Goruchwylio gwaith paratoi a gosod cydrannau codi a gostwng ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw
URN: SKSTTL34
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynyrchiadau Theatr a Byw – Technegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo:
2025
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â goruchwylio paratoi systemau codi a gostwng neu osod cydrannau codi a gostwng ar set. Bydd gofyn i chi oruchwylio gwaith pobl eraill, gwirio bod cyfarpar codi a gostwng a’r cydrannau codi a gostwng wedi’u paratoi a’u gosod yn ddiogel yn unol â chynllun y cynhyrchiad, cynhyrchu plotiau codi a gostwng i ategu’r broses cynhyrchu ac ymdrin yn adeiladol ag unrhyw broblemau.
Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â goruchwylio paratoi systemau codi a gostwng a gosod cydrannau codi a gostwng ar gyfer cynyrchiadau theatr a byw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio technegau trin, codi a gostwng diogel yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
- rhoi cyfarwyddiadau i’r bobl sydd ynghlwm i baratoi systemau codi a gostwng neu osod cydrannau codi a gostwng
- monitro cynnydd gwaith i baratoi systemau codi a gostwng neu osod cydrannau codi a gostwng
- adnabod ac ymdrin â phroblemau ac argyfyngau yn unol â’r ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer
- llunio plotiau codi a gostwng y gellir eu hatgynhyrchu’n ddibynadwy gan berson arall ac sy’n gwneud defnydd effeithlon o’r adnoddau sydd ar gael
- defnyddio dulliau i gyflawni gofynion plot sy’n cynnal ac yn gwella naws y perfformiad
- hysbysu’r bobl berthnasol am unrhyw broblemau rhag gallu bodloni gofynion y perfformiad
- adolygu plotiau codi a gostwng yn rheolaidd a defnyddio’r wybodaeth hon i wella perfformiadau yn y dyfodol
- cadw cofnodion plot yn unol â’r gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y gofynion sefydliadol a’r codau ymarfer sy’n ymwneud â pharatoi a gosod systemau codi a gostwng
- y mathau o faterion a allai godi wrth weithio gyda systemau codi a gostwng a sut i fynd i’r afael â’r rhain
- y gweithdrefnau a’r technegau cywir ar gyfer trin, codi a gostwng â llaw yn ddiogel
- pwysigrwydd cynnal perthnasau gwaith gyda staff eraill gan gynnwys aelodau o’r tîm technegol
- pam mae’n bwysig llunio plotiau y gellir eu hatgynhyrchu gan berson arall a sut i wneud hynny
- yr adnoddau dynol a ffisegol sydd ar gael a sut i fanteisio i’r eithaf ar y rhain
- sut i ddehongli naws y perfformiad a sicrhau bod gofynion y plot yn ategu’r rhain
- y problemau a allai godi gyda bodloni gofynion y perfformiad a sut i fynd i’r afael â nhw
- pwysigrwydd adolygu a gwella plotiau codi a gostwng, pwy ddylech chi wneud hyn gyda nhw a sut i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol
- sut i gynnal cofnodion plot yn unol â’r gofynion sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2028
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
CCSTTL33
Galwedigaethau Perthnasol
Technegydd Cynorthwyol, Technegydd, Goruchwyliwr Technegol, Rheolwr Technegol, Prif Dechnegydd, Technegydd Theatr, Technegydd Llwyfan, Technegydd Cynhyrchiad, Criw Technegydd
Cod SOC
Geiriau Allweddol
goruchwylio; codi a gostwng; cydrannau codi a gostwng; gosod; paratoi; cynyrchiadau theatr a byw;