo neu drin gwrthrychau ar uchder a sut i’w rheoli
  6. pwysigrwydd cynnal cyfathrebu gydag aelodau’r tîm
  7. gweithdrefnau ac arferion cymeradwy’r gweithle ar gyfer rheoli risgiau i iechyd a diogelwch, paratoi ar gyfer gweithio ar uchder a defnyddio cyfarpar, PFPS a PPE
  8. sut i sicrhau cyn lleied â phosibl o risgiau wrth weithio ar uchder, gan gynnwys hierarchaeth y rheolaethau sy’n ymwneud â gweithio ar uchder
  9. y mathau o PFPS a’r gwahaniaethau rhwng atal cwympiadau, safle’r gwaith a chyfyngiadau’r gwaith
  10. sut y dylid defnyddio pwyntiau angori sydd wedi’u nodi ar gyfer PPE a PFPS
  11. pwysigrwydd gadael ardaloedd gwaith yn lân, diogel, taclus a heb rwystrau a pheryglon posibl
  12. pwysigrwydd amodau storio cywir ar gyfer PFPS a PPE
  13. y gweithdrefnau a’r technegau y cytunwyd arnyn nhw ar gyfer achub, argyfyngau ar uchder neu ddigwyddiadau eraill
  14. pwysigrwydd cyfeirio problemau ac amodau y tu hwnt i’ch cyfrifoldeb eich hun i’r bobl awdurdodedig

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

CCSTTL57

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd Cynorthwyol, Technegydd, Goruchwyliwr Technegol, Rheolwr Technegol, Prif Dechnegydd, Technegydd Theatr, Technegydd Llwyfan, Criw Technegydd, Technegydd Goleuo, Technegydd Clyweledol, Technegydd awtomeiddio, Technegydd Sain

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gweithio ar uchder; cyfarpar diogelu personol (PPE); systemau diogelu rhag disgyn personol (PFPS); risgiau a pheryglon; cynyrchiadau theatr a byw; cynyrchiadau;