Goruchwylio gwaith paratoi peiriannau awtomeiddio a llwyfan ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw
URN: SKSTTL35
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynyrchiadau Theatr a Byw – Technegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo:
2025
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â goruchwylio gwaith paratoi peiriannau awtomeiddio a llwyfan. Bydd gofyn i chi oruchwylio gwaith pobl eraill, gwirio bod peiriannau awtomeiddio a llwyfan wedi’u gosod ac yn gweithredu’n ddiogel yn unol â chynllun y cynhyrchiad ac ymdrin yn adeiladol ag unrhyw faterion a phroblemau.
Mae’r safon hon ar gyfer Penaethiaid Adran Awtomeiddio neu reolwyr Technegol sydd ynghlwm â goruchwylio gwaith paratoi peiriannau awtomeiddio a llwyfan ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio technegau trin, codi a gostwng diogel yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
- rhoi cyfarwyddiadau i’r bobl sydd ynghlwm i baratoi peiriannau awtomeiddio a llwyfan
- monitro cynnydd gwaith i baratoi peiriannau awtomeiddio a llwyfan
- adnabod ac ymdrin ag unrhyw broblemau wrth oruchwylio gwaith paratoi yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
- llunio plotiau peiriannau awtomeiddio a llwyfan y gellir eu hatgynhyrchu’n ddibynadwy gan berson arall ac sy’n gwneud defnydd effeithlon o’r adnoddau sydd ar gael
- defnyddio dulliau i fodloni gofynion y plot sy’n cynnal ac yn gwella naws y perfformiad
- hysbysu’r bobl berthnasol am unrhyw broblemau gyda bodloni gofynion y perfformiad
- adolygu plotiau’n rheolaidd a defnyddio’r wybodaeth hon i wella perfformiadau yn y dyfodol
- cynnal cofnodion plot yn unol â’r gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer ynghylch paratoi peiriannau awtomeiddio a llwyfan
- y mathau o broblemau a allai godi wrth weithio gyda pheiriannau awtomeiddio a llwyfan a sut i fynd i’r afael â rhain
- y gweithdrefnau a’r technegau cywir ar gyfer trin, codi a gostwng â llaw yn ddiogel
- pwysigrwydd cydweithio a chyfathrebu gyda staff eraill wrth weithio a beth allai ddigwydd os nad ydych chi’n gwneud hynny
- sut i gynnal perthnasau gwaith gydag aelodau’r tîm technegol a pham mae hyn yn bwysig
- pam mae’n bwysig llunio plotiau y gellir eu hatgynhyrchu gan berson arall a sut i wneud hynny
- yr adnoddau dynol a ffisegol sydd ar gael i chi a sut i fanteisio i’r eithaf ar y rhain
- sut i ddehongli’r drefn goleunodau penodol a sicrhau bod gofynion y plot yn ategu’r rhain
- y mathau o broblemau a allai godi yn ystod y perfformiad
- pwysigrwydd adolygu a gwella plotiau, pwy ddylech chi wneud hyn gyda nhw a sut i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol
- sut i gynnal cofnodion plot yn unol â’r gofynion sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2028
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSTTL35
Galwedigaethau Perthnasol
Technegydd awtomeiddio
Cod SOC
Geiriau Allweddol
goruchwylio; awtomeiddio; peiriannau llwyfan; peiriannau set, cynyrchiadau theatr a byw;